Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygu a gynhaliwyd ar 15 Chwefror 2017 fel cofnod cywir. |
|
Caffael Tir ac Eiddo - Senario Damcaniaethol. PDF 52 KB Cofnodion: Rhoddodd Rheolwr
Strategol Corfforaethol - Gwasanaethau Adeiladau ac Eiddo Corfforaethol senario
damcaniaethol i'r pwyllgor mewn perthynas â sut mae'r cyngor yn caffael tir ac
eiddo. Gofynnodd y
cynghorwyr amryw o gwestiynau ac ymatebodd y Swyddog yn briodol. Cytunodd y Pwyllgor fod y Polisi mewn perthynas â
Chaffael Tir ac Eiddo yn gadarn; fodd bynnag, codwyd cwestiynau mewn perthynas
â pholisi'r cyngor o ran gwerthu tir/adeiladau. PENDERFYNWYD: 1) Y
dylid nodi'r adroddiad; 2) Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad pellach mewn perthynas â gwerthu tir/adeiladau. |
|
Neilltuo Stryd y Gwynt i Gerddwyr - Camau Nesaf (Diweddariad ar lafar). Cofnodion: Rhoddodd y
Cadeirydd, ar ran Arweinydd Grŵp Rheoli'r Rhwydwaith Traffig a Phriffyrdd
ddiweddariad llafar mewn perthynas â throi Stryd y Gwynt yn barth i gerddwyr. Adroddodd fod cais wedi cael ei anfon i Gyngor Caerdydd i ofyn am gyngor i
swyddogion allweddol er mwyn ceisio eglurhad ar faterion megis hyd a lled yr
ymgynghoriad, mynediad i bobl anabl ac amseroedd dosbarthu nwyddau/trefniadau
mynediad. Arhoswyd am ymateb. Roedd y Pwyllgor yn siomedig gyda diffyg cynnydd a gofynnwyd i Aelod y
Cabinet ac Arweinydd Grŵp Rheoli'r Rhwydwaith Traffig a Phriffyrdd ddod
i'r cyfarfod nesaf er mwyn darparu mwy o fanylion. PENDERFYNWYD bod Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Chludiant ac
Arweinydd Grŵp Rheoli'r Rhwydwaith Traffig a Phriffyrdd yn rhoi
diweddariad yn y cyfarfod nesaf. |
|
Y diweddaraf gan y Cadeirydd (llafar). Cofnodion: Nid oedd unrhyw ddiweddariad i'w adrodd. |
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD: 1) Nodi'r cynllun gwaith diwygiedig; 2) Ychwanegu
Gwaith Datblygu PCC a Chamau Gweithredu 2016 - 2017 at yr agenda ar gyfer y
cyfarfod nesaf; 3) Trefnu ymweliad safle â'r Siop Ailddefnyddio ar gyfer yr wythnos sy'n dechrau ar 27 Mawrth 2017. |