Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod
blaenorol a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2020 fel cofnod cywir. |
|
Y diweddaraf/Adborth gan yr Ymgynghorwyr Herio. (Llafar) Cofnodion: Amlinellodd Helen
Morgan-Rees, yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr ac yn
dilyn cyngor gan Lywodraeth Cymru, y bu'n ofynnol i ysgolion gau wythnos yn
gynnar a chwblhau'r tymor drwy ddysgu o bell. Ers gwyliau'r
Nadolig roedd ysgolion wedi derbyn cyfarwyddyd i aros ar gau (heblaw am blant
diamddiffyn a phlant gweithwyr allweddol) tan 29 Ionawr i ddechrau, gyda
phosibilrwydd o ymestyn hyn i hanner tymor mis Chwefror os bydd cyfraddau
heintio presennol COVID yn parhau. Amlinellodd y
gwaith rhagorol a wnaed mewn ysgolion yn ystod tymor yr hydref i gadw ysgolion
ar agor, cynnal dysgu a lleihau'r risgiau fel eu bod mor isel â phosib a
chynnal amgylchedd diogel i ddisgyblion a staff. Dywedodd fod
llawer o ysgolion wedi bod yn cynllunio ar gyfer cyfyngiadau symud posib ym mis
Ionawr a'u bod wedi paratoi gwersi rhithwir a phecynnau papur i baratoi ar
gyfer hynny. Diweddarwyd
asesiadau risg ysgolion yn dilyn y cyngor SAGE diweddaraf. Yn dilyn yr
wybodaeth a'r ystadegau a ddarparwyd yng nghyfarfod mis Rhagfyr, rhoddodd yr
wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor am faterion sy'n ymwneud â chynhwysiad
digidol ac amlinellodd ganlyniadau'r arolwg a oedd yn nodi faint o ddisgyblion
nad oedd ganddynt ddyfeisiau priodol. Roedd y nifer hwn, er yn uwch nag yr
hoffai'r adran iddo fod, yn adlewyrchu canran fach yn unig o boblogaeth
gyffredinol yr ysgol, ac roedd yn bwysig nodi nad oedd y ffigur yn cyfleu nifer
y disgyblion heb ddyfeisiau, ond y rheini â dyfeisiau nad ydynt yn briodol ar
gyfer dysgu. Croesawyd y datblygiad a oedd yn caniatáu i blant gael mynediad at
ddysgu drwy eu dyfeisiau gemau cyfrifiadurol. Mewn ymateb i
hyn, roedd yr adran wedi dosbarthu 1000 o liniaduron a Chromebooks
ychwanegol i ysgolion uwchradd yn ddiweddar, ac mae cannoedd o ddyfeisiau ar
gyfer ysgolion cynradd yn cael eu paratoi ar hyn o bryd gan staff adrannol i'w
dosbarthu yn ystod yr wythnos nesaf. Dosbarthwyd hefyd ddyfeisiau MIFI
ychwanegol i'r disgyblion hynny y nodwyd bod ganddynt broblemau cysylltedd. Erbyn hyn bydd bron i 10,000 o ddyfeisiau
bellach wedi'u dosbarthu ers dechrau'r pandemig. Mae diffyg
ymgysylltiad rhai disgyblion yn parhau i beri pryder, ond mae ysgolion yn
monitro'r defnydd a'r gwaith a gyflwynir ac yn cysylltu â rhieni lle bo angen. Mae'r mater o
beidio â defnyddio dyfeisiau yn cael ei fonitro a gellir darparu gwybodaeth i
aelodau'r pwyllgor pan fydd ar gael. Yna, diweddarodd
Damien Beech a Sarah Loydon y pwyllgor ar faterion sy'n ymwneud â'r cyfnod
cynradd a chyfeiriwyd yn fanwl at wahanol faterion a phroblemau, gan gynnwys y
canlynol: ·
Cynhaliwyd
ymweliadau cymorth ag ysgolion yn nhymor yr hydref, rhai yn bersonol, ond fe'u cynhaliwyd yn bennaf drwy Teams
a thros y ffôn; ·
Ymdriniodd
ymgynghorwyr â phob ysgol yn unigol ond gydag ymagwedd gyffredin, gan edrych ar
feysydd a oedd yn cynnwys dysgu cyfunol, lles disgyblion a staff, paratoi
cwricwlwm i Gymru a gwario grantiau dysgu carlam; ·
Roedd
y pryderon a’r materion cyffredin a godwyd ac a amlygwyd gan ysgolion yn
