Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Datblygu Polisi (PDP) a gynhaliwyd ar 13 Mawrth 2019 fel cofnod cywir. |
|
Grant Datblygu Disgyblion (PDG). (Adroddiad Drafft i'r Cabinet) PDF 136 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd
adroddiad drafft i'r Cabinet gan y GDD mewn perthynas ag argymhellion ynghylch
defnydd o’r Grant Datblygu Disgyblion yn y dyfodol mewn ysgolion. Diolchodd i Helen
Morgan-Rees am ei gwaith wrth gyfuno'r wybodaeth a drafodwyd gan y PDP yn ystod
ei gyfarfodydd dros y misoedd diwethaf ac am ddrafftio'r adroddiad i'r Cabinet.
Amlinellodd
newidiadau bach ar lafar i'r adroddiadau yr hoffai eu cynnwys yn yr adroddiad
terfynol. Byddai'n cadarnhau'r newidiadau perthnasol yn ysgrifenedig gyda'r
swyddogion yn dilyn y cyfarfod. Roedd y pwyllgor
yn cefnogi'r newidiadau a gynigiwyd gan y Cadeirydd. Penderfynwyd cymeradwyo'r newidiadau a amlinellwyd gan y
Cadeirydd a gyfeiriwyd at y Cabinet ar 15 Mai 2019. |
|
Cwricwlwm Newydd. (Ar Lafar) Cofnodion: Rhoddodd Helen Morgan-Rees
gyflwyniad PowerPoint i'r PDP mewn perthynas â gwybodaeth a ddarparwyd gan
Lywodraeth Cymru am 'Baratoi ar gyfer y Cwricwlwm Newydd.' Amlinellodd gopi
o'r cyflwyniad a fyddai'n cael ei ddosbarthu i aelodau yn dilyn y cyfarfod. Nododd fod y cwricwlwm
newydd yn rhan o raglen dreigl ddeng mlynedd sydd wedi cyrraedd hanner ffordd
ar hyn o bryd ac mae dwy flynedd i fynd cyn ei rhoi ar waith. Fel rhan o'r
cyflwyniad manwl ac addysgiadol, amlinellwyd a thrafodwyd y pynciau canlynol: ·
Prif
amcanion y cwricwlwm newydd; ·
Y
rhesymau y tu ôl i'r newidiadau - mae'r cwricwlwm presennol wedi bod ar waith
ers 1988/89 ac mae'n benodol iawn; ·
Prif
argymhellion ''Dyfodol Llwyddiannus” - bydd nawr yn cael ei arwain gan ddiben
yn hytrach na chynnwys a bydd yn rhoi pwyslais ar gyflawniad nid cyrhaeddiad,
gyda 12 ymagwedd addysgeg allweddol; ·
4
prif ddiben o ran cefnogi plant a phobl ifanc wrth fynd ymlaen; ·
Diffiniad
o gwricwlwm newydd; ·
Cefnogaeth
ar gyfer cwricwlwm newydd - ymagwedd genedlaethol newydd at ddysgu proffesiynol,
gweithdrefnau gwerthuso a gwella newydd; ·
Cwricwlwm
a pharhad dysgu a arweinir gan ddiben o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd; ·
Gwybodaeth
a sgiliau - dim rhagfarnau wrth fynd ymlaen; ·
5 syniad
newydd am y cwricwlwm - diben, proses, cynnydd, addysgeg a dysgu proffesiynol; ·
Prif
gydrannau newydd - cyfrifoldebau trawsgwricwlaidd, safbwynt sgiliau ehangach a
chwricwlwm lefel ysgol; ·
6
phrif faes dysgu newydd - Celfyddydau Mynegiannol, Dyniaethau, Iechyd a Lles,
Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Mathemateg a Rhifedd, ac Ieithoedd, Llythrennedd a
Chyfathrebu. ·
Datganiadau'r hyn sy'n bwysig; ·
Deilliannau
cyflawniad a gweithdrefnau asesu newydd; ·
Ymagwedd
genedlaethol ddiwygiedig at ddysgu proffesiynol i'w chyflwyno o hydref 2019. Nododd y byddai'r
wybodaeth am y cwricwlwm newydd yn cael ei dosbarthu i'r holl ysgolion yn dilyn
gwyliau'r Pasg i ymgynghori arnynt. Byddai'r cyfnod ymgynghori'n parhau tan fis
Gorffennaf. Manylodd hefyd ar
y cynllun peilot adolygu cymheiriaid newydd sydd i'w gyflwyno mewn ysgolion ym
mis Medi y bydd angen cymorth Ymgynghorwyr Herio ar ei gyfer, yr hyn a
ddarperir i ysgolion cynradd gan Estyn a sicrhau bod trefniadau arolygu
diwygiedig Estyn ar waith wrth fynd ymlaen. Gwnaed awgrym i
ddatblygu cysylltiadau â chydweithwyr yn y sector 'addysg bellach' a gwneud
gwell defnydd ohonynt mewn perthynas â grwpiau adolygu cymheiriaid. Croesawodd
y swyddog hyn a noddodd y byddai'n trafod hyn ymhellach â'i chydweithwyr ac yn
adrodd yn ôl yn y dyfodol. Trafododd yr
aelodau'r pynciau a amlinellwyd y cyflwyniad a gofynnwyd cwestiynau i'r swyddog
a ymatebodd yn briodol iddynt, yn enwedig ynghylch y meysydd pwnc canlynol: Mwy o ryddid i
ysgolion ddysgu pynciau newydd/amgen, yr angen i ysgolion/athrawon/disgyblion
newid eu hymagwedd a'u hagweddau at ddysgu, yr angen am gefnogaeth addas ar
gyfer athrawon o ran hyfforddiant ychwanegol etc, y posibilrwydd o weld/cyfuno
ymatebion ysgolion Abertawe i'r ymgynghoriad. Cytunodd yr aelodau i barhau i edrych ar fater y
cwricwlwm newydd a'i oblygiadau yn y flwyddyn ddinesig sydd ar ddod. |
|
Cynllun Gwaith 2018-2019.. PDF 100 KB Cofnodion: Yn dilyn Cofnod
44, cyfeiriodd y Cadeirydd at yr wybodaeth a ddosbarthwyd yn ddiweddar mewn
perthynas ag Ysgolion Arloesi yn Abertawe. Cyfeiriodd at drafodaethau blaenorol
y PDP mewn perthynas â'r ysgolion hyn ac amlinellodd yr angen i gwrdd â'r
Ysgolion Arloesi hyn yn ogystal â'r rhai nad ydynt yn Ysgolion Arloesi a
cheisio barn ganddynt wrth fynd ymlaen. Awgrymodd Helen
Morgan-Rees hefyd fod angen ceisio barn rhwydweithiau UCA a SCASH am y
cwricwlwm newydd. Adroddodd hefyd,
yn ychwanegol at y cyfarfod blaenorol, fod cynrychiolwyr o fusnesau lleol
wedi'u penodi ar gyfer y Grŵp Partneriaeth Sgiliau. Penderfynwyd gwahodd yr Ysgolion Arloesi a'r rhai nad
ydynt yn Ysgolion Arloesi i fod yn bresennol mewn cyfarfodydd yn y flwyddyn
ddinesig newydd, a cheisio barn y grwpiau clwstwr ac adrodd yn ôl am hynny. |