Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636824 

Eitemau
Rhif Eitem

46.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

 

47.

Cofnodion. pdf eicon PDF 109 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Cyflwyno a Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2018 fel cofnod cywir.

 

48.

Mewnbwn/barn pobl ifanc.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd, y Prif Swyddog Addysg ac aelodau'r Pwyllgor y bobl ifanc ac athrawon o Ysgol Gyfun Cefn Hengoed ac Ysgol Gyfun Gŵyr i'r cyfarfod.

 

Nododd y Prif Swyddog Addysg ei fod wedi ymweld â'r ddwy ysgol yn ddiweddar gan siarad â chynghorau ysgol yr ysgolion, ac roeddent wedi gwneud cymaint o argraff arno roedd wedi eu gwahodd i'r cyfarfod i amlinellu eu barn. 

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan yr aelodau, ymatebodd y bobl ifanc a'r athrawon o'r ddwy ysgol gan amlinellu'r meysydd canlynol yn eu hysgolion:

·       Darpariaeth a manteision clybiau ar ôl ysgol ac amser cinio, yn enwedig ar gyfer pynciau megis gwyddoniaeth/cyfrifiadureg etc;

·       Mewnbwn athrawon ac ymgynghorwyr gyrfaoedd wrth ddewis pynciau ar gyfer TGAU a Safon Uwch;

·       Gwybodaeth dda ar gael er mwyn cysylltu pynciau â chyfleoedd posib ar gyfer swyddi/gyrfa;

·       Pwysigrwydd TG a thechnoleg newydd wrth symud ymlaen;

·       Ehangu darpariaeth TG e.e. codio;

·       Agweddau pobl ifanc at astudiaethau yn y dyfodol, yn enwedig y pynciau STEM;

·       Gwreiddio "sgiliau cyflogadwyedd" fel rhan o gwrs Bagloriaeth Cymru

·       Angen datblygu ac ehangu cysylltiadau â busnesau lleol, yn enwedig darpariaeth Gymraeg;

·       Croesawu datblygu'r defnydd o weminarau trwy Gyrfa Cymru;

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r bobl ifanc a'r athrawon am ddod i'r cyfarfod ac am eu mewnbwn.

 

Trafododd yr aelodau'r pynciau a'r materion a nodwyd yn ystod eu trafodaeth gyda'r bobl ifanc gan gyfeirio at y meysydd canlynol ar gyfer ymchwiliad pellach:

·       Pa ddarpariaeth sydd ar gael i gynnwys disgyblion llai academaidd a datblygu sgiliau a gwybodaeth y disgyblion hynny;

·       Cyfranogiad rhieni;

·       Materion sy'n ymwneud â darparu cludiant er mwyn i ddisgyblion gyrraedd adref ar ôl clybiau ar ôl ysgol;

·       Defnydd posib o'r bartneriaeth sgiliau rhanbarthol er mwyn datblygu cysylltiadau â busnesau Cymraeg.

 

49.

Mark Jones - Pennaeth Coleg Abertawe Gwyr.

Cofnodion:

 

Rhoddodd Mark Jones gyflwyniad trosolwg i'r aelodau gan amlinellu'r meysydd canlynol ar gyfer Coleg Gŵyr Abertawe:

·       Cyd-destun a chefndir darpariaeth cyrsiau coleg presennol;

·       1500+ o fyfyrwyr;

·       45 o bynciau Safon Uwch, prentisiaethau a chyrsiau galwedigaethol a lefel uwch ar gael;

·       Cynhaliwyd arfer cynllunio cwricwlwm;

·       Gweithdrefnau blynyddol ar waith er mwyn adolygu a gwerthuso'r cwricwlwm;

·       Cesglir gwybodaeth o ffynonellau amrywiol a defnyddir gwybodaeth am y farchnad;

·       Cynnwys rhanddeiliaid a chyflogwyr;

·       Ychwanegiadau newydd i'r cyrsiau sydd ar gael - gosod briciau, gwaith saer, seibrddiogelwch, cynnal a chadw cerbydau hybrid etc;

·       Dyddiad dechrau gwahanol ar gyfer cyrsiau – Medi/Ionawr;

·       Cysylltiadau presennol â phrifysgolion, cyflogwyr a diwydiannau lleol;

·       Angen ehangu a gwella cysylltiadau â busnesau a chyflogwyr yn yr ardal:

·       Cysylltiadau da â Choleg Castell-nedd Port Talbot a Choleg Sir Gâr;

·       Datblygu cysylltiadau a darparu cyrsiau yn Ysgol Gyfun Treforys yn ddiweddar, a'r potensial i'w gwneud mewn ysgolion eraill;

·       Hapus i rannu a chyfnewid gwybodaeth gyda'r cyngor/ysgolion etc;

·       Problemau parhaus o ran lefelau llythrennedd a rhifedd pobl ifanc sy'n mynd i'r coleg.

