Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: Y Cynghorydd M A
Langstone - Personol - cofnod 31 "Effeithiau ar Hyfforddiant
Athrawon" - aelod o Lys Prifysgol Abertawe. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Cyflwyno a
Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd 2017 fel cofnod
cywir. |
|
Effeithiau ar Hyfforddiant Athrawon. (trafodaethau) Cofnodion: Rhoddodd Joanna
Thomas gyflwyniad PowerPoint manwl a llawn gwybodaeth a oedd yn amlinellu'r
rhesymeg a'r cefndir y tu ôl i gais Prifysgol Abertawe i'r Cyngor Gweithlu
Addysg i fod yn ddarparwr Hyfforddiant Athrawon. Bydd canlyniadau hyn yn cael
eu cyhoeddi ym mis Mehefin. Byddai hyn yn caniatáu cyfnod o amser i roi
strwythurau staffio ac addysgu priodol ar waith er mwyn dechrau yn nhymor yr
hydref 2019. Nododd fod
Llywodraeth Cymru wedi nodi bod angen cysylltiad sy'n fwy seiliedig ar ymchwil
ar gyfer prifysgolion sy'n darparu addysg gychwynnol i athrawon. Fel rhan o'r
cyflwyniad, amlinellodd a chyfeiriodd at y meysydd canlynol: ·
Beth
fydd yn digwydd yn y dyfodol? Effaith y Fargen Ddinesig a chynigion arloesedd; ·
Pa
sgiliau fydd eu hangen er mwyn bodloni heriau'r dyfodol - goblygiadau'r
fframwaith cymhwysedd digidol a chyfleoedd darpariaeth yn y dyfodol ar gyfer
athrawon a dysgwyr; ·
Goblygiadau
o ran darpariaeth addysg yn y dyfodol - sut rydym yn paratoi dysgwyr ar gyfer
swyddi nad ydynt yn bodoli ar hyn o bryd; ·
Materion
i'w hystyried - cyfyngiadau cyfrifiaduron, angen hybu creadigrwydd a meddwl yn
feirniadol; ·
Yr
effaith ar addysg gychwynnol i athrawon - angen gallu sicrhau bod athrawon sy'n
cael eu cyflogi yn ddigidol gymwys a bod ganddynt sgiliau ymchwil a datrys
problemau; ·
Rhaglenni
partneriaeth newydd - gwreiddio cymhwysedd digidol ar draws darpariaeth
ysgolion/prifysgolion, pwysigrwydd ymagwedd thematig ac angen annog gwybodaeth
drawsgwricwlaidd ·
Cefndir
y model ymchwilio/ymholi - cylch adlewyrchol cadarn o weithgareddau, dulliau
ymchwilio wedi'u gwreiddio ar gyfer disgyblion a staff, pwysigrwydd rhannu
syniadau/canfyddiadau/arfer da; ·
Prif
nodweddion y model ymchwilio/ymholi - cylch gwaith a rhaglen bartneriaeth; ·
Cynllunio
a chyflwyno ar y cyd - rhaglen ddigwyddiadau rhoi theori ar waith, adolygu
effeithiolrwydd athrawon, effeithiau amddifadedd/dysgu amgen/anghenion addysgol
arbennig; ·
Hyfforddi
ar gyfer dilyniant - mae angen diwygio/gwella'r cynllun mentora i wneud
athrawon yn fwy gwydn, hyblyg a chefnogol, rhannu arfer da'n well ag athrawon
profiadol, prosiect rhaglen cyfarpar i annog hyfforddi yn hytrach na mentora.
Nododd y byddai arian ar gael i gyflogi rhywun i weithio yn lle athrawon sydd
wedi cael secondiad i'r rhaglen wrth iddynt ailhyfforddi. Yn ogystal, nododd
bwysigrwydd darpariaeth Gymraeg. ·
Casgliad
- mae angen i athrawon fod yn barod ac yn fodlon newid, DPP mwy penodol a
pharhaus ac mae angen newid a gwella agweddau a dyheadau dysgwyr. Trafododd yr
aelodau a swyddogion y problemau a amlinellwyd yn y cyflwyniad yn helaeth ac
amlinellon nhw fod llawer o'r cynigion megis gwella sgiliau digidol, materion
ynghylch pynciau STEM a gwella hyfforddiant athrawon yn rhai yr oeddent wedi'u
nodi a'u codi mewn cyfarfodydd blaenorol. Yn ogystal â hyn, nodon nhw eu
cefnogaeth dros y cynigion gan y brifysgol a'u croesawu. Trafodwyd yr
angen i gael mwy o ffocws lleol wrth fynd ymlaen, yn enwedig mewn perthynas ag
effaith y Fargen Ddinesig, ac amlinellwyd yr angen i fwydo'r ffocws lleol i'n
gwaith rhanbarthol. Diolchodd y
Cadeirydd i Joanne Thomas am ei chyflwyniad. |
