Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygu a gynhaliwyd ar 21 Rhagfyr 2016 fel cofnod cywir. |
|
Marchnad Abertawe. (Llafar) Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Canol y Ddinas y diweddaraf ar lafar ynglŷn â Marchnad Abertawe. Yn unol â’r cais, darparodd ystadegau o ran data nifer yr ymwelwyr ar draws y DU. Cynhyrchwyd y data drwy 2 ffynhonnell ddata: · Mynegai Marchnad y DU; · Arolwg 'Missions for Market' O ran ystadegau Mynegai Marchnad y DU ar gyfer y cyfnod Ionawr - Tachwedd 2016, roedd marchnadoedd ledled y wlad yn adrodd am ostyngiad o 3.5% yn nifer yr ymwelwyr. Roedd nifer yr ymwelwyr i Farchnad Abertawe yn unol â'r cyfartaledd cenedlaethol hwn. Serch hynny, o ran ystadegau misol, a oedd yn dangos tuedd am i lawr barhaus, roedd Marchnad Abertawe’n adrodd am 2% yn fwy na'r cyfartaledd cenedlaethol. O ran yr arolwg ‘Missions for Markets’, o'r 310 o gyfranogwyr roedd 43% yn adrodd am ostyngiad yn nifer yr ymwelwyr. Roedd hyn yn unol ag ystadegau Marchnad Abertawe. O ran incwm, roedd 45% yn dangos bod gwarged (incwm) ganddynt. Eto, roedd hyn yn unol ag ystadegau Marchnad Abertawe. Y cyfartaledd cenedlaethol o ran y gyfradd lenwi oedd 77%. Serch hynny, roedd y gyfradd ym Marchnad Abertawe’n 97%, ffigwr cadarnhaol iawn. Er ei bod yn ymddangos yn genedlaethol fod yna duedd gostyngol o ran nifer yr ymwelwyr â farchnadoedd, yr oedd yn ymddangos nad oedd Abertawe'n dioddef cymaint. Er hynny, rhaid ystyried sut i ymdrin â'r wybodaeth hon mewn modd cadarnhaol. Gofynnodd y Cadeirydd beth y gellid ei wneud i wella nifer yr ymwelwyr â Marchnad Abertawe.
Dosbarthodd Reolwr Canol y Ddinas gopïau o brif gynllun drafft Marchnad Abertawe. Roedd yr adroddiad hwn yn ganlyniad ymchwil a’r nod o ddiffinio prif gynllun ar gyfer Marchnad Abertawe.. Ei fwriad oedd cyfeirio gwneud penderfyniadau yn y dyfodol am y farchnad, ond hefyd i weithio fel cyd-destun ar gyfer prosiectau datblygu arfaethedig eraill gerllaw’r adeilad. Amlygodd materion a oedd yn cyfyngu Marchnad Abertawe ac amlinellodd y dylai'r prif gynllun ystyried Fframwaith Strategol Canol y Ddinas. Roedd 3 phrif gategori wedi'u hamlinellu yn y broses datblygu dyluniadau, serch hynny, roedd yr awgrym ynghylch ail-agor Stryd Oren wedi'i ddiystyru ar yr adeg hon. Gofynnodd yr aelodau amryw o gwestiynau ac ymatebodd y swyddog yn briodol. I gloi nododd mai’r camau nesaf, os bwrir ymlaen â’r cynllun, fyddai, symud ymlaen â'r cysyniad dylunio amlinellol a gwerthusiad manylach o gostau, nodi ffynonellau cyllid mewnol ac allanol a holi'n fanwl ynghylch y camau adeiladu - a yw'n gweithio i ni? Byddai'n rhaid cynnal ymgynghoriad a datblygu cynllun cyfathrebu. Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddog am ei chyflwyniad manwl. PENDERFYNWYD: 1) Nodi'r diweddariad; 2) Y dylai’r cadeirydd gysylltu â'r Aelod Cabinet perthnasol ynglŷn â'r sefyllfa gyllidebol a’r ffordd ymlaen. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr yr Uned Gwasanaethau Coed y fersiwn ddrafft lawn gyntaf o'r Polisi Coed. Amlinellodd fod angen fformatio pellach ar y ddogfen ac y byddai angen diwygio sawl rhan ar ôl cael trafodaethau â rhai adrannau eraill. Roedd dryswch yn parhau o ran cyfrifoldebau ynglŷn â choed ar dir tai cyngor, ac a oedd unrhyw wybodaeth wedi'i chynnwys yng nghytundebau'r tenantiaid ynglŷn â'u cyfrifoldebau. Rhoddodd y cadeirydd awgrymiadau ychwanegol i helpu i gryfhau'r polisi. PENDERFYNWYD y dylid: 1) Nodi'r Polisi Coed diweddaraf; 2) Diwygio’r polisi a’i gyflwyno yn y cyfarfod nesaf. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd y Cynllun Gwaith diwygiedig ar gyfer 2016-17. PENDERFYNWYD y dylid: 1) Nodi'r Cynllun Gwaith diwygiedig; 2) Trefnu ymweliad safle â'r siop ailddefnyddio, ar gyfer aelodau Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygu, o fewn y mis nesaf |