Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

23.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

 

24.

Cofnodion. pdf eicon PDF 115 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Cyflwyno a Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2017 fel cofnod cywir.

 

25.

Safbwyntiau Ysgolion Arloesol. pdf eicon PDF 4 MB

Cofnodion:

Rhoddodd Nick Williams y diweddaraf ar lafar i'r pwyllgor o blaid y papur a gylchredwyd gan Lywodraeth Cymru a oedd yn amlinellu'r cynigion cefndir a diben y fenter Ysgolion Arloesi a lansiwyd ym mis Mehefin eleni.

 

Amlinellodd fod yr ysgolion canlynol yn Abertawe yn rhan o'r prosiect – Gwyrosydd, Glyncollen, Llanrhidian, Parkland, Trallwn, Waunarlwydd, YGG Bryniago, YGG Lôn-las, Ysgol Arbennig Pen-y- Bryn, Ysgol Gyfun yr Olchfa, Ysgol Gyfun Pontarddulais, Ysgol Arbennig Crug Glas .

 

Nododd y byddai Panel Craffu'n ymweld ag Ysgol yr Olchfa cyn bo hir fel rhan o'i adolygiad, ac y gellid rhannu'r wybodaeth a gafwyd gydag aelodau o'r pwyllgor.

 

Nododd fod perthnasoedd gwaith da eisoes yn datblygu rhwng yr ysgol uwchradd ac ysgolion bwydo i ddatblygu trefniadau pontio gwell ar gyfer y bobl ifanc.

 

Rhoddodd fanylion rhai o'r cynlluniau sy'n cael eu cyflwyno fel y Fframwaith Cymhwysedd Digidol (sy'n rhoi'r un sylw i sgiliau TG â datblygiad rhifedd a llythrennedd), entrepreuneuriaeth, cwricwlwm cymysg etc.

 

Nododd y bydd angen amser er mwyn gwreiddio'r cynlluniau sy'n cael eu datblygu yn y rhaglen ysgolion a chaiff adborth ac arfer da eu rhannu ag ysgolion eraill maes o law.

 

Trafodwyd ac amlinellwyd materion dim digon o bobl ifanc yn dilyn cwrs TGAU a Safon Uwch TG yn ffurfiol, y dewisiadau cyfyngedig o ran opsiynau pynciau, yr angen i wreiddio sgiliau TG a'u defnyddio mewn cynifer o wersi â phosib, argaeledd digon o staff ac athrawon TG cymwys a'r angen i hybu'n well ganlyniadau a chyfleoedd swydd/gyrfa yn sgîl astudio TG/Cyfrifiaduron i bobl ifanc, yn ogystal â'r angen i hybu ac annog y defnydd o'r cwricwlwm amgen a sgiliau meddal/bywyd fel gwaith tîm/cyfathrebu etc. i bob disgybl.

 

Cyfeiriwyd eto at yr angen i ddatblygu a chefnogi'r mater o ddiwygio hyfforddiant ar gyfer athrawon TG a darparu mwy ohono, a gwella sgiliau gyda darparwyr ysgolion a phrifysgolion.

 

Codwyd a thrafodwyd y posibilrwydd o ddatblygu Academi Ddigidol y tu allan i'r system ysgol, o bosib ar y cyd â'r prifysgolion.

 

26.

Barn Plant ar Bynciau STEM.

Cyflwyniad a Gweithdy Rhyngweithiol

 

Cofnodion:

Rhoddodd Beth Thomas gyflwyniad Powerpoint manwl, llawn gwybodaeth a oedd yn amlinellu'r cefndir ac adborth o'r digwyddiad Y Sgwrs Fawr a gynhaliwyd gyda phobl ifanc ar 29 Medi yn Ysgol Gyfun Tregŵyr.