cynnwys tarfu ar ddysgu o ganlyniad i ynysu grwpiau blwyddyn; ·
Problemau
dysgu cyfunol/o bell, absenoldebau staff/disgyblion a phryder a phwysau ar
uwch-staff; ·
Materion
gweithredol – fel amserau dechrau/gorffen gwasgarog, systemau un ffordd, swigod
dosbarth/blwyddyn, mwy o weithdrefnau hylendid a glanhau, llai o gyswllt
corfforol â rhieni/gwarcheidwaid; ·
Archwiliwyd
27 o ysgolion gan swyddog iechyd a diogelwch yr awdurdod – nodwyd a
gweithredwyd rhai mân welliannau; ·
Adborth
rhagorol ac adroddiadau cadarnhaol gan swyddog yr ALl
a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn dilyn eu hymweliadau; ·
Ymwybyddiaeth
a dealltwriaeth gan ddisgyblion a staff o'r materion a wynebir mewn ysgolion
oherwydd y pandemig; ·
Cynyddu
cyswllt rhithwir a ffôn gyda rhieni/gwarcheidwaid; ·
Ehangu
gweithgarwch allanol mewn ysgolion o ganlyniad i'r angen am gadw pellter
cymdeithasol ac ati; ·
Ymagweddau
ysgol gyfan/syniadau dysgu teuluol i gynorthwyo ymgysylltiad disgyblion; ·
Lleihau'r
cwricwlwm gan ganolbwyntio mwy ar rifedd, llythrennedd a thechnoleg gwybodaeth; ·
Materion
sy’n ymwneud â marcio ac asesu; ·
Monitro
staff gan uwch-reolwyr o fewn ysgolion; ·
ADY –
gwell cyswllt â disgyblion a rhieni, tasgau ar-lein a phapur a baratowyd ac a
ddosbarthwyd, adolygu cynnydd gyda rhieni, gwaith cyfleusterau addysgu
arbenigol i gynorthwyo pobl ifanc gartref; ·
TG –
cafodd sgiliau disgyblion, rhieni a staff oll eu gwella drwy anghenraid, drwy
rannu profiadau a gwybodaeth, cyngor ac arweiniad a roddwyd ac a ddosbarthwyd; ·
Adolygiadau
ac arolygon dysgu cyfunol a gynhelir gan ysgolion gyda disgyblion a rhieni; ·
Gwell
cyfathrebu â rhieni drwy e-bost, negeseuon testun, galwadau ffôn, cyfryngau
cymdeithasol a llwyfannau ar-lein; ·
Asesu
ac adolygu disgyblion ar ôl dychwelyd i'r ysgol yn nhymor yr hydref i asesu eu
hanghenion dysgu; ·
Materion
sy'n codi o'r cyfyngiadau symud cychwynnol a nodwyd gyda disgyblion wrth
ddychwelyd i'r ysgol, gan gynnwys diffyg gwydnwch, annibyniaeth, stamina a
chanolbwyntio a mentrau a syniadau a ddefnyddir i fynd i'r afael â'r rhain gan
wahanol ysgolion; ·
Gwahanol ffyrdd y mae ysgolion wedi datblygu a defnyddio
dulliau anghydamseredig a chydamseredig; ·
Defnyddio
grantiau i wella'r ddarpariaeth wrth symud ymlaen a mynd i'r afael ag anghenion
a meysydd a nodwyd trwy adolygiadau disgyblion a datblygu syniadau a mentrau
newydd i gynorthwyo dysgu; ·
Materion
lles sy'n effeithio ar ddisgyblion fel profedigaeth, profiadau niweidiol yn
ystod plentyndod, gorbryder, iselder a hunan-niweidio
y mae staff wedi gorfod delio â hwy a'r cymorth a roddir i bobl ifanc; ·
Rhaglenni
parhad a dysgu cyfunol sydd wedi'u datblygu ac sydd bellach yn cael eu
defnyddio a'u profi'n dda oherwydd materion ynysu disgyblion/blwyddyn, ac
effaith y cyfnod atal byr a gorffen tymor yr hydref yn gynnar a bod y rhaglen
wedi gwella'n fawr ers ei datblygiad cychwynnol ar ddechrau'r cyfyngiadau symud
cyntaf ond ei bod bob amser yn cael ei hailystyried a'i hailarchwilio
i’w gwella a’i haddasu; ·
Amlinellwyd
y defnydd amrywiol o'r grant recriwtio, adennill a chodi safonau mewn ysgolion
gan gynnwys y meysydd canlynol:
i.
Crëwyd cyfwerth â 23.1 o swyddi addysgu
ychwanegol,
ii.
