Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatgelwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 15 Awst 2016 yn gofnod cywir. |
|
Y diweddaraf ar bedwar Adolygiad Comisiynu. (Llafar) ·
Adolygiad Comisiynu ar
Ganolfannau Dydd – Adborth; ·
Adolygiad Comisiynu
Iechyd Meddwl, Anableddau Dysgu ac Anableddau Corfforol – Adborth; ·
Adolygiad Comisiynu
Gofal yn y Cartref – Adborth; ·
Adolygiad Comisiynu Gofal
Preswyl – Adborth. Cofnodion: Rhoddwyd y diweddaraf am adolygiadau comisiynu parhaus i’r pwyllgor gan y
Cynghorydd J E C Harris, Aelod y Cabinet dros Oedolion a Phobl
Ddiamddiffyn. Ychwanegodd fod angen gwaith parhaol ar yr Adolygiadau Comisiynu Gofal
Preswyl a Chanolfannau Dydd. Roedd Adolygiadau Iechyd Meddwl, Anableddau Dysgu
ac Anableddau Corfforol, a Gofal Cartref i'w cyflwyno gerbron y Cabinet.
Unwaith y cytunid arnynt gan y Cabinet, byddai'r adolygiadau yn cael eu
dosbarthu ar gyfer ymgynghoriad â'r cyhoedd. Dywedodd ei bod hi
am gael sylwadau grymus ynghylch disgwyliadau'r cyhoedd o'r gwasanaethau. PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Teledu Cylch Cyfyng. PDF 274 KB Cofnodion: Adroddwyd cylch
gorchwyl yr adolygiad TCC i'r Pwyllgor. PENDERFYNWYD y byddai trafodaethau pellach yn cael eu
cynnal rhwng y Cadeirydd a Chadeirydd Pwyllgor Cynghori'r Cabinet. |
|
Ymchwiliad i Iechyd a Deiet yn Abertawe. PDF 199 KB Cofnodion: Adroddwyd cylch
gorchwyl yr ymchwiliad i iechyd a deiet yn Abertawe
i'r Pwyllgor. Trafodwyd y cylch
gorchwyl gan y Pwyllgor, yn enwedig cyfle potensial yr ymchwiliad a nodi'r
swyddog arbenigedd perthnasol o fewn yr awdurdod. PENDERFYNWYD y dylai trafodaethau pellach cael eu
cynnal yn ystod y cyfarfod nesaf a drefnir. |
|
Rhaglen Waith 2016/17. PDF 288 KB Cofnodion: Adroddwyd am Raglen
Waith Craffu 2016/2017 er gwybodaeth. Dywedwyd bod ymweliad i Gyngor Sir Fynwy
wedi ei drefnu ar gyfer 13 Hydref 2016. PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |