Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 2 Medi ac 1 Hydref 2020 fel
cofnod cywir. |
|
Cynllun Gwaith 2020/2021 Trafodaethau. PDF 107 KB Cofnodion: Dywedodd y
Cadeirydd, fel a drafodwyd eisoes gan y pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Medi,
fod angen archwilio effaith COVID-19 ar addysg pobl ifanc yn y dyfodol. Bydd
opsiynau dysgu cyfunol ac yn enwedig defnydd ac argaeledd cyfarpar TGCh a
mynediad at y rhyngrwyd yn fater hanfodol yn y dyfodol oherwydd y tebygolrwydd
y bydd rhagor o darfu ar ddarpariaeth addysg yn y dyfodol oherwydd y pandemig. Dywedodd fod y
diweddariad a ddarparwyd ym mis Medi wedi amlinellu'r camau breision a gymerwyd
mewn cyfnod byr gan yr adran addysg wrth ddatblygu a darparu cyfleoedd dysgu i
bobl ifanc ar draws y ddinas yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol cyntaf. Rhoddodd Helen
Morgan-Rees ddiweddariad llafar byr ar y ddwy brif elfen allweddol yr oedd yr
Adran wedi gweithio tuag atynt i ddechrau yn y Cynllun Parhad Dysgu a'r Cynllun
Dychwelyd yn Ddiogel i'r Ysgol. Mae'r olaf wedi'i
gwblhau'n llwyddiannus a bydd y grŵp tasg a gorffen a ffurfiwyd i
oruchwylio a monitro'r mater yn cwrdd ar gyfer ei gyfarfod olaf ddechrau mis
Rhagfyr. Amlinellwyd y
gwahanol heriau sy'n deillio o COVID-19 ac amlinellwyd i’r pwyllgor y gwahanol
ffyrdd cyfunol/o bell/cydamserol o gyflwyno gwaith a gwersi i ddisgyblion. Mae cysondeb ac
ansawdd dysgu yn fater allweddol yn ogystal â'r angen i sicrhau nad yw
disgyblion yn cael eu heithrio rhag dysgu gartref oherwydd diffyg caledwedd
TGCh neu broblemau cysylltedd â'r rhyngrwyd. Dywedodd fod yr
adran mewn cysylltiad rheolaidd â Llywodraeth Cymru a'i sefydliadau partner, ac
yn ddiweddar mae wedi cael adborth cynnar ar arfer da gan Estyn yn dilyn eu
harolwg o ysgolion. Mae enghreifftiau
o arfer da ar gael ac mae angen eu rhannu, eu dosbarthu a'u hyrwyddo mor eang â
phosib. Amlinellodd y
Cynghorydd J A Raynor, Aelod y Cabinet dros Addysg, Dysgu a Sgiliau fod yr
adran wedi gwneud cynnydd rhagorol a chyflym o ran datblygu a chyflwyno'r
gwasanaeth dysgu cyfunol yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf, a oedd yn cynnwys
gwersi rhithwir a dysgu gartref trwy ddeunyddiau wedi’u hargraffu a
ddosbarthwyd gan ysgolion. Byddai angen adolygiad
o'r ddarpariaeth ddysgu gyfunol yn y dyfodol, yn ogystal â'r angen i sicrhau
nad yw’r holl bobl ifanc yn cael eu heithrio yn ddigidol a bod ganddynt
ddyfeisiau priodol i'w galluogi i gwblhau eu llwyth gwaith gartref, a bod
ganddynt gysylltiad rhyngrwyd angenrheidiol. Amlinellwyd hefyd
yr angen am ddatblygiad proffesiynol parhaus a hyfforddiant ychwanegol i
athrawon a staff ysgolion er mwyn sicrhau darpariaeth addysg barhaus ac o
ansawdd fel maes i'w adolygu. Trafododd
aelodau'r pwyllgor y materion a godwyd uchod a gofynnwyd cwestiynau amrywiol
i'r Swyddog a'r Aelod Cabinet a ymatebodd yn briodol. Awgrymodd y
Cadeirydd y gallai'r pedwar maes canlynol fod yn sail i adolygiad y pwyllgor
o'r ddarpariaeth adolygu gyfunol bresennol yn Abertawe, ·
mynediad
at gyfleoedd dysgu; ·
ymagweddau
a ddefnyddiwyd a'r arferion gorau a ddatblygwyd; ·
dysgu
proffesiynol; ·
safbwyntiau
dysgwyr. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
cymeradwyo
dysgu cyfunol fel pwnc i'w archwilio a'i adolygu gan y Pwyllgor Datblygu
Polisi. 2)
cyflwyno
adroddiad diweddaru ar y ddarpariaeth bresennol o ddysgu cyfunol i gyfarfod
nesaf y Pwyllgor Datblygu Polisi ar 9 Rhagfyr 2020. |