Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

11.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.

 

12.

Cofnodion. pdf eicon PDF 63 KB

Cymeradwyo fel cofnod cywir gofnodion Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Atal a Gofal Cymdeithasol.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Mehefin 2016 yn gofnod cywir.

 

13.

Cyflwyniad - Gofalwyr.

Cofnodion:

Darparodd y Cynghorydd E T Kirchner fanylion i'r pwyllgor o'r gwaith a wnaed gyda'r gofalwyr.  Nododd ei bod hi'n cynnal cymhorthfa misol lle'r oedd hi'n cwrdd â gofalwyr, ei bod hi'n ymwybodol o'r problemau a oedd yn eu hwynebu a sut roedd gofalwyr yn darparu syniadau newydd i broblemau.  Ychwanegodd y dylai'r Cynghorydd P B Smith, Cynghorydd Hyrwyddwr dros Ofalwyr, gymryd rhan hefyd mewn trafodaethau yn y dyfodol.

 

Roedd y Cynghorydd Kirchner wedi cwrdd ag Eleanor Norton, Cyfarwyddwr Gweithredol Canolfan Ofalwyr Abertawe, er mwyn tynnu sylw at t problemau y mae gofalwyr yn eu hwynebu yn eu bywydau pob dydd.  Bydd y Cyfarwyddwr Gweithredol yn cynnal cyflwyniad yn y cyfarfod nesaf a drefnir a bydd hefyd yn gwahodd gofalwyr i ddod fel y gallant ddarparu tystiolaeth i'r pwyllgor.

 

Tynnwyd sylw at nifer o faterion yn ystod y drafodaeth gan gynnwys: -

 

·         Yr ymdrech gyson y mae'n rhaid i ofalwyr ei gwneud er mwyn derbyn gwasanaethau a'r effaith flinderus y mae hyn yn ei chael ar unigolion;

·         Y ffaith bod gofalwyr yn clywed dro ar ôl tro eu bod nhw ond yn gallu cael mynediad i wasanaethau os ydynt "mewn argyfwng", bod pobl y mae angen cymorth arnynt yn cael eu gwrthod a bod gofalwyr yn dod ar draws rhwystrau;

·         Rhwystrau o fewn y system, yn enwedig o fewn yr awdurdod, a'r angen am hyfforddiant staff er mwyn osgoi rhwystrau o'r fath;

·         Mae angen cydnabod bod gofalwyr yn arbed swm sylweddol o arian i'r awdurdod.

·         Y problemau y mae gofalwyr sy'n rhieni yn eu cael i annog eu plant i fynd i sefydliadau addysgol a'u cadw nhw yno;

·         Y problemau y mae gofalwyr sy'n rhieni yn eu cael i gael swydd a'r angen i weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau allanol, e.e. bod angen i'r Ganolfan Byd Gwaith fynd i'r afael â'r materion hyn ac i ddarparu cefnogaeth;

·         Diffyg gofal seibiant ar gael i ofalwyr a chleifion;

·         Annhegwch y ffordd mae'r Adran Gwaith a Phensiynau (AGPh) yn ymdrin ag achosion gofalwyr.

·         Y ffaith y darperir lwfans gofal ar gyfer un claf yn unig, ni waeth beth yw nifer y bobl y mae'r gofalwr yn edrych ar eu hôl a bod pobl mewn gwaith yn cael eu cosbi'n ariannol;

·         Diffyg cydnabyddiaeth, cefnogaeth a pharch am ofalwyr;

·         Y diffyg dealltwriaeth a roddir i ofalwyr ifanc a sut mae eu sefyllfa yn eu heithrio'n annheg o gyfleoedd mewn bywyd;

·         Goblygiadau'r Bil Anghenion Dysgu

·         Gofynion deddfwriaethol asesiadau gofalwyr statudol;

·         Cynigion Llywodraeth Cymru mewn perthynas â gofalwyr;

·         Sefyllfaoedd a wynebir gan bobl ddiamddiffyn ag anableddau dysgu sy'n byw gyda'u rhieni hŷn yn llety'r Gymdeithas Tai/Cyngor pan fo'r rhieni'n marw neu'n symud i gartref gofal.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)    Nodi cynnwys y trafodaethau;

2)    Gwahodd Eleanor Norton, Cyfarwyddwr Gweithredol Gofalwyr Abertawe a gofalwyr i'r cyfarfod nesaf a drefnir er mwyn cynnal cyflwyniad ynglŷn ag  effaith deddfwriaeth ar ofalwyr;

3)    I'r Cadeirydd drafod â Chadeirydd Addysg Cabinet ar Gymunedau am ofalwyr ifanc;

4)    Gwahodd y Cynghorydd E T Kirchner a P B Smith i'r cyfarfod nesaf a drefnir;

5)    I'r Cadeirydd ysgrifennu i'r Adran Dai/Cymdeithasau Tai ynglŷn â sefyllfaoedd a wynebir gan bobl ddiamddiffyn ag anableddau dysgu sy'n byw gyda'u rhieni hŷn yn llety'r Gymdeithas Tai/Cyngor pan fo'r rhieni'n marw neu'n symud i gartref gofal.

 

14.

Y Polisi Cyllid sy'n ymwneud â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 - Y Diweddaraf. pdf eicon PDF 84 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y cadeirydd at Bolisi Codi Tâl yr awdurdod a ddarperir yn Atodiad 1 o'r adroddiad a gofynnod am sylwadau o'r Pwyllgor.  Trafodwyd y canlynol: -

 

·         Dyfodol Canolfannau Dydd a'r opsiwn o godi tâl at bobl (rhywbeth sy'n well gan lawer o bobl) yn lle cau'r canolfannau;

·         Effaith y cyflog byw ar y rhestr daliadau;

·         Cartrefi gofal preifat yn codi taliadau uwch;

·         Y problemau a wynebir drwy godi tâl i bobl ag anableddau corfforol neu anableddau dysgu o'u gymharu â phobl sydd wedi ymddeol a oedd wedi gweithio ac wedi cael pensiwn ymddeol.

 

PENDERFYNWYD y dylid nodi cynnwys yr adroddiad. 

 

15.

Ymweliad Arfaethedig â Chyngor Sir Fynwy. (Llafar)

Cofnodion:

Nododd y cadeirydd ei bod hi wedi cysylltu â Chyngor Sir Fynwy ac y byddai'n trefnu ymweliad ac yn gwahodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau i Oedolion a Phobl Ddiamddiffyn i ddod.

 

16.

Rhaglen Waith 2016-17. pdf eicon PDF 278 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y cadeirydd raglen waith wedi'i diweddaru ar gyfer 2016/17.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)    Nodi cynnwys yr adroddiad;

2)    Cynnal cyflwyniad o gynrychiolydd Gofalwyr Abertawe yn y cyfarfod nesaf a drefnir;

3)    Cwblhau trefniadau ar gyfer yr ymweliad i Gyngor Sir Fynwy;

4)    Trafod Grantiau Cyfleusterau Anabl yn y cyfarfod nesaf a drefnir ar gyfer dydd Llun, 19 Medi 2016;

5)    Trafod Llety Lloches yn y cyfarfod a drefnir ar gyfer dydd Llun, 19 Medi 2016;

6)    Trefnu cyfarfod ar y cyd gyda PCC ar Ddatblygiad er mwyn trafod CCTV.