|
Cydlynu Darpariaeth Ôl-16 - Heriau a Chyfleoedd. PDF 79 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Siaradodd Nick
Williams a David Bawden i gefnogi'r papurau a ddosbarthwyd ac amlinellodd
ddiben a rôl, aelodaeth, atebolrwydd a ffyrdd o weithio yn Rhwydweithiau Dysgu
14-19 ac Ôl-16 Abertawe a ail-ffurfiwyd yn ddiweddar. Dosbarthwyd strwythur
Grŵp Gweithredol y Bartneriaeth Ddysgu, yn ogystal â gwybodaeth am bedwar
is-grŵp y rhwydwaith mewn cefnogaeth. Caiff gwaith a
chanlyniadau'r grwpiau hyn eu monitro a'u hadolygu ar ôl y 12 mis cyntaf. Trafodwyd y
gostyngiadau mewn cyllid yn y cwricwlwm 14-19 dros y blynyddoedd diwethaf ac
aildrefnu Gyrfa Cymru, sydd wedi cael effaith ar y ddarpariaeth. Nododd David
Bawden ei fod yn ail flwyddyn ei secondiad o Goleg Gŵyr yn y rôl a
gofynnwyd iddo archwilio'r ddarpariaeth ôl-16 bresennol. Cyfeiriodd at yr
adroddiad a luniwyd yn gynharach eleni, "Diweddariad ôl-16". Nododd ei fod yn
gweithio gyda Choleg Gŵyr, dosbarthiadau'r chweched a Gyrfa Cymru i lunio
cynllun a strwythur i gynorthwyo cyfathrebu ag ysgolion. Cyfeiriwyd at y
pynciau canlynol ac fe'u trafodwyd: effaith bosib "Cwricwlwm i Gymru,
Cwricwlwm am Oes" (Donaldson), newidiadau i Gymwysterau Cymru, newid
ffocws a chyfeiriad Estyn, cynllun pontio a menter y Warant Ieuenctid, effaith
y Fargen Ddinesig a mewnbwn o gynllun sgiliau cyflogaeth rhanbarthol. Amlinellwyd a
thrafodwyd y canlynol hefyd: nodau'r gweithgorau yw ceisio gwella materion
ynghylch cydweithrediad rhwng ysgolion, gweithio clwstwr/ar y cyd, amserlen
gyffredin, darpariaeth addysgu a rennir. Croesawodd yr
aelodau'r cynigion i wella gweithio mewn partneriaeth ar y cyfan, ond
ailadroddon eu barn am faterion megis yr angen i hyrwyddo cwricwlwm
amgen/crefftau, codi dyheadau pobl ifanc a chynyddu darpariaeth a sgiliau
digidol a pheirianneg. Amlinellodd Mark
Jones ei gefnogaeth gyffredinol nodau'r rhwydweithiau dysgu, ond awgrymodd y
dylai'r awdurdod fynd ymhellach ac ymdrechu i gyflawni cyfres o nodau mwy
penodol a chlir. Mae hyn yn arbennig o berthnasol o ran TG, uwch-gynhyrchu a
pheirianneg sy'n ystyried anghenion penodol Abertawe yn fwy, o gofio effaith
bosib ac anghenion penodol y bydd y Fargen Ddinesig yn eu creu. Byddai hyn yn
galluogi'r grŵp i gael nodau a thargedau lleol cliriach. Croesawodd
aelodau'r awgrymiadau uchod a gofynnon i'r Prif Swyddog Addysg (PSA) ystyried y
mater. Esboniodd y PSA ein bod ni'n bwriadu llunio grŵp partneriaeth i
ganolbwyntio'n benodol ar yr agenda sgiliau yn Abertawe. Byddai hyn yn cysylltu
â'r Bartneriaeth Ddysgu Rhanbarthol. Byddai hynny'n cynnwys Aelod y Cabinet
dros Addysg ac aelod priodol arall. Nododd y PSA y
byddai'n gwneud hyn yn ogystal ag adrodd yn ôl ar lafar yn y cyfarfod ym mis
Ionawr am y Fargen Ddinesig, pynciau STEM a chynigion clwstwr a drafodwyd yng
nghyfarfod diweddar y Penaethiaid Uwchradd. Nododd y
Cadeirydd y byddai'r awgrym uchod a meysydd eraill a nodwyd gan y pwyllgor yn
cael eu cynnwys yn adroddiad drafft y Cabinet yn y flwyddyn newydd, a fydd yn
adlewyrchu'r meysydd a amlygwyd o ran cynnydd. |
|
Cynllun Gwaith 2017 - 2018. PDF 100 KB Cofnodion: Amlinellodd y
Cadeirydd y cynllun gwaith ar gyfer y pwyllgor a gweddill blwyddyn ddinesig
2017/2018. Nodwyd y gall
cynrychiolydd o "Gyrfa Cymru" ddod i'r cyfarfod ym mis Ionawr i
fynegi barn am ddarpariaeth 14-19. Byddai adroddiad drafft y Cabinet ar y maes
hwn yn dod gerbron y pwyllgor yn y flwyddyn newydd. Penderfynwyd amlinellu'r cynllun gwaith, ar yr amod bod
y sylwadau uchod yn cael eu nodi. |