Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Datblygu a
Chyflwyno Polisi Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 13 Mis Medi 2017 fel cofnod
cywir. |
|
Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol a'r Fargen Ddinesig. (Cyflwyniad) Cofnodion: Rhoddodd Jane
Lewis, Rheolwr RLSP De-orllewin a Chanolbarth Cymru gyflwyniad manwl ac
addysgiadol a oedd yn amlinellu'r manylion cefndir, y nodau a'r amcanion, ac
ymrwymiad llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru yn y bartneriaeth. Fel rhan o'r
cyflwyniad, amlinellwyd y meysydd canlynol a chyfeiriwyd atynt: ·
3
grŵp partneriaeth yng Nghymru, grŵp y canolbarth a de-orllewin Cymru
yw'r mwyaf o ran daearyddiaeth, ·
Mae
sectorau gwahanol yn cymryd rhan - ôl-16, addysg bellach a diwydiant etc ·
Dibenion
a chanlyniadau posib, ·
Effaith
y Fargen Ddinesig, ·
Yr
Arsyllfa - beth ydyw a sut mae'r data a geir ganddi'n cael ei ddefnyddio, ·
Y
cynllun sgiliau rhanbarthol a lansiwyd yn ddiweddar, ·
Y
prif flaenoriaethau - cyflogadwyedd, dysgu a dewis gyrfaoedd a chyfleoedd a
darpariaeth, ·
Angen
cynyddu nifer y cynlluniau prentisiaethau sydd ar gael, ·
Darlun
economaidd o ardal a'r angen i gynyddu GGY, ·
Yr
hyn sydd wedi'i gyflawni hyd yn hyn, ·
RLSP
yn symud ymlaen - yr aelodaeth wedi'i diwygio ac mae'n canolbwyntio mwy ar
ddiwydiant erbyn hyn, ·
Grwpiau
clwstwr rhanbarthol, a'u materion a'u ffocws daearyddol a recriwtio gwahanol, ·
Angen
mwyafu potensial y Fargen Ddinesig a'i 10 prif brosiect, ·
Y
Fargen Ddinesig - cynigion ymyriad sgiliau, ·
Proses
5 cam ar gyfer cynorthwyo'r gweithlu, ·
Effaith
bosib y Morlyn Llanw. Bu'r aelodau'n
trafod y materion a'r meysydd pwnc a godwyd gan amlygu'r cyflwyniad uchod, a
gofynnwyd cyfres o gwestiynau ynghylch y meysydd canlynol, ac atebodd Rheolwr
yr RLSP a'r swyddogion yn briodol:- Darpariaeth ar
gyfer pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn y dyfodol, yr angen i wella
sgiliau digidol a pheirianneg a sgiliau "meddal", angen mwy o
ymrwymiad gydag ysgolion, angen mwy o gyfranogiad gyda busnesau llai
llwyddiannus, prinder graddedigion TG a pheirianneg yn yr ardal a phrinder
arbenigwyr meddalwedd Diolchodd y
Cadeirydd i Reolwr yr RLSP am ei chyflwyniad. |
|
Dinas Dysg Abertawe. (Trafodaeth) Cofnodion: Rhoddodd Judith
James, Prifysgol Abertawe, gyflwyniad manwl a llawn gwybodaeth a oedd yn
amlinellu manylion cefndir i ddatblygu Abertawe fel Dinas Dysg. Fel rhan o'r
cyflwyniad, amlinellwyd y meysydd canlynol a chyfeiriwyd atynt: ·
Rhwydwaith
byd-eang UNESCO o 200 o ddinasoedd mewn 40 o wledydd, ·
Amodau
hanfodol ar gyfer dyluniad y Ddinas Dysg. ·
Cyfranogiad
Abertawe yn y cynllun peilot ers 2012, ·
Cyhoeddusrwydd
gwych i Abertawe'n fyd-eang oherwydd ei chyfranogiad yn y cynllun, ·
Nodau
byd-eang, ·
Chwe
phrif gam i ddatblygu Dinas Dysg, ·
Pwysigrwydd
cydnabod treftadaeth a hanes diwydiannol, ·
Angen
gwella ffyniant economaidd a chynyddu GGY, ·
Dinas
o ddwy hanner - effaith tlodi ac amddifadedd ar gymunedau ac mae angen mynd i'r
afael â hyn drwy Strategaeth Gwrthdlodi'r Awdurdod, ·
Canlyniadau
Pisa, ·
Datblygu
polisïau Dinas Dysg ac uchelgeisiau Llywodraeth Cymru, ·
Llwyddiant
Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, ·
Mentrau
addysg bellach/uwch a "chynnwys" cynaladwyedd pobl ifanc mewn
prosiectau a syniadau, ·
Pwysigrwydd
dysgu gydol oes/addysg i oedolion, ·
Mentrau
cymdeithasol ac ecosystem ar gyfer entrepreneuriaid, ·
Canlyniad
ac effaith 2il gampws y brifysgol yn y bae,
·
Llwyddiant
Abertawe'n cyflawni 2 wobr yn 2015, ·
Agor
cyfleuster newydd Ysgol Addysg Prifysgol Abertawe (YAPA), ·
Effaith
a photensial prosiectau'r Fargen Ddinesig, ·
Canfyddiadau
adolygiad tlodi Sefydliad Joseph Rowntree, ·
Camau
nesaf - datblygu prosiect cymdogaethau dysgu, sy'n debyg i fodel Corc. Bu'r aelodau'n
trafod y materion a'r meysydd pwnc a godwyd ac a amlygwyd yn ystod y cyflwyniad
uchod, a gofynnwyd cyfres o gwestiynau ynghylch y meysydd canlynol, ymatebodd
Judith James a swyddogion yn briodol:- Datblygu'r cynllun
cymdogaethau dysgu - ariannu, staffio, pa ardaloedd fyddai'n cymryd rhan, angen
ymrwymiad ysgolion a diwydiant, cyswllt ag ERW, materion cynnwys pobl a
chymunedau. Diolchodd y
Cadeirydd i Judith James am ei chyflwyniad. |
|
Asesu anghenion addysg a sgiliau. PDF 208 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Swyddog Addysg adroddiad a oedd yn amlinellu manylion cefndir datblygu'r
asesiad o anghenion sy'n ceisio sicrhau bod trefniadau addas ar waith i
gyflwyno'r Fargen Ddinesig. Amlinellodd y
cynigion a'r gwaith i'w wneud, y canlyniadau disgwyliedig, y trafodaethau
angenrheidiol gyda sefydliadau partner a threfniadau llywodraethu i'w rhoi yn
eu lle. Trafododd y
pwyllgor yr adroddiad gan gyfeirio at yr angen i ddatblygu sgiliau
"cyfrifiadura" disgyblion, materion hyfforddi athrawon, angen
hyrwyddo cynigion i Benaethiaid, llywodraethwyr ysgolion etc,
ailhyfforddi/datblygu sgiliau athrawon presennol, hyrwyddo prentisiaethau a
chyrsiau galwedigaethol/crefft. Penderfynwyd trafod yr adroddiad eto yn y cyfarfod
nesaf er mwyn ei gymeradwyo, cyn ei gyflwyno i Aelod y Cabinet. |
|
Cynllun Gwaith 2017 - 2018. PDF 101 KB Cofnodion: Amlinellodd y
Cadeirydd y cynllun gwaith ar gyfer y pwyllgor a gweddill blwyddyn ddinesig
2017/2018. Penderfynwyd bod y cynllun gwaith fel y'i hamlinellwyd
yn cael ei nodi, gan ychwanegu yn ôl adroddiad uchod |