Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

13.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

14.

Cofnodion. pdf eicon PDF 65 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

 

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

15.

Amlinelliad o'r Sefyllfa Addysg Bresennol. (Cyflwyniad)

Rôl yr Awdurdod Lleol

·       Rôl ERW

·       Estyn

·       Dinas Dysg

·       Cwricwlwm Newydd

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Addysg a Phennaeth Gwella Addysg yr Hwb dros Abertawe/Castell-nedd gyflwyniad i'r Pwyllgor a oedd yn rhoi trosolwg cynhwysfawr a llawn gwybodaeth ar amlinelliad a chefndir tirwedd addysg Abertawe ar hyn o bryd.

 

Fel rhan o'r cyflwyniad, amlinellwyd a chyfeiriwyd at y meysydd canlynol:

·       Rôl gyffredinol yr awdurdod lleol: Hyrwyddo safonau addysg, datblygiad pobl ifanc a chanlyniadau gwell, cynllunio lleoedd mewn ysgolion, cyllido ysgolion;

·       Cyfrifoldebau cyffredinol yr awdurdod lleol: Wedi'u rheoli gan Ddeddf Addysg 1996;

·       Cyfrifoldebau cyffredinol yr awdurdod lleol: Gofyniad i ddarparu ysgolion digonol, pŵer mewn perthynas ag addysg ôl 16 oed a darpariaeth anghenion addysgol arbennig;

·       Dadansoddiad o rôl yr awdurdod lleol: Lleoedd mewn ysgolion, Cyfnod Sylfaen, EOTAS - darpariaeth bresennol a chynigion newydd, y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'i brif oblygiadau ar gyfer yr awdurdod lleol a'r ysgolion ar ôl 2019, cludiant i'r ysgol, gwaharddiadau, asesu'r cwricwlwm, Addysg Grefyddol a phrydau ysgol;

·        Dadansoddiad o rôl yr awdurdod lleol: Cyllid ysgol, penodi a hyfforddi llywodraethwyr ysgolion, safleoedd ac adeiladau ysgol, rôl arolygu/ymyrryd, staffio, dyletswyddau statudol amrywiol;

·       Rôl statudol y Prif Swyddog Addysg: Wedi'i rheoli gan Ddeddf Addysg 1996, cyfrifoldeb am ysgolion ac addysg, pwerau ymyrryd;

·       Rôl ERW: Gwasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol, arweinwyr Dysgu Digidol, Cwricwlwm i Gymru, cefnogaeth a her i ysgolion;

·       Amcanion Llesiant: 5 blaenoriaeth - Diogelu, gwella addysg a sgiliau, trawsnewid economi ac isadeiledd, mynd i'r afael â thlodi a thrawsnewid a'r cyngor yn y dyfodol, goblygiadau'r fargen ddinesig a diffyg sgiliau lleol posib a'r angen i sicrhau bod cyrsiau prentisiaeth, cyrsiau analwedigaethol etc yn cael eu hysbysu a'u hannog yn well i bobl ifanc fel bod anghenion economaidd y ddinas yn cael eu diwallu wrth fynd ymlaen, cefnogaeth emosiynol i ddisgyblion;

·       Cwricwlwm i Gymru/Cwricwlwm am Oes:Bydd trefn newydd lle bydd cymhwysedd digidol yn derbyn yr un statws â rhifedd a llythrennedd, pwyslais ar ddysgu digidol a chymhwyso sgiliau, defnyddio bywyd go iawn fel cyd-destun a gweithio mewn partneriaeth;

·       Rôl Estyn: Arolygu, adolygu a herio ysgolion, adolygiadau ac adroddiadau thematig a phynciau STEM.

 

Trafododd y pwyllgor y materion a godwyd ac a amlinellwyd gan y swyddogion uchod a gofynnodd gyfres o gwestiynau a oedd yn canolbwyntio ar y meysydd pwnc canlynol. Ymatebodd y swyddogion yn unol â hynny: -

·       Goblygiadau'r fargen ddinesig a'r angen dybryd i fynd i'r afael â'r diffyg sgiliau'n lleol;

·       Mae hyrwyddo ac ehangu addysgu a chyrsiau Cymhwysedd Digidol a Gwyddoniaeth Gyfrifiadurol mewn ysgolion yn hanfodol;

·       Yr angen i ehangu ac annog cyrsiau "digidol" ar gyfer dysgwyr sy'n oedolion;

·       Yr angen i ddiweddaru hyfforddiant cychwynnol i athrawon, yn enwedig wrth ystyried Gwyddoniaeth Gyfrifiadurol fel mater o frys (gwahodd Prifysgol y Drindod Dewi Sant i gyfarfod ychwanegol er mwyn trafod y mater);

·       Yr angen am hyfforddiant digidol/cyfrifiadurol a gwella sgiliau'r athrawon presennol, a'r potensial am "Hyrwyddwr Digidol" ym mhob ysgol;

·       Yr angen i athrawon mewn ysgolion rannu eu harbenigedd "digidol" â'u cydweithwyr;

·       Mae angen rhannu arfer da a syniadau rhwng ysgolion;

·       Yr angen i ddatblygu cyflwyniad byr ar ffurf fideo o'r fargen ddinesig i'w ddangos mewn nosweithiau rhieni mewn ysgolion, annog a hyrwyddo pobl ifanc a rhieni am y rhagolygon gyrfa/swydd dda sy'n codi o ganlyniad i gymryd rhan mewn cynlluniau prentisiaethau a chyrsiau galwedigaethol er mwyn ennill cymwysterau "masnach";

·       Bydd angen i adborth a phrofiadau ysgolion arloesi gael eu rhannu ag ysgolion eraill;

·       Effaith bosib y Cwricwlwm am Oes newydd, lle bydd cymhwysedd digidol yn derbyn yr un statws â rhifedd a llythrennedd;

·       Prinder athrawon ar draws Cymru ar hyn o bryd, mewn swydd a hyfforddiant (gwybodaeth am niferoedd Abertawe i'w darparu i'r aelodau);

·       Yr angen i ddatblygu'r cysylltiadau presennol rhwng ysgolion a busnesau/diwydiant lleol ymhellach a'u hehangu.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am eu cyflwyniad addysgiadol.

 

Penderfynwyd y dylid nodi'r cyflwyniad.

 

16.

Cynllun Gwaith 2017 - 2018. pdf eicon PDF 62 KB

Cofnodion:

Amlinellodd y Cadeirydd y cynllun gwaith ar gyfer y pwyllgor a gweddill blwyddyn ddinesig 2017/2018.

 

Penderfynwyd nodi'r cynllun gwaith fel ei amlinellwyd, yn ogystal â gwahodd Prifysgol y Drindod Dewi Sant i gyfarfod yn y dyfodol er mwyn trafod darpariaeth Hyfforddiant i Athrawon, yn enwedig agwedd Gwyddoniaeth Ddigidol/Gyfrifiadurol yr hyfforddiant.