1598+ awr ychwanegol o gymorth cynorthwywyr
addysgu. Os rhennir hyn â 27.5 awr (contract TA nodweddiadol) mae'n
cyfateb i tua 58 o swyddi TA CALl ychwanegol.
Er bod hwn yn ffigur cyfatebol, nid yw o reidrwydd yn golygu bod 58 o CAau newydd bellach yn gweithio yn Abertawe. Mewn
nifer o ysgolion, mae'r staff presennol wedi cynyddu eu horiau. Defnyddir
staff presennol yn aml oherwydd pwysau ariannol ond hefyd i ddefnyddio
arbenigedd staff mewnol sydd wedi derbyn hyfforddiant, sy'n adnabod y
disgyblion etc.,
iii.
5.1 diswyddiadau athrawon wedi'u hosgoi drwy
ddefnyddio grant,
iv.
Osgoi colli 120.5 o oriau cynorthwyydd addysgu
drwy ddefnyddio'r grant (sy'n cyfateb i 4.4 swydd CALl),
v.
Nifer yr ysgolion sydd â mwy o swyddi staff
cynorthwyo addysgu: 54,
vi.
Nifer yr ysgolion sydd â mwy o swyddi staff
addysgu: 21,
vii.
Nifer yr ysgolion sydd â mwy o swyddi staff CA
ac addysgu: 12,
viii.
Nifer yr ysgolion sydd â mwy o swyddi anogwr
dysgu: 3. ·
Mae
ysgolion yn archwilio'r ymagweddau addysgeg ac yn chwilio am ffyrdd o fanteisio
i'r eithaf ar y cyfleoedd dysgu i ddisgyblion; ·
Defnyddiodd
ysgolion a gynlluniodd ar gyfer cyfyngiadau symud posib yn y dyfodol y
dychweliad i'r ysgol ym mis Medi i wella sgiliau a hyfforddi disgyblion a staff
i ddefnyddio eu sgiliau TG yn well; ·
Bydd
y defnydd o ddysgu yn yr awyr agored a phrosiectau'n cynyddu pan fydd
disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol; ·
Iechyd
a Lles – mae rhan o ffocws Cwricwlwm i Gymru a COVID wedi pwysleisio
pwysigrwydd hyn. Yna, rhoddodd Rob
Davies a Rob Phillips yr wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor am faterion sy'n
ymwneud â'r cyfnod uwchradd a manylodd a chyfeiriodd at wahanol faterion a
meysydd i'w gwella ac arfer da a nodwyd, gan gynnwys y ciplun canlynol o
ysgolion: Ysgol Gyfun
Llandeilo Ferwallt Gwellwyd sgiliau
staff, gwellwyd cyfathrebiad â rhieni a datblygwyd fforwm digidol i staff lle
mae staff yn cynorthwyo cydweithwyr gyda chymorth a hyfforddiant o ran TG.
Arweiniodd hyn at waith paratoi a sicrhaodd fod yr ysgol yn barod ar gyfer y
cyfnod atal byr a gorffen addysgu'n gynnar ym mis Rhagfyr. Cynhaliwyd arolwg o
ddisgyblion, cymysgedd o wersi byw a gwersi wedi'u recordio, datblygwyd protocol
ar gyfer gwersi ar-lein o ran sgwrsio/adborth etc., sydd wedi'i rannu fel arfer
da, dysgu papur hefyd ar gael. Ysgol Gyfun
Penyrheol Wedi mabwysiadu
dull mwy anghydamseredig yn dilyn adborth gan ddisgyblion a oedd yn dangos bod
bron i 50% yn rhannu dyfeisiau, roedd staff wedi paratoi gwaith cyn y cyfnod
atal byr felly roedd mewn sefyllfa dda i gyflwyno gwersi ar-lein, roedd dysgu
cyfunol yn cynnwys cwricwlwm llawn, trefn brofi ac adborth, lefelau isel iawn o
ddiffyg ymgysylltu a gweithdrefnau ar waith i gysylltu â disgyblion a rhieni. UCD Materion yn
ymwneud â rhai o'r dysgwyr mwyaf diamddiffyn sydd â chefndiroedd heriol iawn ac
anghenion ac amodau arbenigol iawn, lefel uwch o gymorth a chyswllt gan staff i
gefnogi ac ymgysylltu â disgyblion a rhieni, mentrau a gwaith a wnaed i oresgyn
y rhwystrau i ddysgu, roedd y cyfyngiadau symud cychwynnol mewn gwirionedd yn
gwella'r berthynas â theuluoedd drwy gyswllt mwy rheolaidd, cysylltiadau da a
ddatblygwyd gyda swyddogion lles addysg, dysgu wedi'i dargedu a sesiynau i
