Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

39.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

40.

Cofnodion. pdf eicon PDF 108 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Cyflwyno a Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 10 Ionawr 2018 fel cofnod cywir.

 

41.

Ymchwil gan Awdurdodau Eraill ar Bynciau STEM (Y Diweddaraf ar lafar gan aelodau)

Cofnodion:

Dywedodd y Cynghorydd L R Jones ei fod wedi gofyn i nifer o awdurdodau am wybodaeth, a gobeithio y bydd yn adrodd am y canfyddiadau yn y cyfarfod nesaf.

 

Dosbarthwyd llyfryn prifysgolion gan y Cynghorydd M Durke, a oedd yn nodi'r cyfleoedd sydd ar gael yn lleol i raddedigion.

 

 

42.

Cynllun Cyfathrebu i hyrwyddo'r Fargen Ddinesig mewn Ysgolion - Diweddariad.

Cofnodion:

Dosbarthwyd rhestr o gyfarfodydd/gyflwyniadau/ddigwyddiadau gan Nick Williams a gynhaliwyd dros yr ychydig fisoedd diwethaf gyda Phenaethiaid a Dirprwy Benaethiaid ynghylch y Fargen Ddinesig, gan adrodd amdanynt a manylu arnynt.

 

Cyfeiriodd at yr adborth o'r cyfarfodydd hyn gan nodi bod yn rhaid clustnodi disgyblion dan 16 oed er mwyn codi proffil ac amlinellu'r cyfleoedd sydd ar gael.

 

Nododd yr adborth cadarnhaol yr oedd wedi'i dderbyn o'r cyfarfodydd diweddar â’r bobl ifanc mewn sawl ysgol gan nodi eu bod yn dod yn fwyfwy ymwybodol o'r cyfleoedd posib o'r Fargen Ddinesig/Morlyn etc.

 

Mae angen datblygu'r cyswllt ymhellach rhwng ysgolion a busnesau lleol a thrafodwyd hyn eto, gyda'r syniad o lunio rhestr o "siaradwyr" y gallai ysgolion ei defnyddio. Gallai'r rhain amrywio o bobl fusnes leol sy'n llwyddiannus, crefftwyr sydd wedi ymddeol, cyn-ddisgyblion, undebau llafur etc.

 

Nodwyd y trafodaethau parhaus ag ysgolion i ddatblygu syniadau ymhellach am sgyrsiau/seminarau, ymweliadau â phrifysgolion, hyrwyddo cynlluniau prentisiaid.

 

Amlinellwyd rôl y grŵp partneriaeth rhanbarthol wrth gynnwys busnesau lleol a'i thrafod, yn ogystal â rôl Gyrfa Cymru.

 

43.

Y Diweddaraf ar Adroddiad Sgiliau'r Fargen Ddinesig

Cofnodion:

Ychwanegodd y Cadeirydd at yr hyn a nodwyd yn yr adroddiad a ystyriwyd gan y Cabinet ym mis Rhagfyr a oedd yn amlygu'r angen am fwy o ffocws lleol a chydlynu gwaith yn Abertawe.

 

Cyfeiriodd at y cylch gorchwyl a dderbyniwyd yn ddiweddar ar gyfer y grŵp Partneriaeth Sgiliau Abertawe a sefydlwyd yn ddiweddar i fwydo'r Bartneriaeth Ranbarthol. Mae'r grŵp hefyd wedi sefydlu pedwar is-grŵp, y bydd pob un ohonynt yn edrych ar feysydd gwaith gwahanol.

 

Dywedodd Nick Williams fod y grŵp wedi cwrdd ac mae'n aros am sêl bendith ar ei nodau gan y pwyllgor ac Aelod y Cabinet.

 

Awgrymwyd yr angen i ddatblygu ymagwedd fwy penodol at gynorthwyo, datblygu ac annog disgyblion llai abl, yn arbennig y rhai hynny â chefndir teulu anodd, fel maes i'w adolygu yn y dyfodol.

 

44.

Y Diweddaraf ar yr Asesiad o Anghenion Sgiliau Rhanbarthol.

Cofnodion:

Amlinellodd Paul Greenwood, Cadeirydd Bwrdd y Bartneriaeth Sgiliau a Dysgu Ranbarthol a pherchennog cwmni Teddington Bell Engineering yn Llanelli, y manylion cefndir a'r rhesymau dros ei gyfranogiad gyda'r bwrdd.

 

Nododd yn ei farn ef a barn cyflogwyr lleol eraill, nad oedd gan bobl ifanc sy'n mynd i'r farchnad swyddi y sgiliau angenrheidiol heb lefel sylfaenol o lythrennedd, rhifedd a chyfathrebu.

 

Nododd fod y bartneriaeth wedi datblygu o gorff addysgol i sefydliad o gyflogwyr bellach, gyda thros 300 o gwmnïau'n rhan ohoni. Nododd fod wyth grŵp clwstwr islaw'r Grŵp Rhanbarthol wedi'u sefydlu i edrych ar feysydd penodol. Mae cadeirydd pob un o'r wyth grŵp yn adrodd i'r Bwrdd Rhanbarthol.

 

Nododd fod y bwrdd yn llwyr gefnogi'r syniad o hyrwyddo a chefnogi'r syniad o gyrsiau a chymwysterau nad ydynt yn raddau/fasnach neu'n alwedigaethol.

 

Nododd fod effaith bosib y Fargen Ddinesig, y Morlyn a mentrau newydd eraill gan Lywodraeth Cymru'n cael eu hystyried gan y bwrdd.

 

Yn ei farn ef, y grŵp cyn 16 oed yw'r maes ffocws allweddol a dylid datblygu sgiliau sylfaenol.

 

Trafododd Mr Greenwood ac aelodau ffactorau amrywiol yn fanwl a'r hyn sy'n dylanwadu ar y broses addysg, gan gynnwys y meysydd canlynol: - canfyddiad o'r system addysg gan fusnesau, darpariaeth AB bresennol, yr angen i wella darpariaeth ysgolion cynradd a deilliannau dysgu, hyd a manylion cyrsiau prifysgolion presennol, hyrwyddo lefel y dysgu i botensial enillion, pwysigrwydd rôl rhieni, materion ynghylch diffyg cydweithredu rhwng y ddwy brifysgol, yr angen i greu gweithlu mwy cytbwys, problemau gyda biwrocratiaeth ysgolion a thargedau arholiadau, angen coladu pa ddarpariaeth sydd ar gael ar draws y rhanbarth i bobl ifanc a darpariaeth ôl-16.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Mr Greenwood am ddod i'r cyfarfod ac am ei fewnbwn.

 

 

45.

Cynllun Gwaith 2017 - 2018. pdf eicon PDF 101 KB

Cofnodion:

Amlinellodd y Cadeirydd y cynllun gwaith ar gyfer y pwyllgor a gweddill blwyddyn ddinesig 2017/2018.

 

Mae angen darparu mwy o ddata yn y cyfarfod nesaf ar y cyrsiau TGAU/Safon Uwch sydd ar gael. Byddai'r adroddiad drafft i'r Cabinet felly'n cael ei ohirio tan gyfarfod yn y dyfodol.

 

Edrychir ar y posibilrwydd bod pobl ifanc yn dod i gyfarfod yn y dyfodol i fynegi eu barn.

 

Penderfynwyd bod y cynllun gwaith a nodwyd, yn amodol ar y sylwadau uchod, yn cael ei nodi.