Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636824 

Eitemau
Rhif Eitem

18.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

19.

Cofnodion. pdf eicon PDF 232 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 11 Medi 2019 fel cofnod cywir.

 

20.

Trafodaeth gydag ysgolion.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y staff o ysgolion cynradd Llanrhidian a'r Trallwn i'r cyfarfod.

 

Trallwn

Amlinellodd Rebecca Barker a Debbie Bond y cynnydd a wnaed ar y fenter a gyflwynodd yr ysgol ers iddi gael ei dewis fel ysgol arloesi.

 

Fe'i dewiswyd i fod yn ysgol arloesol gyda ffocws penodol ar ILlC - ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu.

 

Dywedodd y staff eu bod wedi croesawu'r posibilrwydd o newid a datblygwyd ymagwedd ysgol gyfan ganddynt.

 

Rhoddwyd cyflwyniad PowerPoint manwl ac addysgiadol ganddynt a oedd yn cynnwys y meysydd pwnc canlynol:

·         Ymagwedd ysgol gyfan - digwyddiad ffair bleser - adborth gwych gan y plant, y rhieni a'r gymuned, sylw cadarnhaol yn y wasg;

·         Disgyblion arloesi - datblygu llais y disgybl;

·         Menter recriwtio - cysylltu ag ERW i ddatblygu a phenodi swydd arloeswr cwricwlwm ILlC;

·         Strwythur arweinyddiaeth newydd - bydd yr holl ysgol yn ymwneud â'r Meysydd Dysgu a Phrofiad, o'r uwch-dîm arweinyddiaeth i'r disgyblion

·         Trefn ddiwygiedig i'r strwythur staffio;

·         Amlygu'r pedwar diben - gwasanaeth ysgol gyfan gan ganolbwyntio ar fod yn uchelgeisiol, yn hyderus, yn greadigol ac yn foesegol, dathlu diben yr wythnos, cylchlythyr wythnosol i rieni, tystysgrifau i dynnu sylw at gyflawniadau a dibenion, datblygu posteri pedwar diben pwrpasol sy'n cael eu harddangos trwy'r ysgol;

·         Enghreifftiau o bosteri cyflawniadau a phosteri sy'n manylu ar y cysylltiadau rhwng y pynciau;

·         Cynnwys rhieni - cylchlythyr wythnosol, noson rieni - menter cynnwys rhieni, gweithdai i rieni, cyswllt rheolaidd rhwng athrawon a rhieni;

·         Athrawon yn datblygu'r cwricwlwm trwy ei ddatblygu ar y cyd;

·         Datblygiad staff - adborth rheolaidd o sesiynau Llywodraeth Cymru sy'n rhoi'r diweddaraf i staff ac yn eu cynnwys, mae'r 4 diben yn fater allweddol wrth symud ymlaen, enghreifftiau da o waith clwstwr cynradd gydag Ysgol Cefn Hengoed sydd wedi'i gysylltu'n agos gyda'r 12 Egwyddor Addysgeg, rhannu arfer da ymhlith staff;

·         Rôl Gwella Ansawdd (GA) - pan gyhoeddwyd y cwricwlwm newydd, daeth menter yr ysgolion arloesi i ben ond roeddent yn gallu gwneud cais am y cam nesaf sef y rôl GA, digwyddiadau ERW amrywiol ar gyfer Penaethiaid ac Athrawon;

·         Cynllunwyr y cwricwlwm - datblygu a chefnogi disgyblion trwy gynllun llais y disgybl, rhoddir rolau i ddisgyblion ynghyd â bathodynnau er mwyn parhau i gynnal cyfranogiad;

·         Diwrnod hyfforddiant mewn swydd i'r ysgol gyfan - y 6ed diwrnod a gymerwyd ar gyfer y ddwy flynedd nesaf - caiff ei ddefnyddio ar gyfer cynllunio'r cwricwlwm newydd gyda'r staff;

·         Cynllunio y dylanwadwyd arno gan y disgyblion o fewn y Meysydd Dysgu a Phrofiad;

