Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y cysylltiad canlynol: Datganodd y
Cynghorydd S Pritchard gysylltiad personol â chofnod 30 - fel Llywodraethwr ALl yn Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 14 Tachwedd 2018 fel cofnod cywir. |
|
Mark Thompson - Pennaeth Ysgol Gynradd San Helen ac Emma Pole - Pennaeth Gweithredol Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan. Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd y ddau bennaeth, Mark Thompson a'i staff o Ysgol San Helen ac Emma
Pole o Ysgol Cefn Hengoed, i'r cyfarfod. Darparodd Mark
Thompson, yn ogystal â Jack Branford, Alison Cable a
Beth Cunningham, gyflwyniad PowerPoint a oedd yn
amlinellu’r meysydd canlynol ac yn manylu arnynt: ·
Cefndir
cymuned yr ysgol a'i chyfansoddiad - ysgol canol dinas, 28 o ieithoedd
gwahanol, 24 cenedligrwydd gwahanol, 90% yn ddysgwyr Saesneg fel Iaith
Ychwanegol, ardal Cymunedau'n Gyntaf, poblogaeth dros dro, presenoldeb wedi
newid o fod ymysg yr isaf yn Abertawe yn 2010 i fod yn un o'r 10% orau yn 2017,
adroddiad Estyn ardderchog; ·
Rhaglen
Leadership Matters - Datblygu tîm arweinyddiaeth,
gweithio cydweithredol rhwng yr holl staff yn yr ysgol, pwysigrwydd gweithio
gyda'r plant/rhieni/gymuned; ·
Cyd-destun
a chefndir gwaith ysgolion, sy'n canolbwyntio ar helpu'r plant i elwa mewn
ffyrdd efallai na fyddant yn gweithio mewn ysgolion eraill ond sy'n
llwyddiannus yn ein cymuned ni; ·
Diwylliant a hinsawdd yr ysgol a'r gymuned, effaith
gadarnhaol fawr y rhaglen Dechrau'n Deg a'r gallu i gael staff ychwanegol sy'n
caniatáu cyswllt rheolaidd â phlant a rhieni o 2 oed. Amlinellwyd y berthynas
waith ardderchog â sefydliadau iechyd; ·
Mae'r
Grant Datblygu Disgyblion yn isel ar gyfer ysgol canol dinas - £32,000 y
flwyddyn yn unig, ac mae angen gwario'r arian hwn yn briodol er mwyn gallu cael
yr effaith fwyaf ar y plant, ac er mwyn i'r plant elwa fwyaf ohono. Amlinellwyd
y rhesymau a'r materion a oedd wedi arwain at y ffigur isel; ·
Darperir
gweithgareddau yn ystod y diwrnod ysgol ac ar ôl ysgol megis wythnos ddyheadau,
clwb dadlau, clwb llythrennedd, clwb mathemateg, côr, cylchgrawn yr ysgol, clwb
gemau bwrdd etc; ·
Caiff disgyblion sy'n cyflawni'n is a disgyblion sy'n
cyflawni'n uwch eu clustnodi i dderbyn y cymorth a'r anogaeth briodol er mwyn
eu helpu i wneud cynnydd a chyflawni; ·
Mae
clybiau galw heibio ar gael i rieni sy'n cynnig cymorth gyda TGCh, yr iaith Saesneg, ymweliadau cartref, cymorth i
gadw'n heini etc; ·
Amlinellwyd
y ffaith bod yr ysgol yn nalgylch Ysgol Dylan Thomas, ond eir yr holl blant i
Ysgol yr Olchfa neu Ysgol yr Esgob Gore; ·
Manylwyd
ar ganlyniadau disgyblion cynradd ac uwchradd sy'n dangos gwelliant
parhaus; ·
Soniwyd
am ymdrech ac ymroddiad rhagorol y staff. Gofynnodd aelodau
a swyddogion gwestiynau amrywiol i staff yr ysgol am gyfansoddiad yr ysgol a'i chymuned,
y rhesymau dros y niferoedd PYDd isel, a'r mentrau
a'r strwythurau sydd ar waith yn yr ysgol, ac ymatebodd y staff yn briodol i'r
