Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

9.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.

 

10.

Cofnodion. pdf eicon PDF 64 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Datblygu a  Chyflwyno Polisi Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf fel cofnod cywir.

 

11.

Trosolwg o'r Fargen Ddinesig. (Cyflwyniad-Phil Holmes)

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas gyflwyniad i'r pwyllgor a oedd yn drosolwg cynhwysfawr o Fargen Ddinesig Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

 

Fel rhan o'r cyflwyniad, amlinellodd y meysydd pwnc canlynol yn fanwl:

 

·       Hanes cefndir y cais

·       Y cytundebau a'r trefniadau partneriaeth sydd ar waith rhwng yr awdurdodau lleol amrywiol, y prifysgolion, cyrff cyhoeddus, diwydiannau preifat, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

·       Prif nodau a heriau'r prosiect.

·       Y gweledigaethau, yr effeithiau a ragwelir a'r ymyriadau cynlluniedig

·       Cyd-fynd â strategaeth ddiwydiannol y DU

·       Nodau ar gyfer cyflwyno prosiectau a chreu swyddi

·       Amlinellwyd dadansoddiad o gyllid a buddsoddiad o arian y Fargen Ddinesig a buddsoddiad diwydiannau preifat ar gyfer pob cynllun

·       Enillion arfaethedig ar y buddsoddiad, a nodau ac amcanion prosiectau

·       Blaen-lwytho arian awdurdodau lleol i gychwyn prosiectau

·       Cynigion Rhanbarth Arloesedd Clyfar Iawn gan gynnwys Campws a Phentref Gwyddorau Bywyd a Lles, Canolfan Gwyddoniaeth Dur, Ffatri'r Dyfodol, Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer a Model Achos Busnes Prosiect Morol 5

Doc Penfro sy'n cael eu paratoi ar hyn o bryd ar gyfer yr holl gynlluniau.

·       Y fenter Sgiliau a Doniau sy'n cael ei harwain gan y Bartneriaeth Sgiliau Dysgu Rhanbarthol

·       Isadeiledd Digidol Rhanbarthol

·       Datblygu Canolfannau Rhagoriaeth yng Ngwasanaethau Digidol y Genhedlaeth Nesaf

·       Cysylltiadau ag S4C i ddatblygu Clwstwr Digidol Creadigol "Yr Egin"

·       Adfywio Canol Dinas Abertawe a'r prif brosiectau a gynhwysir yn y prosiect hwnnw: arena, gwesty, maes parcio aml-lawr, gwely prawf cyfathrebu symudol 5G ac ailddatblygu safle Dewi Sant

·       Datblygu Rhanbarth Busnes Digidol y Glannau

·       Ardal Ddigidol Ffordd y Brenin

·       Amserlenni cyflwyno

·       Trefniadau llywodraethu

 

Gofynnodd y pwyllgor nifer o gwestiynau i Bennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas ynghylch ei gyflwyniad, ac ymatebodd yntau'n unol â hyn.  Canolbwyntiodd y trafodaethau ar y pynciau canlynol:

 

·       Yr angen am fanteision gwirioneddol, yn enwedig hybu cyfleoedd swyddi lleol

·       Angen buddsoddiad mewn ysgolion, i sicrhau eu bod yn y sefyllfa orau i ddiwallu anghenion y bydd eu hangen ar bobl ifanc yn y dyfodol

·       Yr angen i athrawon presennol a'r rhai dan hyfforddiant ddysgu sgiliau a phynciau newydd a fydd yn eu tro yn datblygu sgiliau pobl ifanc i sicrhau eu bod yn gwneud yn fawr o gyfleoedd a ddaw yn sgîl y Fargen Ddinesig

·       Y potensial i ddatblygu cysylltiadau â'r brifysgol, er enghraifft ehangu'r cynllun "Gwersylloedd Technolegol" presennol

·       Yr angen i ddysgu o brofiadau dinasoedd eraill o'r Fargen Ddinesig, yn enwedig o ran perchnogaeth "eiddo deallusol"

·       Y potensial i ddatblygu cysylltiadau â chwmnïau lleol llwyddiannus wrth ddatblygu cynllun Ffordd y Brenin

 

Diolchwyd i'r Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas gan y Cadeirydd am ei gyflwyniad llawn gwybodaeth.

 

12.

Cynllun Gwaith 2017/2018. pdf eicon PDF 62 KB

Cofnodion:

Amlinellodd y Cadeirydd y cynllun gwaith ar gyfer y pwyllgor a gweddill blwyddyn ddinesig 2017/2018.

 

PENDERFYNWYD nodi'r cynllun gwaith fel ei amlinellwyd.