 

Diolchodd y cadeirydd i Mr Jones am ei gyflwyniad addysgiadol.

 

50.

Cysoni darpariaeth 14-19 oed - Data ar gyrsiau sydd ar gael yn Abertawe. pdf eicon PDF 18 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Nick Williams adroddiad a oedd yn crynhoi manylion am nifer y myfyrwyr sy'n cwblhau'r cyrsiau STEM amrywiol yn ysgolion Abertawe ar lefel TGAU a Safon Uwch.

 

Awgrymodd Mark Jones y byddai'n gallu darparu'r ystadegau ar gyfer y coleg mewn perthynas â'i ddarpariaeth Safon Uwch.

 

Gofynnodd yr aelodau am fwy o wybodaeth ac ystadegau am y pynciau nad ydynt yn rhai STEM.

 

Penderfynwyd cyflwyno ffigurau ychwanegol, fel a amlinellwyd uchod, yn y cyfarfod nesaf.

 

51.

Partnerieath Sgiliau Abertawe. pdf eicon PDF 87 KB

Cofnodion:

Amlinellodd a chyflwynodd Nick Williams y cylch gorchwyl drafft ar gyfer y grŵp partneriaeth newydd.

 

Amlygwyd ffurfio'r grŵp fel maes i'w ddatblygu yn adroddiad bargen ddinesig y pwyllgor y llynedd fel cyfrwng cyfathrebu rhwng yr awdurdod a'r RLSP.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cylch gorchwyl drafft ac i'r Prif Swyddog Addysg adrodd yn ôl ar y cynnydd a wnaed gan y grŵp newydd yn hwyrach yn y flwyddyn

 

52.

Diweddariad prentisiaeth.

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi gofyn am y ffigurau diweddaraf o ran nifer y prentisiaid a gyflogwyd gan yr awdurdod ar hyn o bryd.

 

Dylai'r wybodaeth fod ar gael yn y cyfarfod nesaf a gallai gael ei chysylltu â'r wybodaeth a fydd yn cael ei darparu gan Coleg Gŵyr Abertawe.

 

53.

Ymchwil gan Awdurdodau Eraill ar Bynciau STEM (Y Diweddaraf ar lafar gan aelodau)

Cofnodion:

Adroddodd y Cynghorydd L R Jones am nifer o syniadau gan awdurdodau yn Lloegr yr oedd wedi ymchwilio iddynt, megis "gŵyl ddysgu", "clwb codio", a "chynllun mentora gyda busnesau lleol".

 

Nododd ei fod yn aros am ohebiaeth ysgrifenedig am y materion.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd M Durke at brosiect TG a gwblhawyd gan PCYDDS, a oedd yn gweithio gydag ysgolion ac a oedd yn cynnwys lego a'r thema "dysgu trwy fwynhau".

 

Amlinellodd Mark Jones y digwyddiad gwyddoniaeth/peirianneg a gynhaliwyd yn ddiweddar yn y coleg a'r prosiectau amrywiol y mae'r coleg yn rhan ohonynt gydag ysgolion lleol. Nododd y byddai'n trafod y rhain gyda'r Prif Swyddog Addysg.

 

54.

Cynllun Gwaith 2017 - 2018. pdf eicon PDF 103 KB

Cofnodion:

 

Amlinellodd y Cadeirydd y cynllun gwaith ar gyfer y Pwyllgor a gweddill blwyddyn ddinesig 2017/2018.

 

Amlinellwyd yr angen i ddarparu mwy o ddata ar y cyrsiau TGAU/Safon Uwch sydd ar gael yn y cyfarfod nesaf.

 

Byddai angen adolygiad o waith y Pwyllgor dros y flwyddyn ddinesig a chynllunio ar gyfer pynciau'r flwyddyn nesaf.

 

Penderfynwyd nodi'r cynllun gwaith fel a amlinellwyd, yn amodol ar sylwadau'r uchod.