·         Cydweithio - cysylltiadau clwstwr gwych â phwnc ar y cyd (planet bwyd) a ddatblygwyd ar draws 7 ysgol gynradd ac ysgol gyfun;

·         Datblygwyd llyfrau newydd i ddisgyblion er mwyn adlewyrchu'r cwricwlwm newydd yn well trwy Feysydd Dysgu a Phrofiad, y 4 diben ac ysgolion sy'n parchu hawliau, cynnwys y plant a chynyddu eu hymwybyddiaeth o'r rhesymau pam y dylent ddysgu a'r hyn y dylent ei ddysgu;

·         Llyfr camau i ddyfodol llwyddiannus - mae'n cynnwys gwybodaeth am sut y mae'r 6 maes dysgu a phrofiad yn cysylltu â'i gilydd;

·         Llyfrau ILlC - fe'u lluniwyd i gefnogi rhannu profiadau, ymarfer sgiliau a defnyddio gwybodaeth;

·         Rhaglen Gwella Ysgolion - yn gysylltiedig â fframwaith Estyn a sail ILlC y cwricwlwm newydd;

·         Diwrnod Dysgu Gwych - gweithgareddau a gynhelir unwaith y tymor sy'n cynnwys yr holl blant mewn grwpiau oedran/gallu cymysg;

·         Cymreictod - hyrwyddo'r Gymraeg a diwylliant Cymru ac annog plant i'w croesawu'n llawn, er mwyn canolbwyntio'n fwy ar ddefnyddio'r Gymraeg mewn ysgolion a'i gwneud yn fwy perthnasol;

·         Amser iaith - defnydd bob dydd o'r iaith ac anogaeth i siarad Cymraeg yn ystod gweithgareddau dyddiol;

·         Y camau nesaf - athrawon fel ymchwilwyr, adborth gan y disgyblion, dilyniant wrth ddysgu ac ym myd addysg:

 

Llanrhidian

 

Cyfeiriodd Donna Caswell a Rebecca Jones hefyd at y cynnydd a'r mentrau a gyflwynwyd gan eu hysgol ers iddi gael ei dewis fel ysgol arloesi; roedd hefyd wedi symud ymlaen i fod yn ysgol GA ers cyhoeddi'r cwricwlwm drafft newydd.

 

Mynegwyd mai rôl cychwynnol yr ysgolion arloesi oedd ymchwilio i arfer da a datblygu syniadau am gynnydd ac nid arloesi.

 

Rhoddwyd cyflwyniad PowerPoint manwl ac addysgiadol ganddynt a oedd yn cynnwys y pynciau canlynol:

·         Ein cwricwlwm - fe'i hadeiladwyd ar weledigaeth ar gyfer dysgu, ar sylfeini cadarn a dyheadau uchel i ddysgwyr, dysgu trwy weithgareddau, hyblygrwydd addysgu a defnydd o adeiladau ysgol, strwythur staffio sefydledig, pynciau newydd bob blwyddyn i blant ymddiddori ynddynt;

·         Cwricwlwm i Gymru - disgrifiadau o ddysgu/cynllunio'r cwricwlwm/gweithgareddau a thasgau, syniadau uchelgeisiol sydd wedi'u cefnogi gan ddulliau cyflwyno lefel isel;

·         Y 4 prif ddiben - bod yn uchelgeisiol, yn foesol, yn iach ac yn fentrus - mae pob un yn cysylltu â'r ysgol, hamdden, gwaith etc;

·         Partneriaeth Ysgolion Gogledd Gŵyr (PGG);

·         Lles - model ysgol iechyd meddwl - haenau a lefelau cefnogaeth gwahanol i bawb/rhai/ychydig;

·         Darparu cyfleoedd i ddatblygu sgiliau ehangach megis meddwl beirniadol a datrys problemau, hyrwyddo creadigrwydd, arloesedd ac effeithiolrwydd personol;

·         Llinyn 1 - ymagwedd cyfoethogi a phrofiad er mwyn ennyn diddordeb a datblygu plant;