 

Fel rhan o'r cyflwyniad, amlinellodd yn fanwl yr adborth gan y bobl ifanc a chyfeiriodd at y meysydd canlynol:

·       Y cyd-destun a'r rhesymeg y tu ôl i fenter y Sgwrs Fawr;

·       Nodau ac amcanion y digwyddiad;

·       Tasgau a gweithgareddau a gwblhawyd gan bobl ifanc yn ystod y dydd;

·       Pam nad yw merched yn dewis pynciau STEM -  9% yn unig o'r rhai sy'n dilyn cwrs TGAU cyfrifiadureg sy'n ferched;

·       Mae'r rhesymau pam nad yw merched yn eu dewis yn cynnwys ffactorau cyn ysgol, yn ystod ysgol a'r tu allan i ysgol, megis stereoteipio rhywiau, dylanwadau teuluol a diwylliannol, rhywiaeth anfwriadol gan gynnwys gan athrawon, pwysau gan gyfoedion/cyfryngau/pwysau cymdeithasol, materion tueddfryd rhywiol;

·       Beth gellir ei wneud i wella'r sefyllfa - mwy o gefnogaeth gan athrawon, yr angen i newid agweddau cymdeithasol at stereoteipio a thueddfryd rhywiol, mwy o weithgareddau cymysg a rhai i ferched, gwneud pynciau'n fwy cynhwysol;

·       Cwricwlwm Addas at y Diben a'r hyn y mae pobl ifanc yn credu y gallai ei gynnwys - mwy o opsiynau profiad gwaith, mwy o sgiliau bywyd, mwy o fynediad i dechnoleg ddigidol, cyngor ar yrfaoedd yn gynt a mwy ohono, gwell dewis o opsiynau, angen mwy o gyrsiau ymarferol/analwedigaethol;

·       Y camau nesaf - cyfarfod Y Sgwrs Fawr nesaf ar 1 Rhagfyr.

 

Trafododd aelodau o'r pwyllgor y materion a godwyd gan bobl ifanc yn ystod y cyflwyniad a thynnwyd sylw at y ffaith fod llawer o'r materion a godwyd gan aelodau'n flaenorol megis mwy o gyrsiau nad ydynt yn rhai analwedigaethol, gwell darpariaeth TG, gwell cyngor ar yrfaoedd, gwell hyfforddiant i athrawon, sgiliau cyfannol/ bywyd yn rhai a godwyd gan y bobl ifanc hefyd. Mae angen mynd i'r afael â'r meysydd hyn er mwyn rhoi'r cyfleoedd gorau i bobl ifanc ffynnu.

 

Awgrymodd aelodau opsiynau hefyd i gynnwys trawstoriad ehangach o bobl ifanc mewn digwyddiadau yn y dyfodol.

 

Nododd Beth Thomas fod croeso i aelodau ddod i ddigwyddiadau yn y dyfodol.

 

 

27.

Adroddiad drafft y Cabinet am Ddatblygiad Sgiliau'r Fargen Ddinesig. pdf eicon PDF 262 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Chris Sivers adroddiad Cabinet drafft a oedd yn rhoi adborth am y cynnydd hyd yn hyn wrth ddatblygu polisi ar addysg a sgiliau er mwyn ateb yr heriau sy'n codi o'r Fargen Ddinesig.

 

Trafodwyd yr eitem yng nghyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn, a lluniwyd yr adroddiad hwn i symud y mater yn ei flaen.

 

Trafododd yr aelodau'r adroddiad gan awgrymu mân newidiadau i roi mwy o ffocws lleol iddo.

 

Penderfynwyd y dylai'r adroddiad diwygiedig fynd yn ei flaen i'r Cabinet

 

28.

Cynllun Gwaith 2017 - 2018. pdf eicon PDF 101 KB

Cofnodion:

 

Amlinellodd y Cadeirydd y cynllun gwaith ar gyfer y pwyllgor a gweddill blwyddyn ddinesig 2017/2018.

 

Cododd aelodau fater y ddarpariaeth 14-19 gan ofyn a allai'r cyflwyniad i'r cyfarfod ym mis Rhagfyr ystyried yr ystod oed cynyddol a'r ddarpariaeth bresennol.

 

Penderfynwyd nodi'r cynllun gwaith fel y'i hamlinellwyd, yn amodol ar y diwygiad uchod.