unigolion, adnoddau arbenigol a ddosberthir i ddisgyblion, darpariaeth ddysgu
cyfunol. Ysgol Gyfun yr
Esgob Vaughan Ers i ddisgyblion
ddychwelyd i'r ysgol yn nhymor yr hydref, mae cyfres o weithgareddau cyfoethogi
ac ymgysylltu, grwpiau a chlybiau wedi'u sefydlu a'u cyflwyno, gwell cymorth i
deuluoedd, yn enwedig y rheini a oedd yn gwarchod ac sydd â materion iechyd,
arfarniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ymagwedd dysgu ac addysgu sefydliad
gwaddol addysg, staff yn cefnogi ei gilydd yn enwedig gyda materion TG drwy
ddigwyddiadau gyda'r hwyr, cymorthfeydd staff a sesiynau ymarfer, defnydd
effeithiol o gwis i fonitro cynnydd disgyblion. Ysgolion
Arbennig Heriau
gwirioneddol i gyflwyno dysgu cyfunol/o bell oherwydd bod y disgyblion yn
agored iawn i niwed oherwydd eu cyflyrau corfforol ac emosiynol, bu'n rhaid i'r
ddwy ysgol gysylltu â rhieni a’u hyfforddi er mwyn sicrhau y gallai dysgu
ddigwydd oherwydd anghenion hynod gymhleth a heriol y disgyblion, CAUau unigol a ddatblygwyd ar gyfer disgyblion, darparu
sesiynau byw a sesiynau wedi'u recordio, offer arbenigol a anfonwyd adref i
gynorthwyo dysgu. Datblygodd rhieni lefel well o ddealltwriaeth o anghenion
dysgu a chynnydd disgyblion oherwydd mwy o gyfranogiad, roedd ailagor y pwll hydrotherapi wedi gwella cynnydd corfforol, adroddiadau
rhagorol gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac Estyn ar Crug Glas
sydd wedi'u nodi a'u rhannu fel enghreifftiau o arfer gorau. Trafododd
aelodau'r pwyllgor yn faith y materion a'r problemau a godwyd uchod a gwnaeth y
ddau sylwadau ynghylch y materion a gofynnwyd cyfres o gwestiynau i'r
swyddogion a ymatebodd yn unol â hynny. Roeddent yn canmol yr ysgolion a'r
adran addysg am y gwaith a'r ymdrechion yr oeddent wedi'u gwneud i alluogi pobl
ifanc i barhau i ddysgu. Roedd y
Cynghorydd J A Raynor, Aelod y Cabinet dros Addysg, Dysgu a Sgiliau yn cefnogi
sylwadau'r pwyllgor a nododd fod y BBC ac S4C yn dechrau rhaglenni yr wythnos
nesaf i gefnogi rhieni plant mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Nododd fod ysgolion
wedi bod yn cynllunio ac yn paratoi ar gyfer y cyfyngiadau symud presennol o
ganol tymor yr hydref ac mae ysgolion wedi datblygu cymysgedd ac ystod o ddysgu
byw/wedi'i recordio/papur sy'n gwasanaethu eu disgyblion orau. Diolchodd y Cadeirydd
i'r swyddogion am y cyflwyniad a'r diweddariad. |
|
Cynllun Gwaith 2020 - 2021. PDF 26 KB Cofnodion: Nododd y
Cadeirydd, oherwydd goblygiadau sylweddol parhaus pandemig
COVID a'i effaith enfawr a'i bwysau ar staff yn ganolog o fewn yr adran ac mewn
ysgolion, y gallai fod yn ddoeth oedi'r adolygiad presennol o oblygiadau COVID
a’r ddarpariaeth dysgu cyfunol. Awgrymodd fod y
pwyllgor, yn dilyn yr wybodaeth ddiweddaraf a gawsant yn ystod eu cyfarfodydd
diwethaf, yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am fentrau a materion sy'n ymwneud â
lles disgyblion, yn enwedig o ran y grŵp dysgwyr ehangach sy'n agored i
niwed. Amlinellodd fod y
Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl yn edrych ar faterion lles sy'n ymwneud â
gofalwyr ifanc ar hyn o bryd, felly byddai'n gwahodd Cadeirydd y pwyllgor hwnnw
i ddod i'r cyfarfod er mwyn cyfrannu at y drafodaeth. Penderfynwyd y byddai'r cyfarfod nesaf yn cynnwys
cyflwyniad llafar ar faterion lles sy'n ymwneud â dysgwyr diamddiffyn. |