Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi
cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf 2020 fel cofnod
cywir. |
|
Goblygiadau a Pharatoi ar Gyfer y Cwricwlwm Newydd yn Ysgolion Abertawe. PDF 453 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Amlinellodd y
Cadeirydd fod yr adroddiad yn nodi diwedd gwaith a chyfarfodydd y Pwyllgorau
Datblygu Polisi dros y misoedd diwethaf. Diolchodd i'r
holl swyddogion, ysgolion a sefydliadau partner a oedd wedi mynychu'r gwahanol
gyfarfodydd ac a gyfrannodd at adolygiad y pwyllgor. Amlinellodd fod
yr adroddiad yn anochel wedi'i ohirio oherwydd effaith enfawr COVID-19 ar y
cyngor a'r Gwasanaeth Addysg yn benodol. Diolchodd i Swyddogion yr adran am eu
cymorth wrth ddrafftio'r adroddiad. Cyfeiriodd at yr
enghreifftiau rhagorol ac eang o arfer da sydd eisoes i'w gweld yn ysgolion
Abertawe, a nododd y dylai'r adroddiad hwn eu rhoi ar sail fwy ffurfiol wrth
symud ymlaen. Yna amlinellodd
Helen Morgan-Rees y cefndir a'r rhesymeg y tu ôl i ddrafftio'r adroddiad a
chyfeiriodd yn fanwl at bob un o'r naw prif argymhelliad a nodwyd yn yr
adroddiad. Trafododd
aelodau'r pwyllgor yr adroddiad a gwnaethant sylwadau am ei grynhoad, a
gofynnon nhw gwestiynau amrywiol i'r swyddog sy'n gysylltiedig â'r adroddiad
a'r dystiolaeth a gyflwynwyd ac a drafodwyd yn ystod ei adolygiad, ac ymatebodd
y swyddog yn unol â hynny. Croesawodd a chefnogodd
y Pwyllgor yr adroddiad. Penderfynwyd cymeradwyo'r adroddiad hwnnw a'i drafod
yng nghyfarfod y Cabinet ar 17 Medi 2020. |
|
Y Diweddaraf am Covid-19. PDF 266 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd Helen Morgan-Rees a Damien Beech ddiweddariad manwl a chynhwysfawr
i'r pwyllgor ynghylch ymateb yr Awdurdod i'r cyfnod dan gyfyngiadau symud
COVID-19 a'r cyfnod cau ac ailagor ysgolion wedi hynny. Cyfeiriwyd at
effaith gychwynnol cau ysgolion a'r effaith a gafwyd yn dilyn y cyngor gan
Lywodraeth Cymru y byddai ysgolion yn cael eu 'hadnewyddu' ac yn dod yn
lleoliadau gofal plant brys i helpu i gefnogi'r rhai sydd mwyaf anghenus, gan
gynnwys pobl sy'n ymwneud â'r ymateb uniongyrchol i argyfwng Coronafeirws megis y GIG a gweithwyr gofal ac allweddol. Amlinellwyd, yn
ystod y cyfnod cau ysgolion at ddibenion addysg statudol, y diwygiwyd
blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a'i holl bartneriaid ar draws y system addysg
i gefnogi'r canlynol: ·
diogelwch
ein holl ddysgwyr a'n gweithlu addysg; ·
iechyd
a lles corfforol a meddyliol ein holl ddysgwyr a'n gweithlu addysg; ·
gallu
ein holl ddysgwyr i barhau i ddysgu; a ·
throsglwyddo
dysgwyr yn ôl i'r ysgol ac i gam nesaf eu dysgu pan ddaw'r amser. Amlinellwyd y
sefydlwyd Bwrdd Addysg Brys (BAB) ac y cynhaliwyd cyfarfodydd yn gyflym - roedd
aelodaeth y bwrdd yn cynnwys uwch swyddogion o'r gyfarwyddiaeth addysg a
phenaethiaid o'r sectorau cynradd ac uwchradd. Dosbarthwyd
gwybodaeth a chyngor i ysgolion gan y grŵp hwn, yn ddyddiol i ddechrau. Yna creodd y BAB
grŵp tasg a gorffen i adolygu'r asesiad risg a'r cynllun gweithredol
