Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi
cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 11 Mawrth 2020 fel cofnod
cywir. |
|
Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd aelodau a swyddogion i gyfarfod cyntaf y pwyllgor ers dechrau'r
cyfyngiadau symud ac effeithiau pandemig COVID-19. Adroddodd fod y gwaith ar adroddiad drafft y Cabinet am y Cwricwlwm Newydd wedi cael ei ohirio yn ystod y pandemig gan fod angen i swyddogion ymdrin â materion eraill a oedd yn bwysicach. Dywedodd hefyd efallai y bydd angen ailystyried y 3 maes pwnc a gytunwyd gan yr aelodau yn ystod y cyfarfod diwethaf i'w hadolygu yn y dyfodol, a/neu ychwanegu atynt er mwyn cynnwys unrhyw faterion penodol sydd wedi dod i'r amlwg o ganlyniad i COVID-19. Adroddodd Helen Morgan-Rees fod swyddogion wedi ailddechrau’r gwaith ar yr adroddiad drafft am y cwricwlwm newydd a dywedodd y byddai'n barod i'r aelodau ei ystyried erbyn diwedd mis Gorffennaf. Yna, rhoddodd ddiweddariad llafar i'r pwyllgor am sut mae'r adran wedi mabwysiadu 'cynllun parhad
dysgu' yn ystod y pandemig. Dau brif nod y cynllun hwn oedd diogelu lles a
dysgu'r disgyblion trwy ddysgu o bell a chefnogaeth o safon a thrwy weithio
gyda phenaethiaid, swyddogion awdurdodau lleol, rhwydweithiau ac undebau i
lunio ffyrdd newydd o weithio. Roedd yr ymagwedd hon yn cynnwys y deg prif amcan canlynol: ·
Cefnogi teuluoedd sydd dan
anfantais yn ddigidol; ·
Darparu cyngor ac arweiniad
i gefnogi teuluoedd (lles a dysgu); ·
Rhannu adnoddau o ansawdd
uchel ac arfer gorau i gefnogi lles a dysgu o bell ar draws ysgolion; ·
Darparu adnoddau a
chyfleoedd Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) o safon i ysgolion; ·
Ystyried ymagweddau er
mwyn lliniaru yn erbyn bylchau'n lledaenu rhwng grwpiau o ddisgyblion (e.e.
disgyblion o gefndiroedd difreintiedig, Anghenion Dysgu Ychwanegol, Saesneg fel
iaith ychwanegol etc.); ·
Hyrwyddo dysgu trwy
gyfrwng y Gymraeg (gan gynnwys cefnogi disgyblion mewn ysgolion Cymraeg o
gefndiroedd Saesneg eu hiaith); ·
Darparu arweiniad a
chefnogaeth i ysgolion a llywodraethwyr ar fusnes ysgol; ·
Ystyried sut gallai
ysgolion ailagor yn ddiogel; ·
Cefnogaeth dechnegol i
ysgolion gyda graddau wedi'u hasesu ar gyfer TGAU a Safon Uwch a materion
eraill sy'n berthnasol i ddisgyblion sy'n sefyll arholiadau, e.e. Blwyddyn
10/12; ·
Pontio - cynradd/uwchradd
ac uwchradd/ôl-16. Amlinellodd yr ymarfer cwmpasu ac ymchwil helaeth a gynhaliwyd i ddod o hyd
i’r disgyblion hynny sydd dan anfantais yn ddigidol a darparwyd mwy na 550 o
ddyfeisiau a 400 o becynnau wi-fi cartref i'r disgyblion hynny i’w galluogi i
ddysgu gartref, yr oedd rhai ohonynt wedi’u hariannu trwy grantiau gan
Lywodraeth Cymru. Mae Datblygiad Ysgol Rithiwr Abertawe (YRhA) https://swanseavirtualschool.org/cy/tudalenflaen/ wedi bod yn ddatblygiad
rhagorol y gall yr awdurdod fod yn falch iawn ohono, o gofio’r graddfeydd amser. Mae'r ysgol
rithwir yn cynnwys cyflenwad eang o wybodaeth amrywiol, gwersi
enghreifftiol ar-lein, cyngor i ddisgyblion/rieni/ofalwyr a dolenni i DPP i staff. Amlinellodd y darpariaethau gofal
plant sydd ar waith mewn ysgolion ar gyfer plant 'gweithwyr allweddol', ac amlinellodd
yr ymagwedd a ddatblygwyd i helpu pobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl a'r
rheini ag anghenion ADY. Amlinellodd y gefnogaeth a'r cyngor a
roddwyd i gyrff llywodraethu hefyd. Dywedodd ei bod hi’n debygol y
byddai'r rhaglen dysgu cyfunol o ddarpariaeth ysgol/ddigidol/gartref yn parhau
yn nhymor yr hydref, gan ddibynnu ar y gyfradd ailheintio a chyngor gan
Lywodraeth Cymru. Amlinellodd y gwaith a wnaed gyda
Blwyddyn 11 ar gyfer 2020 a'r asesiadau a gynhaliwyd ar gyfer canlyniadau
arholiadau eleni. Erys disgyblion Blwyddyn 11 2021 a sut yr effeithir ar eu
hastudiaethau/arholiadau yn bryder ac ni wnaed penderfyniad ynghylch hyn eto.
