Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

27.

Ethol Cadeirydd Dros Dro.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd C. R. Doyle yn Gadeirydd Dros Dro.

 

(Y CYNGHORYDD C. R. DOYLE OEDD YN LLYWYDDU)

 

28.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd buddiannau.

 

29.

Cofnodion. pdf eicon PDF 55 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Medi 2016 yn gofnod cywir, yn amodol ar y diwygiad canlynol:

 

Cofnod 23 – Y Diweddaraf am bedwar Adolygiad Comisiynu

 

Diwygio paragraff 2 fel a ganlyn:

 

‘Ychwanegodd fod angen rhagor o waith ar adolygiadau comisiynu'r Canolfannau Gofal Preswyl a Dydd.  Roedd yr Adolygiad Comisiynu Gofal Cartref ar fin cael ei gyflwyno i'r Cabinet.  Ar ôl i'r Cabinet gytuno arno, byddai'r adolygiad yn cael ei ddosbarthu ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.’

 

30.

Archwilio Iechyd a Deiet yn Abertawe. pdf eicon PDF 56 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd M. C. Child, Aelod y Cabinet dros Les a Dinas Iach, y cylch gorchwyl ar gyfer ymchwilio i iechyd a deiet yn Abertawe.

 

Gofynnodd i'r pwyllgor ymchwilio i'r rheswm am broblemau iechyd a deiet yn Abertawe ac amlygu rhai o'r achosion posibl i'w trafod a sut roedd yr awdurdod yn mynd i'r afael â'r mater. 

 

Trafododd y pwyllgor yr opsiynau gorau sydd ar gael i fwrw ymlaen â'r ymchwiliad.  Roedd trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol yn bennaf:

 

·         Y bwyd a gynigir mewn prydau ysgol ac addysg bwyd mewn ysgolion;

·         Nifer y siopau bwyd cyflym mewn cymunedau a'r bwyd afiach maent yn ei gynnig;

·         Y mentrau bwyd sydd ar gael trwy CGGA;

·         Diffyg argaeledd bwyd iach mewn cymunedau;

·         Sut mae darpariaeth cludiant wael yn effeithio ar fynediad i fwyd iach mewn cymunedau difreintiedig;

·         Sut gallai Iechyd Cyhoeddus Cymru/PABM gynorthwyo'r ymchwiliad;

·         Sut mae cymunedau difreintiedig yn cael trafferth wrth ddilyn mentrau a diffyg arian yn y fath gymunedau;

·         Yr angen i gael trosolwg cyffredinol o'r sefyllfa yn Abertawe.

 

PENDERFYNWYD gwahodd Iechyd Cyhoeddus Cymru i gyfarfod yn y dyfodol er mwyn darparu cyflwyniad cyffredinol ynghylch iechyd a deiet yn Abertawe

 

31.

Y Diweddaraf am Adolygiadau Comisiynu. (Llafar)

·         Adolygiad Comisiynu Canolfannau Dydd - Adborth.

·         Adolygiad Comisiynu Iechyd Meddwl, Anableddau Dysgu ac Anableddau Corfforol - Adborth

·         Adolygiad Comisiynu Gofal Cartref - Adborth.

·         Adolygiad Comisiynu Gofal Preswyl - Adborth

Cofnodion:

(Y CYNGHORYDD V. M. EVANS (CADEIRYDD) OEDD YN LLYWYDDU)

 

Rhoddodd y Cynghorydd J. E. C. Harris, Aelod y Cabinet dros Oedolion a Phobl Ddiamddiffyn, y diweddaraf i'r pwyllgor ynghylch yr adolygiadau comisiynu parhaol.  Rhoddwyd yr wybodaeth ganlynol:

 

·         Adolygiad Comisiynu Canolfannau Dydd

Roedd angen gwaith ychwanegol ar yr adolygiad ac roedd wedi'i ohirio ar y pryd.

·         Adolygiad Comisiynu Iechyd Meddwl, Anableddau Dysgu ac Anableddau Corfforol

Roedd yr adolygiad wedi dechrau, ond y cam cyntaf oedd llunio cynlluniau comisiynu gyda'r wybodaeth ddiweddaraf y byddai angen cytuno arnynt cyn cynnal adolygiad cynhwysfawr o'r gwasanaethau.

·         Adolygiad Comisiynu Gofal Preswyl

Roedd angen gwaith ychwanegol ar yr adolygiad ac roedd wedi'i ohirio ar y pryd.

·         Model Gwasanaeth Gwasanaethau i Oedolion

Roedd y model arfaethedig yn cael ei adrodd i'r Cabinet ar 20 Hydref 2016 a cheisiwyd cytundeb i fynd i ymgynghoriad cyhoeddus ar y model.

·         Adolygiad Comisiynu Gofal Cartref

Roedd yr opsiynau'n cael eu hadrodd i'r Cabinet ar 20 Hydref 2016 a cheisiwyd cytundeb i fynd i ymgynghoriad cyhoeddus ar yr opsiynau.

 

Ychwanegodd y byddai'r wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei rhoi'n rheolaidd mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

32.

Gwobrau ar gyfer Annibyniaeth. (Llafar)

Cofnodion:

Ceisiodd Aelod y Cabinet dros Oedolion a Phobl Ddiamddiffyn eglurhad yn y cyfarfod nesaf ynghylch yr eitem hon.

 

Amlygodd y pwyllgor yr angen i gydnabod staff y Gwasanaethau Cymdeithasol am eu hymroddiad ar adegau anodd a chroesawyd syniadau ynghylch gwobrwyo staff.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)    Y byddai eglurhad ynghylch yr eitem hon yn cael ei roi yn y cyfarfod nesaf a drefnir;

2)    Y byddai manylion am wobrau a enillwyd gan staff y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael eu rhoi yn y cyfarfod nesaf a drefnir.

 

33.

Y Diweddaraf Am Daliadau Uniongyrchol.

Cofnodion:

Rhoddodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau i Oedolion a Phobl Ddiamddiffyn adroddiad diweddaru ar lafar i'r pwyllgor ynghylch taliadau uniongyrchol.

 

Rhoddodd esboniad am sut roedd y system yn gweithio, gan amlygu meysydd problemus, yn enwedig y diffyg yn nifer y cynorthwywyr personol sydd ar gael ar gyfer cyflogaeth.  Cymharodd yr arferion a ddefnyddir mewn awdurdodau lleol eraill â'r rhai a ddilynir yn yr awdurdod.

 

Ychwanegwyd bod Llywodraeth Cymru am i unigolion aros yn eu cymunedau.  Fodd bynnag, roedd llawer o rwystrau i'r system.

 

Trafododd y pwyllgor y canlynol:

 

·         Proses cyflogi cynorthwywyr personol;

·         Y pwysau a roddir ar y rhai sy'n cyflogi cynorthwywyr personol;

·         Diogelu pobl ddiamddiffyn;

·         Adolygu'r arferion a ddefnyddir ar gyfer taliadau uniongyrchol;

·         Gweithdrefnau Llywodraeth Cymru;

·         Biwrocratiaeth wedi'i sbarduno gan gost;

·         Yr angen am gysondeb gan syrfewyr;

·         Ailgyflwyno'r system rota i gynghorwyr.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

34.

Rhaglen Waith 2016/17. pdf eicon PDF 60 KB

Cofnodion:

Rhoddodd y cadeirydd yr adroddiad am Raglen Waith 2016 – 2017.

 

Ychwanegodd y cynhaliwyd yr ymweliad â Chyngor Sir Fynwy ar 13 Hydref 2016 ac y bu'n addysgiadol iawn.  Byddai'n rhoi adroddiad i'r cyfarfod nesaf a drefnir.

 

Gofynnodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau i Oedolion a Phobl Ddiamddiffyn i adroddiadau'r Cabinet ynghylch model gwasanaeth Gwasanaethau i Oedolion a'r Adolygiad Comisiynu Gofal Cartref gael eu hadrodd i'r cyfarfod nesaf a drefnir.

 

PENDERFYNWYD: -

 

1)    Y dylid nodi cynnwys yr adroddiad;

2)    Y bydd y cadeirydd yn rhoi adroddiad ynghylch yr ymweliad â Chyngor Sir Fynwy i'r cyfarfod nesaf a drefnir;

3)    Y byddai adroddiadau ynghylch model gwasanaeth Gwasanaethau i Oedolion a'r Adolygiad Comisiynu Gofal Cartref yn cael eu hadrodd i'r cyfarfod nesaf a drefnir;

4)    Gwahodd Iechyd Cyhoeddus Cymru i gyfarfod yn y dyfodol er mwyn darparu cyflwyniad cyffredinol ynghylch iechyd a deiet yn Abertawe.