Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

36.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd buddiannau.

 

37.

Cofnodion. pdf eicon PDF 58 KB

Cymeradwyo, fel cofnod cywir, gofnodion cyfarfod blaenorol Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ataliaeth a Gofal Cymdeithasol.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2016 yn gofnod cywir.

 

38.

Adolygiad Comisiynu o Ganolfannau Dydd - Adborth. (Llafar)

Cofnodion:

Cyflwynodd y cadeirydd Gam 2 Adroddiad Adolygu'r Porth Comisiynu – Adolygiad o Wasanaethau Dydd Pobl Hŷn a Cham 2 Adroddiad Adolygu'r Porth Comisiynu – Adolygiad o Ofal Cartref.  Ychwanegodd ei bod yn bwysig i aelodau gael cyfrannu'n uniongyrchol ynghylch y materion a oedd yn cael eu trafod.

 

Trafododd y pwyllgor yr adroddiadau mewn grwpiau a rhoi adborth i'r cadeirydd.  Roedd y trafodaethau'n canolbwyntio ar y canlynol: -

 

·         Gwasanaethau Dydd Pobl Hŷn a pham nad oedd y model gwasanaeth wedi newid i ystyried newid yn lefel yr anghenion;

·         Sicrhau nad oedd modelau cyfleoedd dydd hygyrch yn cymryd lle gwasanaethau dydd a'r angen i fod yn bwyllog iawn;

·         Datblygu amrywiaeth y cyfleoedd sydd ar gael i ofalwyr;

·         Canolbwyntio ar staff, y gwasanaethau a ddarperir, morâl staff, morâl a lles defnyddwyr gwasanaeth;

·         Darpariaeth fewnol a'r gostyngiad mewn defnydd er gwaethaf bod 112 o bobl ar restr aros, a gefnogwyd gan y ffigurau a ddarparwyd ac roedd yn ymddangos bod y gwasanaeth yn cael ei wanhau'n fwriadol;

·         Pobl yn aros ar restrau aros er gwaethaf bod gwasanaethau'n cael eu cau;

·         Diogelu pobl ddiamddiffyn;

·         Yr effaith gadarnhaol y gall canolfannau dydd ei chael ar bobl hŷn a'r angen i ddewisiadau fod ar gael i bobl hŷn;

·         Gorgyffwrdd rhwng gwaith cysylltwyr cymunedol a

chydlynwyr ardaloedd lleol (CALl) a llwyth gwaith llethol CALl;

·         Materion cludiant ac argaeledd gwael cludiant cyhoeddus i gymunedau;

·         Y ffaith bod defnyddwyr gwasanaeth yn barod i dalu am wasanaethau dydd er mwyn eu hatal rhag cau;

·         Cadarnhau pam nad oedd aelodau etholedig yn mynd ar ymweliadau rota mwyach;

·         Roedd mynd â gwasanaethau heb ystyried yn ofalus yn annoeth ac yn ateb cyflym;

·         Y galw ar wasanaethau yn y dyfodol oherwydd canran amcanestynedig y cynnydd mewn poblogaeth, sef 45% o bobl 85+ oed;

·         Perygl colli staff profiadol oherwydd ansicrwydd swyddi;

·         Yr angen i wrando ar ddefnyddwyr gwasanaeth;

·         Diffyg sgiliau TG pobl hŷn;

·         Nid yw'r gwasanaeth presennol yn cael ei ddarparu'n wastad ar draws y sir yn ddaearyddol sy'n effeithio ar fynediad i ddefnyddwyr gwasanaeth gan deulu a ffrindiau;

·         Pwysigrwydd cadw pobl yn eu cymunedau;

·         Siarter Gofal Moesegol;

·         Y rhesymau pam nad oedd cyfeiriadau'n cael eu gwneud;

·         Goblygiadau'r Cyflog Byw;

·         Rheoli disgwyliadau defnyddwyr/darparwyr gwasanaeth;

·         Perygl y bydd prif ddarparwr gwasanaethau gofal iechyd yn tynnu allan o'i gontract gyda'r awdurdod;

·         Materion sy'n ymwneud â darparu gofal cartref, yn enwedig staff sy'n teithio, parcio ger eiddo defnyddwyr gwasanaeth a rhiciau amser i staff ymgymryd â'u dyletswyddau;

·         Pwysigrwydd cael manylion cytundebau lefel gwasanaeth clir yn ystod y broses dendro;

·         Adroddiad Craffu yn y Cartref.

 

Dywedodd y cadeirydd fod angen rhagor o drafodaethau yng nghyfarfod nesaf y pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD rhoi'r diweddaraf ynghylch yr Adolygiad Comisiynu Gwasanaethau Dydd Pobl Hŷn a'r Adolygiad Comisiynu Gofal Cartref yn y cyfarfod nesaf a drefnir.

 

39.

Adolygiad Comisiynu o Iechyd Meddwl, Anableddau Dysgu ac Anableddau Corfforol - Adborth. (Llafar)

Cofnodion:

PENDERFYNWYD rhoi adborth yn y cyfarfod nesaf a drefnir.

 

40.

Adolygiad Comisiynu o Ofal Preswyl - Adborth. (Llafar)

Cofnodion:

PENDERFYNWYD rhoi adborth yn y cyfarfod nesaf a drefnir.

 

41.

Y Polisi Cyllid sy'n ymwneud â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 - Y diweddaraf. (Llafar)

Cofnodion:

PENDERFYNWYD, yn absenoldeb y swyddog gwasanaethau cymdeithasol, ohirio'r eitem i'r cyfarfod nesaf a drefnir.</AI6>

 

42.

Cynllun Gwaith pdf eicon PDF 52 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y cadeirydd gynllun gwaith wedi'i ddiweddaru ar gyfer 2015/16.

 

Pwysleisiodd ei bod yn bwysig i'r pwyllgor gael cyfraniad i'r adolygiadau comisiynu a bod gan aelodau gyfle i drafod y materion a chyfrannu'n uniongyrchol.

 

PENDERFYNWYD ar y canlynol: -

 

1)    Nodwyd cynnwys yr adroddiad;

2)    Rhoi'r diweddaraf ar Adolygiad Comisiynu Canolfannau Dydd yn y cyfarfod nesaf a drefnir;

3)    Rhoi'r diweddaraf ar Adolygiad Comisiynu Gofal Cartref yn y cyfarfod nesaf a drefnir;

4)    Rhoi'r diweddaraf ynghylch y Polisi Cyllid sy'n ymwneud â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn y cyfarfod nesaf a drefnir;

5)    Rhoi adborth ar y sefyllfa bresennol ynghylch yr Adolygiad Comisiynu Iechyd Meddwl, Anableddau Dysgu ac Anableddau Corfforol yn y cyfarfod nesaf a drefnir;

6)    Rhoi adborth ar y sefyllfa bresennol ynghylch yr Adolygiad Comisiynu Gofal Preswyl yn y cyfarfod nesaf a drefnir.