Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygu a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2017 fel cofnod cywir. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Uned y Gwasanaethau Coed fersiwn derfynol y Polisi Coed. Esboniodd y Swyddog pan fyddai'r ddogfen yn cael ei chyhoeddi ar y wefan, y
byddai hyperddolenni o'r dudalen gynnwys a fyddai'n
mynd â chi'n syth i'r adran berthnasol yn y brif ddogfen. Diolchodd y cadeirydd i'r swyddog am ei holl waith caled wrth gwblhau'r
ddogfen. PENDERFYNWYD anfon yr adroddiad ymlaen at aelod y cabinet perthnasol er mwyn ei gyflwyno i'r uned Briffio Corfforaethol a/neu'r Cabinet. Byddai'r ddogfen hefyd yn cael ei dosbarthu ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. |
|
Polisi ac Arfer y Cyngor o ran Caffael Tir. PDF 61 KB Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Strategol Corfforaethol - Gwasanaethau Adeiladau ac
Eiddo Corfforaethol adroddiad byr a oedd yn amlinellu Polisi ac Arfer y cyngor
o ran Caffael Tir. Tynnodd sylw at Reolau Gweithdrefnau Caffael Tir yng Nghyfansoddiad y
Cyngor sy'n amlinellu sut rheolir caffael tir/eiddo. Cafwyd trafodaeth ynglŷn â chaffael a gwerthu tir/eiddo a manylion
swyddogion y dirprwyir awdurdod iddynt i gaffael eiddo. Gofynnwyd cwestiynau gan y Cynghorwyr, yr
oedd y swyddog wedi ymateb yn briodol iddynt. PENDERFYNWYD 1) Y dylid nodi'r adroddiad; 2)
Cytunodd
Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygu fod y Polisi yn addas at y diben ac yn
gadarn. |
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD: 1)
Nodi'r
cynllun gwaith; 2) Trefnu ymweliad safle yng Nghaerdydd ar gyfer mis Mawrth 2017. |