Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 63692 

Eitemau
Rhif Eitem

42.

Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

43.

Cofnodion. pdf eicon PDF 63 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfodydd blaenorol a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2016 ac 19 Rhagfyr 2016 fel cofnodion cywir.

 

44.

Cyflwyniad - Iechyd a Deiet yn Abertawe.

Dr Nina Williams, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Mary Wilson, Iechyd Deintyddol Cyhoeddus.

Cofnodion:

Cafwyd cyflwyniad am 'Ymagweddau Cymunedol at Gefnogi Bwydydd a Diodydd Iachus' gan Mary Wilson, Dr Nina Williams a Debra Morgan o Iechyd Cyhoeddus Cymru.

 

Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau i'r swyddogion cyflwyno, a ymatebodd yn briodol. Roedd cwestiynau'n seiliedig ar: -

 

·         Y posibilrwydd o gyfyngiadau cynllunio y tu allan i ysgolion;

·         Cymhariaeth a thuedd ystadegau o ran nifer y plant ac oedolion sydd dros bwysau/yn ordew, a nifer y plant sy'n dangos tystiolaeth o bydredd deintiol.

·         A ddylai'r prif ffocws fod ar siwgr o ran gwella iechyd a deiet, gan fod cyngor iechyd yn y gorffennol wedi canolbwyntio ar fraster;

·         Roedd addysg am iechyd a deiet mewn ysgolion wedi gweithio'n dda, ond roedd problemau o ran ymwybyddiaeth rhieni;

·         Sut i annog rhieni i gymryd rhan mewn mentrau ac ymateb i gyngor;

·         Y posibilrwydd a'r teilyngdod o fod yn fwy llym gyda rhieni sy'n rhoi bwyd afiach i'w plant yn gyson;

·         Cydlynu blaenoriaethau sefydledig; 

·         Y posibilrwydd o ehangu cwricwla ysgolion i gynnwys gweithgareddau a dysgu sy'n gysylltiedig â thyfu eich llysiau eich hun;

·         Opsiynau afiach y mae'n hawdd dod o hyd iddynt a'u paratoi;

·         Hyrwyddo mentrau presennol yn well. 

 

Amlygwyd bod addysgu pobl am sut i wneud y dewisiadau iawn yn rhywbeth i'w wneud ar wahân. Prif ffocws y cyflwyniad hwn oedd darganfod ffyrdd o wella a chefnogi cymunedau er mwyn iddynt gael mynediad i'r dewisiadau iawn.

 

Gofynnodd y Cynghorydd M C Child, Aelod y Cabinet dros Les a Dinas Iach, i'r pwyllgor ystyried ai siwgr oedd y mater deietegol yr oedd am ganolbwyntio arno, gan ofyn am awgrymiadau o ran sut i'w gyflwyno.

 

PENDERFYNWYD

1)            Nodi cynnwys y cyflwyniad llafar;

2)            Y bydd y pwyllgor yn ystyried y cwestiynau a holwyd gan Aelod y

Cabinet dros Les a Dinas Iach. 

 

45.

Cyflwyniad - Adborth ar yr ymweliad â Chyngor Sir Fynwy.

Fiona Broxton a Lucy Friday.

Cofnodion:

Rhoddwyd cyflwyniad am 'Adborth o'r Ymweliad â Chyngor Sir Fynwy' gan Fiona Broxton, Swyddog Contractio'r Gwasanaethau Cymdeithasol (Gofal Cartref) a Lucy Friday, Rheolwr Trawsnewid (Gwasanaethau i Oedolion).

 

Roedd cwestiynau a thrafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol: -

 

·         Adolygiad Cenedlaethol o Ofal Cartref gan AGGCC

·         Cyfraddau darparwyr

·         Gwell cefnogaeth a phartneriaethau â staff

·         Siarter Gofal Cymdeithasol

·         Hyrwyddo Gweithgaredd Abertawe’n well

·         Ymgynghori â’r undebau

 

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys y cyflwyniad.

 

 

 

 

 

 

46.

Y diweddaraf am adolygiadau comisiynu. (Llafar)

Fiona Broxton.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd y diweddaraf gan Swyddog Contractau’r Gwasanaethau Cymdeithasol (Gofal Cartref) i’r pwyllgor ar Adolygiadau Comisiynu’r Gwasanaethau i Oedolion.

 

Dywedodd y cynhelir yr ymgynghoriad ar yr Adolygiad Comisiynu Gofal Cartref tan 10 Chwefror 2017. Ni chafwyd llawer o ymateb i’r ymgynghoriad gan weithwyr gofal cartref a byddai’n edrych ar ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol posib i geisio cynyddu ymwybyddiaeth i wella’r ymateb.

 

Ychwanegodd mai un o’r opsiynau a ffefrir oedd comisiynu gofal cartref yn ddaearyddol a bod gwelliannau wrth gasglu data perfformiad ac adrodd arno’n rhoi gwell gwybodaeth am y galw a’r angen mewn ardaloedd penodol yn Abertawe.

 

Trafododd hefyd ddefnyddio Lot blaengar fel rhan o ymarfer caffael yn y dyfodol i gysylltu â phartneriaid allanol ar dreialu ffyrdd newydd o weithio, ac os byddant yn llwyddiannus gellid eu datblygu/eu cyflwyno mewn ardaloedd eraill yn Abertawe. 

 

PENDERFYNWYD y dylid nodi cynnwys y diweddaraf. 

 

47.

Rhaglen Waith 2016/17 pdf eicon PDF 61 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y cadeirydd yr adroddiad am Raglen Waith 2016 – 2017.

 

PENDERFYNWYD: -

 

1)         Trefnu cyfarfod anffurfiol er mwyn trafod gofalwyr;

2)         CCTV - ychwanegu cyfarfod ar y cyd â Phwyllgor Cynghori'r Cabinet ar           

           Ddatblygu i'r Rhaglen Waith;

3)         Ychwanegu'r diweddaraf am yr Adolygiad Gofal Cartref i'r Rhaglen    

           Waith ar gyfer mis Mawrth 2017.