Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 63692
Rhif | Eitem |
---|---|
Election of Chair Pro Tem. Cofnodion: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd E T Kirchner i fod yn
Gadeirydd Dros Dro. (LLYWYDDODD Y CYNGHORYDD E. T. KIRCHNER) ) |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod
blaenorol a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2016 fel cofnod cywir. |
|
Cyflwyniad - Tâl Uniongyrchol. Cofnodion: Rhoddwyd cyflwyniad
ar Ofal a Chefnogaeth Greadigol drwy'r Taliadau Uniongyrchol gan Mariann
Pedersen, Rheolwr Gwasanaethau Byw'n Annibynnol, Nia Walters, Uwch-Ymarferwr a
Ffion Larsen, Prif Swyddog Diogelu a Lles, Gwasanaethau i Oedolion. Rhoddwyd gwybod i'r
pwyllgor am y newidiadau deddfwriaethol a'r effaith ar Daliadau Uniongyrchol. Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau i'r swyddogion a oedd yn cyflwyno a chafwyd trafodaeth am y
pethau canlynol: - ·
Sut
cynhelir asesiadau ar allu meddyliol; ·
Cost
asesiadau o'r fath; ·
Safbwynt
gofalwyr; ·
Addasrwydd
darparwyr gofal; ·
Argaeledd
darparwyr gofal amgen; ·
Statws
cyflogwr derbynyddion Taliadau Uniongyrchol, sy'n wahanol i Asiantaeth; ·
Mwy o
ddewis o ran pecynnau gofal; ·
Nifer
sy'n derbyn Taliadau Uniongyrchol; ·
Ymagwedd
fesul cam at gyfradd yn ôl yr awr a gynigir; ·
Terfyn
ar adnoddau. Diolchodd y
cadeirydd i'r swyddogion cyflwyno a'u timau am eu gwaith parhaus. PENDERFYNWYD: - 1)
nodi
cynnwys y cyflwyniad llafar; 2)
rhoi’r
wybodaeth ddiweddaraf mewn chwe mis. |
|
Y diweddaraf am adolygiadau comisiynu. (Llafar) Cofnodion: Dywedodd y
Cynghorydd J E C Harris, Aelod y Cabinet dros Oedolion a Phobl Ddiamddiffyn nad
oedd ganddi unrhyw wybodaeth ychwanegol am yr adroddiad. |
|
Adroddiad am ymweliad i Gyngor Swydd Sir Fynwy . (Llafar) Cofnodion: Rhoddodd y
Cynghorydd J E Harris, y Cynghorydd dros Oedolion a Phobl Ddiamddiffyn, y
diweddaraf i'r pwyllgor ynghylch yr ymweliad â Chyngor Sir Fynwy. Trafododd y
pwyllgor y dull meddwl Vanguard a ddefnyddir gan Gyngor Sir Fynwy a'i ymagwedd
at Daliadau Uniongyrchol i gleifion a oedd wedi bod i'r ysbyty, er mwyn iddynt
ddychwelyd adref yn gyflym. PENDERFYNWYD cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf. |
|
Rhaglen Waith 2016/17. PDF 60 KB Cofnodion: Rhoddodd y
cadeirydd yr adroddiad am Raglen Waith 2016 – 2017. PENDERFYNWYD y dylid nodi cynnwys yr adroddiad. |