Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

5.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

6.

Cofnodion. pdf eicon PDF 49 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion o Bwyllgor Cyflwyno a Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau a gynhaliwyd ar 25 Mai fel cofnod cywir

7.

Y Cylch Gorchwyl. (Er gwybodaeth.)

Hybu datblygu Polisïau Corfforaethol Addysg a Sgiliau'r cyngor i'w hystyried a'u mabwysiadu gan y Cabinet a/neu'r cyngor fel y bo'n briodol.

 

Sylwer: Gall Pwyllgorau Polisi a Datblygu gyfethol eraill i'r Pwyllgor naill ai ar gyfer pwnc neu ar gyfer tymor os yw'r Pwyllgor yn ystyried y bydd hyn yn ei helpu yn ei rôl."

 

Cofnodion:

Amlinellodd y Cadeirydd Gylch Gorchwyl ar gyfer y pwyllgor, er gwybodaeth.

 

Amlinellodd Chris Sivers, Cyfarwyddwr Pobl, y cefndir a'r rhesymeg a oedd yn sail i gyflwyno'r pwyllgorau cyflwyno a datblygu polisi (PCDP) i aelodau.

 

Nododd mai bwriad y pwyllgorau oedd eu bod yn canolbwyntio ar ddatblygu polisi a sicrhau cyflwyno, yn bennaf drwy ymrwymiadau polisi'r cyngor, i'w mabwysiadu gan y cyngor ar 27 Gorffennaf 2017. Y nod yw y bydd y pwyllgorau'n sianel i alluogi i aelodau a swyddogion weithio ar y cyd, gydag ymagwedd a arweinir gan aelodau er mwyn cyflwyno’r blaenoriaethau corfforaethol.

 

Rhoddodd fanylion i dynnu sylw at y gwahaniaeth sylweddol rhwng y PCDP a Chraffu, gan amlinellu sut maent yn wahanol i'r PCC oherwydd fe'u harweinir gan Flaenoriaethau Corfforaethol drwy'r Cadeirydd ac nid drwy Aelod y Cabinet, er bydd y cysylltiadau agos gyda phroses y Cabinet ac Aelod y Cabinet yn parhau.

 

Dylai'r PCDP anelu i ddarparu canlyniadau clir yn dilyn cyflwyniad ymchwil, tystiolaeth a gwybodaeth, a dylid ceisio osgoi dyblu gwaith gyda'r pedwar PCDP arall, er y bydd gweithio ar y cyd yn angenrheidiol mewn rhai meysydd pwnc.

 

8.

Cynllun Gwaith 2017 - 2018. (Trafodaeth)

Cofnodion:

Pwysleisiodd y Cadeirydd unwaith eto y gall y Pwyllgor drafod ei Raglen Waith a'i wneud yn swyddogol ar ôl mabwysiadu'r Blaenoriaethau Corfforaethol ar 27 Gorffennaf 2017.

 

Dywedodd ei fod wedi gwahodd y Prif Swyddog Addysg i ddod i roi peth gwybodaeth gefndirol i'r pwyllgor yn ogystal â throsolwg cryno o'r Meysydd Dangosyddion Perfformiad Allweddol ar gyfer Addysg.

 

Yna, cyflwynodd Nick Williams, y Prif Swyddog Addysg, y meysydd canlynol, gan eu hamlinellu a chyfeirio atynt:

·       Dangosyddion perfformiad cenedlaethol – 7, 11, 14 ac 16 (Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2, Cyfnod Allweddol 3 a Chyfnod Allweddol 4 – TGAU)

·       Ôl-16

·       Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol

·       Monitro presenoldeb

·       Monitro gwaharddiadau

·       Yr angen i roi'r sgiliau angenrheidiol i bobl ifanc er mwyn iddynt adael yr ysgol/y coleg a dechrau gweithio

·       Effaith Adolygiad Donaldson

·       Ysgolion Arloesi

·       Llwyddiant cynlluniau entrepreneur

·       Rhannu arfer da ymysg ysgolion

·       Effaith y Fargen Ddinesig

·       Yr angen i sicrhau digon o ddarpariaeth Hyfforddiant i Athrawon yn y dyfodol

·       Parhad/ehangiad yr "integreiddio" presennol ac arbennig sy'n cael ei gyflawni

 

Trafodwyd y meysydd uchod gan yr aelodau a gofynnwyd cwestiynau i'r Swyddogion a ymatebodd yn briodol.

 

Dywedodd y Cadeirydd y byddai'n fuddiol i'r pwyllgor dderbyn trosolwg briffio ar y Fargen Ddinesig a'i goblygiadau i'r Gwasanaeth Addysg yn y dyfodol yn y cyfarfod nesaf, cyn y gellid trafod yn fwy eang eitemau'r Rhaglen Waith yng nghyfarfod mis Medi.

 

PENDERFYNWYD

 

1)      cyflwyno trosolwg o'r Fargen Ddinesig yng nghyfarfod mis Awst.

 

2)      ymgymryd â thrafodaeth bellach ar eitemau Rhaglen Waith y dyfodol yn y cyfarfod ym mis Medi.