gwreiddiol a roddwyd i ysgolion ar ddechrau'r cyfnod cau. Roedd y grŵp hwn
yn cynnwys penaethiaid, swyddogion, arweinyddiaeth ysgolion a chynrychiolaeth
undebau llafur. Rhannwyd y ddogfennaeth ddiwygiedig ag ysgolion ac fe'i
diweddarwyd yn barhaus fel rhan o gylch gwaith y grŵp tasg a gorffen i
ailagor ysgolion. Yna crëwyd Bwrdd
Cynllun Parhad Dysgu rhanbarthol (PD) ac ymunodd swyddogion o'r timau cyfnod
cynradd ac uwchradd â'r bwrdd i gynnig cymorth a chyngor. Yn dilyn
cyhoeddiad y Gweinidog Addysg ar 3 Mehefin y byddai pob ysgol yn ailagor i
gynnig cyfle i'w dysgwyr fynychu sesiynau 'ailgydio, dal i fyny a pharatoi' (ADiFaPh). Cynigiodd ysgolion y sesiynau ar gyfradd lai gan
ystyried y cyngor a'r wybodaeth wyddonol a oedd ar gael ar y pryd a'r mesurau
yr oedd angen eu rhoi ar waith i helpu i leihau'r risg o drosglwyddo posib. Er mwyn rhoi
gwell dealltwriaeth i ysgolion o nifer y disgyblion i'w disgwyl, cyhoeddodd y
grŵp tasg a gorffen ail-agor ysgolion arolwg i holl rieni a gofalwr
Abertawe. Gofynnodd yr arolwg a fyddai rhieni a gofalwyr yn anfon eu plant yn
ôl i'r ysgol ar gyfer sesiynau ADiFaPh, beth yr
hoffent ei weld ar waith o ran mesurau diogelwch a beth oedd eu pryderon.
Hefyd, manteisiodd ar y cyfle i ofyn barn ymatebwyr am y cynnig dysgu o bell
gan ysgol eu plentyn. Amlinellwyd a
chanmolwyd hefyd y gwaith a'r paratoi sylweddol a helaeth a wnaed gan
swyddogion wrth baratoi'r asesiadau risg angenrheidiol cyn yr ADiFaPh. Mae'r broses
asesu risg a'r cyngor yn parhau yn ystod y tymor newydd, ond cyrff llywodraethu
ac uwch dimau rheoli ysgolion sy'n gyfrifol am fwrw ymlaen â hyn yn y dyfodol. Cynhaliwyd arolwg
'Coronavirus and Me' hefyd,
a oedd ar gyfer plant a phobl ifanc ac a oedd yn ceisio eu barn ar effaith y pandemig ar eu lles a'u hagweddau at ddychwelyd i'r ysgol. Amlinellwyd
canlyniadau'r ddau arolwg yn fanwl yn yr adroddiad a rhannwyd eu canlyniadau gydag
ysgolion, gyda'r adran hefyd yn cynnal ymarfer helaeth ac yn paratoi
canlyniadau data ysgol yn ôl ysgolion a anfonwyd i ysgolion unigol. Amlinellwyd a
thrafodwyd pwysigrwydd cael pobl ifanc i ddychwelyd i ysgolion a cholegau yn
nhymor yr hydref am yr holl resymau a ffactorau a amlinellwyd ac a nodwyd yn yr
adroddiad. Mae gwell
cyswllt, cydweithio a gwerthfawrogiad o rolau rhwng adrannau'r awdurdod a
sefydliadau allanol/partner hefyd wedi bod yn fuddiol drwy gydol y cyfnod dan
gyfyngiadau symud ac wedi hynny oherwydd trefniadau cydweithio gwell. Diolchodd y
Cadeirydd a'r Pwyllgor i'r Swyddogion am eu hadroddiad manwl a llawn gwybodaeth
ar y mater hwn. |
|
Cynllun Gwaith 2019/2020. PDF 206 KB Cofnodion: Adroddodd y Cadeirydd fod y Cabinet i fod i
ystyried adroddiad yn ymwneud â COVID ar 17 Medi, a allai effeithio ar waith y
PDP. Nododd, o
ganlyniad, y byddai'n ddoeth canslo'r cyfarfod PDP a drefnwyd ar gyfer 9 Medi er
mwyn ystyried unrhyw wybodaeth a phynciau ychwanegol a amlygwyd gan y Cabinet
wrth lunio'i gynllun gwaith ar gyfer 2020-2021 yng nghyfarfod 14 Hydref. Penderfynwyd y dylid canslo'r cyfarfod a drefnwyd ar
gyfer 9 Medi. |