Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 63692 

Eitemau
Rhif Eitem

52.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

53.

Cofnodion. pdf eicon PDF 65 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 20 Chwefror 2017 fel cofnod cywir.  

 

54.

CYFLWYNIAD - ASESIAD POBLOGAETH

Cyflwyniad - Sara Harvey

 

Cofnodion:

Rhoddodd Sara Harvey, Cyfarwyddwr Rhaglen Ranbarthol, Rhaglen Bae'r Gorllewin gyflwyniad ar 'Asesiad Poblogaeth' (http://www.westernbaypopulationassessment.org/cy/home-welsh/ ). Roedd y cyflwyniad yn cynnwys y canlynol: -

 

·         Rhaglen Iechyd a Gofal Cymdeithasol Bae'r Gorllewin

·         Gofynion Allweddol

·         Beth mae'r asesiad poblogaeth yn ei gynnwys?

·         Pam ein bod yn cynnal yr asesiad poblogaeth?

·         Pynciau

·         Gwybodaeth feintiol

·         Gwybodaeth ansoddol

·         Papurau Pwnc

·         Asesiad poblogaeth - 3 Haen

·         Gwe-offeryn digidol yr asesiad poblogaeth

·         Ffocws hyd yma

 

Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau i'r swyddogion cyflwyno, a ymatebodd yn briodol. Roedd y cwestiynau a'r trafodaethau'n ymwneud â: -

 

·         Gwerthuso'r hyn oedd wedi'i wneud yn dda, yr hyn nad oedd wedi'i wneud yn dda a'r gwersi a ddysgwyd.

·         Panel Rhanbarthol Dinasyddion

·         Pwy oedd wedi pennu'r pynciau a'r posibiliad o ddiwygio'r pynciau neu ychwanegu atynt.

·         Asesiad poblogaeth fel swyddogaeth sy'n ategu trefniadau comisiynu lleol

·         Pryderon am yr asesiad poblogaeth a sicrhau bod y preswylwyr yn cael y canlyniad gorau

·         Bylchau a meysydd sydd fel petaent wedi'u colli o'r asesiad poblogaeth

·         Gwaith cynnwys a grwpiau yr ymgynghorwyd â hwy ar gyfer yr asesiad poblogaeth.
 

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys y cyflwyniad.

55.

Iechyd a Deiet yn Abertawe - Siwgr. pdf eicon PDF 468 KB

 Y Cynghorydd Mark Child, Aelod y Cabinet dros Les a Dinas Iach 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad ar 'Iechyd a Deiet yn Abertawe - Siwgr'. Roedd y cwestiynau a'r trafodaethau yn canolbwyntio ar y canlynol: -

 

·         Yr enwau gwahanol ar gyfer siwgr

·         Cyfrifoldeb cenedlaethol i gynyddu ymwybyddiaeth o ddeiet a siwgr, yn enwedig wrth ystyried darparu bwyd a labelu gwell ac ymwybyddiaeth.

·         Carbohydradau

·         Meysydd allweddol i'w blaenoriaethu

·         Y gost - effaith amddifadedd ar ddewisiadau bwyd iach

·         Dŵr am ddim mewn parciau

·         Addysg mewn ysgolion ar ddeiet a siwgr

·         Darparu mwy o gyngor ar y ffyrdd o fwyta llai o siwgr

·         Model Brighton a Hove - ‘Sugar Smart Brighton & Hove

·         Hysbysebu a noddi

 

Nododd y Cadeirydd ei bod wedi ysgrifennu at Aelod y Cabinet dros Les a Dinas Iach am eglurhad am ba feysydd i'w blaenoriaethu.

 

PENDERFYNWYD dylid nodi cynnwys yr adroddiad a'r llythyr at y Cynghorydd Mark Child, Aelod y Cabinet dros Les a Dinas Iach.

 

56.

Adborth gan ofalwyr. (Llafar)

Cofnodion:

Rhoddodd y cadeirydd ddiweddariad ar yr adborth gan ofalwyr. Roedd trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol yn bennaf: -

 

·         Cwrdd â'r gofalwyr er mwyn nodi'r meysydd allweddol i'w blaenoriaethu

·         Asesiad Gofalwyr - yr hyn y mae'n ei gynnwys ac a oes gan ofalwyr ddigon o ymwybyddiaeth o'u hawl i ofyn am asesiad

·         Taliadau uniongyrchol ac a allent helpu gofalwyr

·         Bathodynnau adnabod i ofalwyr

·         Seibiant dros nos/ gwasanaethau seibiant

·         Gwasanaethau trydydd parti e.e. y Groes Goch

 

PENDERFYNWYD y dylid nodi cynnwys y diweddariad.

 

57.

Rhaglen Waith 2016/17. pdf eicon PDF 61 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y rhaglen waith ar gyfer 2016/2017 am adolygiad.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys y rhaglen waith.