Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau
canlynol: Cynghorydd J A Hale
- yr agenda yn ei chyfanrwydd - Rwy'n gweithio i Fwrdd Iechyd PABM - personol. |
|
Cymeradwyo fel cofnod cywir gofnodion cyfarfod(ydd) Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ofal Cymdeithasol ac Ataliaeth. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 25 Ebrill 2016 yn gofnod cywir. |
|
Y Polisi Cyllid sy'n ymwneud â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 - Y Diweddaraf (Llafar) Cofnodion: Rhannodd Simon Jones,
Arweinydd Strategol Rhaglen Iechyd a Gofal Cymdeithasol Bae'r Gorllewin, yr
wybodaeth ddiweddaraf ar lafar â'r pwyllgor ynghylch y Polisi Cyllid mewn
perthynas â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Cyfeiriodd at adroddiad Cefndir y Polisi Codi Tâl (Gwasanaethau
Cymdeithasol) - Talu am Wasanaethau Cymdeithasol yn unol â Deddf Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a gyflwynwyd i'r Cabinet ar 21 Ebrill
2016. Ychwanegodd fod y Polisi Codi Tâl yn disgrifio sut roedd Dinas
a Sir Abertawe'n codi tâl ar gyfer gwasanaethau
cymdeithasol yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
(y Ddeddf) a ddaeth i rym ar 6 Ebrill 2016, y rhestr o daliadau am y flwyddyn
2016/17 a'r cylch adolygu taliadau blynyddol. Tynnodd sylw at y ffaith mai ymagewdd
yr awdurdod oedd cysondeb a thryloywder.
Amlinellodd y newidiadau ariannol a gweithredoedd a oedd wedi cael eu
cyflwyno a'r cylch adolygu blynyddol arfaethedig. Gofynnodd y cyngor nifer o gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd
iddynt yn briodol. Tynnwyd sylw at y
ffaith nad oedd yr aelodau wedi cael digon o gyfle i fynegi eu barn am y polisi
newydd. Gwnaeth y swyddog hefyd ymateb i
gwestiynnau'r aelodau ynghlyn
â gofal cartref ac arfer gorau ym meysydd eraill. Cafodd Cyngor Sir Fynwy
ei amlygu fel awdurdod a oedd wedi cyflwyno ymagwedd sy'n seiliedig ar
ganlyniadau. PENDERFYNWYD: - 1)
Y dylid nodi cynnwys y
diweddariad 2)
Y dylai'r Cadeirydd ystyried
ymweliad â chyngor Sir Fynwy. |
|
Adolygiad Comisiynu'r Gwasanaethau Dydd i Bobl Hyn. (Llafar) Cofnodion: Cyfeiriodd y
Cadeirydd at yr Adolygiadau Comisiynu parhaol canlynol: - ·
Adolygiad
Comisiynu Gwasanaethau Dydd i Bobl Hŷn; ·
Adolygiad
Comisiynu Gofal Cartref; ·
Adolygiad
Comisiynu Iechyd Meddwl, Anableddau Dysgu ac Anableddau Corfforol; ·
Adolygiad
Comisiynu Gofal Preswyl. Rhoddwyd adroddiad
i'r pwyllgor a, y cynnydd diweddaraf mewn perthynas â phob Adolygiad Comisiynu
a thrafodd yr aelodau elfennau pwysig ynglŷn â
phob un. Amlinellwyd y canfyddiad
negyddol am wasanaethau cymdeithasol mewn cymunedau a sut mae hyn yn effeithio
ar unigolion. Trafodwyd materion
mynediad hefyd. PENDERFYNWYD y dylid nodi cynnwys y diweddariadau a
darparu rhagor o ddiweddariadau mewn cyfarfodydd yn y dyfodol. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd raglen waith wedi'i diweddaru
ar gyfer 2016/17. PENDERFYNWYD: - 1)
Y dylid
nodi cynnwys yr adroddiad; 2)
Y
dylai'r Cadeirydd/Aelod Cabinet drefnu ymweliad arall â llety cysgodol; 3)
Y
dylid trefnu trafodaethau ynglŷn â gofalwyr ar gyfer cyfarfod yn y
dyfodol; 4)
Y
dylai'r Cadeirydd gwrdd â'r Cynghorydd P Downing, Cadeirydd Pwyllgor Cynghori'r Cabinet, er mwyn trafod teledu
cylch cyfyng; 5)
Y
dylid tynnu'r Polisi Siwgr o raglen waith 2016/17. |