cwestiynau hyn. Cyfeiriodd Emma
Pole at y materion a'r amgylchiadau gwahanol sy'n effeithio ar ei hysgol hi,
o’i chymharu ag Ysgol San Helen. Soniodd am
gyfansoddiad amrywiol ei hysgol hi hefyd, sydd bellach yn cynnwys 50% o
ddisgyblion nad ydynt yn Gatholig ac sy'n cynnwys 42 genedligrwydd gwahanol a
46 o ieithoedd, gyda 21% o'r disgyblion yn cael prydau ysgol am ddim. Mae'r % uchel o
ddisgyblion PYDd a lefelau amddifadedd y cymunedau
cyfagos yn golygu bod yr ysgol yn derbyn Grant Amddifadedd Disgyblion gwerth
£254,000. Dywedodd fod yr
ysgol yn archwilio ac yn defnyddio dulliau arfer da, megis Pecyn Cymorth Ymddiriedolaeth
Sutton, y Gronfa Gwaddol Addysgol a chanllawiau arfer da Estyn. Dywedodd fod
lefelau cynyddol o gefnogaeth a chymorth ar gael i bob disgybl drwy
ddarpariaeth gweithgareddau a chlybiau cefnogi amrywiol megis y parth dysgu,
cefnogaeth cyfoedion, gwell darpariaeth llyfrgell/TG, menter ddiagnostig
disgyblion, a soniodd am gyfranogiad ardderchog a rheolaidd disgyblion yn y
clybiau hyn. Nododd fod y Grant Amddifadedd Disgyblion wedi
galluogi'r ysgol i gyflogi Rheolwr a Dirprwy Iechyd a Lles. Mae'r staff hyn yn
dod i gysylltiad â disgyblion a rhieni ym mhob agwedd ar eu bywydau ysgol a
phersonol megis trwy gynnig cefnogaeth ac anogaeth ychwanegol yn eu dysgu, a
helpu ag anghenion cymdeithasol/emosiynol/iechyd, neu faterion diogelu etc. Datblygwyd
rhaglen "anogaeth" gan ddilyn yr uchod sy’n llwyddiannus iawn. Nododd fod gan yr
ysgol Chweched Dosbarth llwyddiannus gyda 99% o'r disgyblion yn llwyddo yn eu
dewis cyntaf o ran addysg uwch. Cyfeiriodd at yr agwedd wahanol a fabwysiadwyd
gan yr ysgol o ran ei pholisi derbyn i'r Chweched Dosbarth. Amlinellodd fod
yr ysgol yn canolbwyntio'n fawr ar ganlyniadau arholiadau gan eu bod yn rhoi
cymwysterau am fywyd, symudedd cymdeithasol a deilliannau allweddol i bobl
ifanc sy'n hanfodol iddynt wrth dyfu'n oedolion. Nododd fod 44% o fyfyrwyr TGAU
wedi cyflawni 5 gradd A-C yn 2017, sy'n ddwywaith y ffigur a gafwyd yn 2010. Yn ychwanegol i'w
chyflwyniad llafar dosbarthodd ddogfen fanwl i'r aelodau a oedd yn ymwneud ag
Ysgol yr Esgob Vaughan, ac a oedd yn amlinellu amrywiaeth eang o wybodaeth mewn
perthynas â'r pynciau amrywiol y mae'r pwyllgor wedi bod yn ymchwilio iddynt,
gan gynnwys data disgyblion PYDd, % y Grant
Amddifadedd Disgyblion a'r swm a gafwyd, ymagweddau sy'n seiliedig ar
dystiolaeth, arfer da, mentrau mewnol yr ysgol a darpariaeth yn ystod ac ar ôl
ysgol. Gofynnodd yr
aelodau a'r swyddogion gwestiynau amrywiol i Emma mewn perthynas â'r pynciau a
amlinellwyd uchod ac yn y daflen a ddarparwyd, ac ymatebodd Emma'n
briodol i'r cwestiynau hynny. Diolchodd y
Cadeirydd a'r aelodau i'r penaethiaid a'u cydweithwyr am eu mewnbwn a'u
presenoldeb. |
|
Cynllun Gwaith 2017 - 2018. PDF 99 KB Cofnodion: Amlinellodd y
Cadeirydd gynllun gwaith y pwyllgor ar gyfer gweddill blwyddyn ddinesig
2018/2019 Penderfynwyd nodi'r cynllun gwaith fel a ddangosir yn
yr adroddiad. |