·         Ymchwilio i'r hyn sy'n gwneud ysgol dda neu wael - cyrhaeddiad uchel/isel a hyblygrwydd addysgu;

·         Diagram sy'n dangos nodweddion ystafell ddosbarth sy'n gweithredu ar lefel uchel;

·         Cwricwlwm newydd - beth/sut/pam yw sail y cynigion;

·         Addysgeg - esbonio beth ydyw - mae'n fwy nag addysgu'n unig, gosod sail ar gyfer yr wybodaeth, hyrwyddo dysgu;

·         12 egwyddor addysgeg;

·         Sut rydym yn cynllunio'n cwricwlwm ysgol - pynciau ysgol gyfan/tymhorol, diwrnod lansio, sicrhau bod gwybodaeth a sgiliau'n cyd-fynd â'i gilydd, cynllunio'n fanwl.

·         Ceisio cael dysgwyr annibynnol - arweinir hyn gan yr athrawon ond mae'n canolbwyntio ar y plant a dysgu;

·         Sut y mae plant yn dysgu yn Llanrhidian - 2 brif ffordd, gweithgareddau penodol a phrofiadau i ddatblygu sgiliau, gweithgareddau cyniferydd deallusrwydd dilys a pherthnasol a phrofiadau sy'n hyrwyddo cydweithio ac sy'n galluogi plant i roi sgiliau ar waith ar lefel briodol;

·         Continwwm aeddfedrwydd - yn seiliedig ar ymchwil a datblygiad da;

·         Datblygu system asesu flaengar - EDSM (yn dod i'r amlwg/yn datblygu/yn sicr/wedi'i feistroli);

·         Ymagwedd HABER (defnyddiol, cywir, cytbwys, empathetig a pharchus) at feddwl yn feirniadol ac yn greadigol;

·         Cyd-destunau lleol a byd-eang ar gyfer datblygiad cynaliadwy a'i gysylltiadau â'r meysydd pwnc;

·         O fis Medi 2019 ymlaen - symud i ffwrdd o'r cyfnodau allweddol, bydd ystafelloedd dosbarth yn troi'n weithdai, adolygu'r diwrnod ysgol a'r amserau;

·         Disgwyliadau uchel gan staff wrth symud ymlaen;

·         Proses hunanwerthuso gadarn;

·         Yr effaith ar safonau ac ymddygiad hyd yma a gwelliannau a wnaed ym mhob maes;

·         Y camau nesaf - dylunio, cwblhau a symleiddio cwricwlwm yn unol â'r egwyddorion newydd, gwella adrodd i rieni:

 

Gofynnodd yr aelodau a'r swyddogion gwestiynau amrywiol i gynrychiolwyr yr ysgol ynghylch y pynciau a amlinellwyd uchod a chynhailwyd trafodaethau hir a manwl yn y cyfarfod, ac ymatebodd y cynrychiolwyr yn briodol.

 

Roedd y trafodaethau hyn yn ymwneud â phynciau amrywiol gan gynnwys hyfforddi staff yn y dyfodol a datblygiad proffesiynol, ennyn diddordeb a gwella sgiliau'r athrawon presennol ac athrawon y dyfodol, gweithdrefnau asesu newydd ar gyfer y cwricwlwm newydd, rhannu arfer da a gwybodaeth rhwng ysgolion, mae rôl Uwch-dîm Arweinyddiaeth yr ysgol yn allweddol, argaeledd adnoddau TG da, mae'n rhaid i ysgolion ddatblygu eu hunain a defnyddio profiadau a gwybodaeth o ysgolion arloesi/GA eraill.

 

Diolchodd y Cadeirydd a'r aelodau i'r penaethiaid a'u cydweithwyr am eu cyfraniad ac am eu presenoldeb.

 

21.

Cynllun Gwaith 2019/2020. pdf eicon PDF 202 KB

Cofnodion:

Nodwyd y cynllun gwaith ar gyfer gweddill y flwyddyn ddinesig.