Lleoliad: Ystafell 235 (Ystafell Gyfarfod y Cynghorwyr) - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygu a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2017 fel cofnod cywir. |
|
Ymweliad safle â'r Siop Ailddefnyddio - Y Diweddaraf. (Llafar) Cofnodion: Cyfeiriodd y
cadeirydd at yr ymweliad safle diweddar a dywedodd fod y siop eisoes wedi'i
hehangu. Dywedodd y byddai Keith Coxon, Rheolwr Glanhau, a Thomas Williams, y Swyddog
Ailgylchu, yn darparu manylion ar weithredu'r siop a'i chostau. Adroddwyd gan y Rheolwr
Glanhau a'r Swyddog Ailgylchu fod yr estyniad wedi arwain at gynnydd gwerthiant
ac incwm. Ar hyn o bryd, ceir 5 aelod o
staff, 3 asiantaeth, 1 gweithiwr cyngor llawn amser ac 1 gweithiwr
hunangyflogedig (technegydd teledu). Mae
2 aelod o staff yn gweithio'n rhan-amser, 2-3 o ddyddiau'r wythnos. Cynhaliwyd
cyfweliadau i benodi staff asiantaeth i 8 swydd barhaol. Disgwyliwyd penodi
9 o staff yng Nglanfa Pipehouse. Byddai 18 o staff
asiantaeth yn cael eu cyflogi yn ystod yr wythnosau nesaf. Fodd bynnag, byddai bob amser angen cadw
'cronfa' o staff asiantaeth er mwyn cyflenwi yn ystod cyfnodau o salwch etc. Mabwysiadwyd
ymagwedd sensitif er mwyn penderfynu ar rolau a oedd yn addas i unigolion ag
anghenion arbennig. Y bwriad oedd
penodi 4 hyfforddeiaeth (sy'n debyg i brentisiaeth)
am gyfnod o 9 mis. Byddant yn derbyn
hyfforddiant ym mhob agwedd ar reoli gwastraff.
Byddai'r hyfforddeiaethau yn galluogi i staff
asiantaeth gael cyflogaeth amser llawn. Mewn ymateb i
gwestiynau gan aelodau, cadarnhaodd swyddogion y canlynol: ·
Mae'r estyniad wedi arwain at gynnydd mewn trosiant i
£130,000 gydag elw o £43,000 yn ystod y flwyddyn ariannol ddiweddaf. Dyma'r elw ac arbedion tirlenwi cyfunedig
sy'n deillio o'r siop. Roedd elw o'r siop yn £28,000, a'r arbediad tirlenwi amcangyfrifedig yn £15,000. ·
Byddai'r
elw yn cael ei sianelu i'r gyllideb rheoli gwastraff. ·
Roedd
gweithredu'r siop wedi arwain at arbedion costau tirlenwi gwerth £15,000. ·
Er
cafodd y polisi prisio ei symleiddio, nod y siop oedd dargyfeirio gwastraff o
dirlenwi a darparu ffordd i unigolion ar incwm isel brynu eitemau am bris
fforddiadwy. ·
Profir
yr holl eitemau trydanol i sicrhau eu bod yn addas i'r diben cyn iddynt gael eu
gwerthu. ·
Mae
staff yn brofiadol wrth benderfynu ar brisoedd addas a labeli eitemau ar sail
hynny awr cyn i'r siop agor i'r cyhoedd. ·
Caiff
eitemau sydd ar werth eu harddangos mewn cabinet neu maent yn cael eu harwerthu
ar gyfrif Ebay'r cyngor. ·
Cafwyd
problemau gydag unigolion yn prynu mewn llwyth er mwyn ailwerthu mewn arwerthiannau
cist car. ·
Roedd
argaeledd eitemau ar gyfer ailwerthu yn dibynnu ac ni ellid ei warantu. ·
Mae'r
til yn rhestru nifer yr eitemau a werthwyd ac yn darparu disgrifiad cryno
ohonynt a'u pwysau (er mwyn gallu nodi'r mesurau cywir y gellid eu cynnwys mewn
targedau ailgylchu). ·
Newidiwyd
cynllun y siop er mwyn rhoi gweithrediad mwy proffesiynol a hwylus iddi. ·
Roedd
gwaith gydag elusennau lleol ynghylch stoc sydd dros ben yn parhau. ·
Byddai
prisio addurniadau yn cael ei archwilio. ·
Roedd
y siop wedi denu llawer o sylw cadarnhaol iawn a derbyniwyd adborth calonogol
iawn ar ôl ymweliadau gan swyddogion Llywodraeth Cymru, CLlLC
ac awdurdodau lleol eraill. ·
Ceir
cynwysyddion storio yng nghefn y siop ar gyfer unrhyw stoc sydd dros ben. ·
Mae
gan bob un o'r 5 safle amwynder gynwysyddion ar gyfer eitemau y gellir eu
hailddefnyddio. ·
Roedd
y siop yn y broses o gael ei hailbrandio gydag enw
newydd, 'Tip Treasures', arwyddion a chyfarwyddiadau. ·
Nid archwiliwyd
defnyddio trydydd parti i reoli'r siop ymhellach oherwydd teimlwyd nad oedd y
siop wedi cyrraedd ei photensial llawn eto.
Yn ogystal â hynny, nod y siop yw darparu eitemau fforddiadwy i
aelodau'r gymuned sy'n byw mewn tlodi, a byddai comisiynu trydydd parti i
reoli'r siop yn newid y prisio'n sylweddol oherwydd byddant yn anochel yn
canolbwyntio ar wneud elw. ·
Tâl
yr unigolyn hunangyflogedig yw £100 yr wythnos ac mae'n atgyweirio setiau
teledu ar gyfer eu hailwerthu yn y siop (a fyddai fel arall yn cael eu hanfon i
safleoedd tirlenwi). Mae'r trefniad hwn
wedi gweithio'n dda ac mae'r cyhoedd yn cael eu denu i'r siop i brynu setiau
teledu wedi'u hatgyweirio ac eitemau eraill. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Swyddogion am eu cyflwyniad addysgiadol. PENDERFYNWYD cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf. |
|
Neilltuo Stryd y Gwynt i Gerddwyr - Camau Nesaf (Diweddariad ar lafar). Cofnodion: Dywedodd y
cadeirydd fod Arweinydd Grŵp Rheoli'r Rhwydwaith Traffig a Phriffyrdd yn
anfon ymddiheuriadau ac ni ddaeth Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a
Chludiant. Mynegodd aelodau'r
pwyllgor siom a phryder am ddiffyg cynnydd. PENDERFYNWYD y dylai'r cadeirydd symud y broses yn ei blaen gydag aelod y cabinet dros yr amgylchedd a chludiant. |
|
Y diweddaraf gan y Cadeirydd (llafar). Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddiweddariadau. |
|
Cynllun Gwaith a Chamau Gweithredu Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygu 2016-2017. PDF 28 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD: 1.
Cynnwys
Strategaeth Mannau Agored yn y cynllun gwaith, i'w ystyried gan aelodau yn y
flwyddyn ddinesig newydd. 2. Nodi'r cynllun gwaith. |