Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r côd Ymddygiad
a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo fel cofnod cywir gofnodion cyfarfod blaenorol Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ataliaeth a Gofal Cymdeithasol. Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2016 yn gofnod cywir. |
|
Cyflwyniad - Effaith Deddfwriaeth ar Ofalwyr Cofnodion: Rhoddwyd cyflwyniad
manwl a llawn gwybodaeth gan Eleanor Norton, Cyfarwyddwr Canolfan Ofalwyr
Abertawe, ynghylch cefnogi gofalwyr a chyflwyno dyletswyddau newydd Deddf
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Amlygodd y
newidiadau a gyflwynwyd gan y Ddeddf, yn arbennig y diffiniad newydd o ofalwr;
y ddyletswydd i gefnogi gofalwyr; lles, dyletswyddau a chanlyniadau trosgynnol;
mentrau cymdeithasol, cydweithfeydd a'r trydydd sector; y ddyletswydd i
ddarparu gwasanaethau ataliol; y ddyletswydd i asesu a chefnogi cynlluniau i
ofalwyr; egwyddorion cyffredin asesu; buddsoddiad yn y 3ydd sector; a thaliadau
uniongyrchol. Gofynnodd y
pwyllgor nifer o gwestiynau i Gyfarwyddwr Canolfan Ofalwyr Abertawe, ac
ymatebwyd iddynt yn briodol. Roedd
trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol yn bennaf: - ·
Defnyddio
adeiladau cymunedol i gynnal cyfarfodydd grŵp; ·
Sut
nad oedd Adran y Llywodraeth/rheolau'n cynorthwyo gofalwyr a oedd yn cael eu
cosbi am gael cyflogaeth ac wedi colli budd-daliadau yr oedd ganddynt hawl
iddynt; ·
Effaith
yr isafswm cyflog ar ofalwyr sy'n chwilio am gyflogaeth; ·
Cyfeirio
a oedd yn cynorthwyo gofalwyr; ·
Yr
angen i asesiadau fod yn amserol ac am gynnal adolygiadau rheolaidd; ·
Cyllid
yw'r prif ffactor gydag asesiadau; ·
Y
newid diwylliannol enfawr y mae ei angen i gydymffurfio â'r Ddeddf; ·
Mynediad
i wasanaethau a ddarperir gan yr Awdurdod a'r newidiadau a gyflwynwyd drwy'r
llinell 'cyngor, gwybodaeth a chymorth'; ·
Pwysigrwydd
bod staff yn gymwys ac wedi'u hyfforddi'n briodol; ·
Ymgysylltu
â grwpiau/sefydliadau sy'n cynorthwyo gofalwyr; ·
Y
rhwystrau parhaus a wynebir gan ofalwyr a'r frwydr barhaus y mae gofalwyr yn ei
hwynebu er mwyn cyflawni eu hamcanion. Cyflwynodd
Cyfarwyddwr Canolfan Ofalwyr Abertawe hefyd y gofalwyr, Nonn Evans, Karenza
Cassidy a Keith Skeggs a roddodd hanes manwl ac emosiynol o'u profiadau fel
gofalwyr. Nodwyd ganddynt y frwydr
barhaus a wynebir gan ofalwyr a'r anawsterau roedd yn rhaid iddynt eu hwynebu
gyda'r Gwasanaethau Cymdeithasol.
Dywedwyd bod llawer o'r anawsterau wedi'u hachosi gan systemau/prinder
adnoddau. Heblaw hynny, roedd
gwasanaethau a chefnogaeth yn cael eu cymryd oddi wrth bobl ac ni cheir empathi
i ofalwyr a phrin yw’r gydnabyddiaeth maent yn ei chael. Mynegwyd pryder gan
y pwyllgor am brofiadau gofalwyr a chydnabuwyd bod angen i fwy o Aelodau
Etholedig glywed eu hanes oherwydd bod llawer wedi clywed profiadau tebyg yn eu
wardiau. Cydnabuwyd canfyddiad negyddol
o'r Gwasanaethau Cymdeithasol mewn cymunedau hefyd. Serch hynny, pwysleisiwyd hefyd fod staff yn
y gwasanaeth yn gwbl ymrwymedig a bod llawer o'r problemau wedi codi o
ganlyniad i brinder adnoddau. Diolchodd y
Cadeirydd i Gyfarwyddwr Canolfan Ofalwyr Abertawe, Nonn Evans, Karenza Cassidy
a Keith Skeggs am ddod i'r cyfarfod. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd y
cadeirydd raglen waith wedi'i diweddaru ar gyfer 2016/17. PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |