Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 63692 

Eitemau
Rhif Eitem

48.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

49.

Cofnodion. pdf eicon PDF 67 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2017 fel cofnod cywir.

 

50.

Cyflwyniad - Gwneud Hawliau Dynol yn Realiti i Bobl Hyn. pdf eicon PDF 755 KB

Chris Sivers, Cyfarwyddwr Pobl

Cofnodion:

Rhoddwyd cyflwyniad ar 'Gwneud Hawliau Dynol yn Berthnasol i Bobl Hŷn' gan Chris Sivers, Cyfarwyddwr Pobl.

 

Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau i'r Swyddog, a ymatebodd yn briodol. Holwyd cwestiynau a chafwyd trafodaeth ynghylch y pethau canlynol: -

 

·                     Rhwydwaith 50+

·                     Hyfforddiant ar ddementia ar gyfer yr holl staff rheng flaen

·                     Proses Asesiad Effaith Cydraddoldeb

·                     Ffyrdd i drechu unigrwydd ac arwahaniad a chyrraedd y rhai sy'n unig        ac yn ynysig

·                     Effaith ymddygiad gwrthgymdeithasol 

·                     Mwy o weithio ar draws y cenedlaethau. 

·                     Manteision a chyfyngiadau Cydlynu Ardaloedd Lleol

·                     Hyrwyddo Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ac ymwybyddiaeth ohono

·                     Gweithio mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Tân ar y fenter 'pob     cyswllt yn       cyfrif'

·                     Mwy o waith partneriaeth gyda'r Cyngor i gysylltu'r adran tai,             gwasanaethau cymdeithasol ac adrannau perthnasol eraill.

·                     Anodd cysylltu â'r cyngor gyda mwy o gyswllt digidol a gwybodaeth ar y     we. 

·                     Ail-grwpio 50+ oed yn grwpiau oedran llai i gydnabod yr anghenion gwahanol. 

·                     Hyfforddiant ar afiechyd

·                     Adborth gan bobl hŷn ar gasgliadau gwastraff, yn arbennig y             gwasanaeth casglu cynorthwyol ac mae eu profiadau o ddefnyddio'r           canolfannau cyswllt yn eithaf negyddol.

·                     Gwaith partneriaeth gyda Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu

·                     Cynllun Gwarchod Cymdogaethau i Ieuenctid

·               Trosedd ac anhrefn - mae cynnydd perfformiad y Bartneriaeth          Abertawe Mwy Diogel ar yr agenda ar gyfer Pwyllgor y Rhaglen          Graffu ar 9 Mawrth 2017 am 4.30pm, Ystafell Bwyllgor 3A.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys y cyflwyniad.

 

51.

Rhaglen Waith 2016/17. pdf eicon PDF 61 KB

Cofnodion:

Rhoddodd y cadeirydd yr adroddiad am Raglen Waith 2016 – 2017.

 

PENDERFYNWYD AR Y CANLYNOL: -

 

1)            Caiff yr eitemau canlynol eu hychwanegu at y rhaglen waith ar gyfer 20      Mawrth 2017:-

·                     Adborth ar ganlyniadau'r Ymgynghoriad ar Ofal Cartref

            (llafar)

·                     Iechyd a Deiet yn Abertawe (siwgr)

·                     Y diweddaraf am yr Adolygiad Comisiynu Gwasanaethau                              Meddwl (llafar)

·                     Y diweddaraf am yr Adolygiad Comisiynu Anawsterau Dysgu

            (llafar)

·                     Y diweddaraf am Gyngor Sir Fynwy (adroddiad)

·                     Y diweddaraf am Daliadau Uniongyrchol (adroddiad)

·                     Cyflwyniad ar yr Asesiad Poblogaeth.

           

2)            Caiff yr eitemau canlynol eu hychwanegu at y rhaglen waith ar gyfer 10      Ebrill   2017: -

·                     Teledu cylch cyfyng.

·                     Adborth o'r cyfarfod anffurfiol gyda gofalwyr

·                     Adroddiad crynodeb terfynol Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar                           Ataliaeth a Gofal Cymdeithasol.