Mae’r broses bontio i'r ysgol uwchradd ar gyfer plant Blwyddyn 6 eleni hefyd yn
achosi pryder, er bod teithiau rhithwir a chyflwyniadau ar-lein i'r ysgol a'r
athrawon newydd wedi helpu'r sefyllfa. Yna, amlinellodd Damian Beech yn
fanylach y DPP a'r adnoddau ansawdd uchel sydd ar waith ac sydd ar gael i ysgolion a'u staff trwy YRhA
a'r rhwydweithiau cynradd ac uwchradd amrywiol a hen sefydledig. Mae'r wefan
hefyd yn cyfeirio athrawon at feysydd arfer gorau ac yn nodi gweithgareddau
ar-lein y gellir eu defnyddio. Dywedodd y cynhaliwyd gweminar
lwyddiannus iawn ymwneud â dysgu cyfunol yr wythnos diwethaf gyda thros 300 o
athrawon yn 'bresennol'. Roedd gweminar ychwanegol hefyd yn cael ei chynnal
heddiw ynghylch dosbarthiadau ar-lein. Amlinellwyd bod ERW wedi rhyddhau
adnoddau hefyd i helpu gyda datblygiad a darpariaeth dosbarthiadau Cymraeg.
Dywedodd hefyd fod deg aelod o staff wedi cofrestru ar gyfer dosbarthiadau
sabothol. Rhoddodd fanylion y
cysylltiadau a ddatblygwyd gyda Book Trust Cymru a grŵp theatr ar-lein. Tynnodd sylw at y swm enfawr o ymchwil, gwaith, ymdrech a chyd-drefnu a fu
ynghlwm wrth gynllunio ar gyfer ailagor ysgolion. Esboniodd yr arfer da yr
arsylwyd arno, yr asesiadau risg a gwblhawyd, a mewnbwn ysgolion, undebau, AD,
cyfreithiol a'r is-adran cludiant a gyfrannodd at y broses ailagor.
Ymgynghorwyd â rhieni ynghylch y cynigion hefyd. Amlinellodd fod y dasg o gael gafael ar y cyfarpar amddiffyn personol (PPE)
angenrheidiol ar gyfer pob ysgol wedi bod yn un enfawr. Daethpwyd o hyd i’r
offer, ei brynu a’i ddosbarthu i ysgolion cyn iddynt ailagor. Dywedodd eto bod y gwaith a'r cynllunio'n parhau ar gyfer y tymor newydd ym
mis Medi, yn amodol ar unrhyw gyfyngiadau pellach, boed yn lleol neu'n
genedlaethol, ac yn dilyn cyngor gan Lywodraeth Cymru. Gofynnodd aelod o'r pwyllgor nifer o gwestiynau i'r swyddogion ynghylch y
pynciau a'r materion a drafodwyd uchod, ac ymatebodd y swyddogion yn briodol. Roedd y Cadeirydd am ddweud diolch ar ei ran ef ac ar ran y pwyllgor i’r ddau swyddog sy’n gweithio’n ganolog yn yr adran addysg, a'r holl staff sy'n gweithio mewn ysgolion, a chyfleu ei werthfawrogiad o'r holl waith a'r ymdrech a wnaed ganddynt wrth ddarparu a chynnal y ddarpariaeth addysg i bobl ifanc ledled y ddinas mewn amgylchiadau ingol ac anodd iawn yn ystod y cyfyngiadau symud ac ers llacio’r cyfyngiadau’n rhannol ac wrth ailagor ysgolion. Adleisiwyd a chefnogwyd sylwadau’r Cadeirydd gan aelodau'r pwyllgor. Dywedodd y Cadeirydd hefyd gan y byddai adroddiad drafft y Cabinet ar gael
ar ddiwedd mis Gorffennaf, y byddai angen trefnu cyfarfod arbennig o'r pwyllgor
ym mis Awst i ystyried hyn. Gallai’r
cyfarfod arbennig hefyd gynnwys diweddariad gan swyddogion ac adroddiad
cwmpasu sy'n cynnwys y meysydd a godwyd ac a drafodwyd uchod gan gynnwys
pynciau megis isadeiledd digidol a gallu, dysgu o bell/dysgu cyfunol,
dyluniad/cynllun ysgolion, adborth gan arolygon rhieni etc. Cytunwyd i gynnal cyfarfod arbennig o'r pwyllgor ddydd
Mercher 5 Awst am 4pm i ystyried y ddau adroddiad a amlinellwyd uchod. |