Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

48.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd buddiannau.

49.

Cofnodion. pdf eicon PDF 67 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod

cywir.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygu a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2016 fel cofnod cywir.

50.

Oceana (Diweddariad ar lafar).

Cofnodion:

Gwahoddwyd Dirprwy Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd i gyfarfod y pwyllgor i esbonio'r weithdrefn ar gyfer Pwyllgorau Cynghori'r Cabinet (PCC) a'r broses ar gyfer symud ymlaen o ran yr eitem hon.

 

Cylch gwaith PCC yw:

 

·                 Cynghori Aelodau'r Cabinet ar faterion sy'n ymwneud ag ymrwymiadau polisi;

·                 Cynghori a chefnogi gwaith y Cabinet a'r cyngor....cynghori'r Aelod Cabinet perthnasol ar newidiadau posib i bolisi a chyflwyno newid gwasanaeth sylweddol....

Felly, mae ffocws cynllun gwaith PCC yn edrych i'r dyfodol e.e. datblygu polisïau, newidiadau i bolisïau a gweithredu gwasanaethau.

 

Cylch gwaith y Tîm Craffu yw:

 

·                 Herio'r Cabinet i weithredu fel cyfaill beirniadol. (Erthygl 6 y Cyfansoddiad); 

·                 Ffocws cynllun gwaith y Tîm Craffu yw craffu ar benderfyniadau a wnaed ac mae'n edrych yn ôl/ar y gwersi a ddysgwyd.

Dywedir y bydd angen i PCC ganolbwyntio ar faterion ar gyfer y dyfodol sy'n effeithio ar bolisïau'r cyngor neu ei allu i gyflwyno gwasanaethau er mwyn cael gwell dealltwriaeth o bolisïau ac arferion cyfredol a gweld a oes modd gwella e.e.:-

 

1.               Polisi ac arfer y cyngor o ran caffael tir. Sut mae'r cyngor yn cynnal diwydrwydd dyladwy a sut caiff buddion y cyngor eu diogelu?

2.               Proses comisiynu a chaffael y cyngor. Sut mae'r cyngor yn cynnal diwydrwydd dyladwy a sut caiff buddion y cyngor eu diogelu?

3.               Rheolaeth ariannol y cyngor a sut mae'n rheoli prosiectau. Sut mae'r cyngor yn cynnal diwydrwydd dyladwy a sut caiff buddion y cyngor eu diogelu?

 

PENDERFYNWYD y dylai PCC ganolbwyntio ar bolisi ac arfer caffael tir y cyngor i ddechrau. Sut mae'r cyngor yn cynnal diwydrwydd dyladwy a sut caiff buddion y cyngor eu diogelu.

51.

Creu Parth Cerddwyr ar Stryd y Gwynt - Canlyniadau'r Ymgynghoriad. pdf eicon PDF 278 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd Grŵp Rheoli'r Rhwydwaith Traffig a Phriffyrdd adroddiad i alluogi Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygu i ystyried canlyniadau'r ymgynghoriad a gynhaliwyd ar y cynnig i droi Stryd y Gwynt yn barth cerddwyr a nodi'r camau nesaf.

 

Diolchodd i Reolwr Canol y Ddinas am ei chymorth wrth lunio'r holiadur a threfnu  i Geidwaid Canol y Ddinas ddosbarthu a chasglu'r holiaduron.

 

Roedd y gyfradd ddychwelyd, sef 23.5%, yn siomedig, gyda'r rhan fwyaf o'r ymatebion yn cael eu derbyn o fusnesau (41 o 213).  Yn gyffredinol, cefnogwyd yr egwyddor o droi Stryd y Gwynt yn barth cerddwyr gan fwyafrif o 66%. Mae dadansoddiad o'r ffurflenni a ddychwelwyd yn dangos bod 68.2% o blaid y cynnig, ac roedd y rhai a gyflwynwyd gan breswylwyr yn uwch, sef 88.8%, er bod y grŵp hwn yn cynrychioli sampl llai o lawer.

 

Amlygodd Arweinydd Grŵp Rheoli'r Rhwydwaith Traffig a Phriffyrdd y byddai angen ymgynghori eto ag asiantaethau allanol amrywiol megis yr heddlu, y gwasanaeth tân, Mynediad i Bawb Abertawe.

 

Diolchodd y cadeirydd i’r swyddogion am eu holl waith caled ar yr eitem hon, y byddai'n ei thrafod yn awr â'r Aelod Cabinet perthnasol.

 

 

PENDERFYNWYD y dylid:

 

1.       Nodi bod canlyniadau'r ymarfer ymgynghori'n dangos cefnogaeth gyffredinol ar gyfer y newid i barth cerddwyr ymhlith preswylwyr a'r gymuned fusnes gerllaw;

2.       Nodi'r gofyniad i gynnal gwaith cwmpasu a dichonoldeb ac ymgynghoriad ehangach i droi Stryd y Gwynt yn barth cerddwyr yn ôl sawl opsiwn;

3.       Ystyried sut gellir ariannu'r prosiect a sicrhau adnoddau ar ei gyfer yng nghyd-destun y prif gynllun ehangach ar gyfer canol y ddinas ac ystyried blaenoriaethau sy'n cystadlu yn erbyn ei gilydd am gyllid.

4.       Nodi y bydd angen Asesiad Effaith Cydraddoldeb (AEC) manwl i nodi materion cydraddoldeb penodol sy'n gysylltiedig â'r prosiect hwn.

52.

Polisi Coed. pdf eicon PDF 44 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr yr Uned Gwasanaethau Coed ragarweiniad diwygiedig i'r Polisi Coed, ynghyd â dogfen arweiniol drafft a fyddai'n cael ei gyhoeddi ar wefan y cyngor.

 

Darllenodd y pwyllgor yr arweiniad ac awgrymodd Aelodau nifer o ychwanegiadau i'r ddogfen.  Gofynnwyd amrywiaeth o gwestiynau ganddynt yr oedd y swyddog wedi ymateb yn briodol iddynt.

 

Holodd Aelodau hefyd ynghylch cyfrifoldebau tenantiaid y cyngor yn ogystal ag eiddo'r cyngor yr oedd tenantiaid wedi'u prynu'n flaenorol.

 

PENDERFYNWYD:

 

1) Cyflwyno'r rhagarweiniad, y tudalen gynnwys, gwybodaeth gyhoeddus a chyngor i gwsmeriaid i'r cyfarfod nesaf.

2) Cyflwyno gwybodaeth am dai cyngor a chytundebau tenantiaeth i'r cyfarfod nesaf.

53.

Cynllun Gwaith. pdf eicon PDF 52 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Cynllun Gwaith diwygiedig ar gyfer 2016-17.

 

PENDERFYNWYD:

 

1) Nodi'r Cynllun Gwaith diwygiedig;

2) Y bydd y pwyllgor yn derbyn adroddiadau ar Farchnad Abertawe a'r Polisi Coed yn ei gyfarfod a drefnwyd ar gyfer 18 Ionawr 2017.