Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Oceana (llafar). Huw Mowbray Cofnodion: Cyflwynodd Huw Mowbray, Rheolwr Datblygu Eiddo, y diweddaraf ar lafar am y
broses caffael a dymchwel mewn perthynas â safle Oceana. Dywedodd nad oedd yn
bresennol i ateb unrhyw gwestiynau technegol, a byddai angen i arbenigwyr
unigol roi atebion i'r rhain. Rhoddodd amlinelliad o'r cefndir mewn perthynas ag Adolygiad Fframwaith
Strategol Canol y Ddinas o ran y ddwy ganolfan adfywio allweddol, gydag un
ohonynt yn cynnwys creu Ardal Fusnes Ganolog/Canolfan Gyflogaeth ar Ffordd y
Brenin. Ym mis Ionawr 2015, cymeradwyodd y cabinet egwyddor o ddatblygu rhaglen
caffael eiddo strategol ar Ffordd y Brenin er mwyn cefnogi cyflwyno canolfan
gyflogaeth, ac un o'r rhain oedd hen adeilad Oceana. Aeth ymlaen i roi manylion y gwaith prynu a dymchwel, ynghyd â gwybodaeth
am y cwnni a gomisiynwyd i gynnal yr arolwg adnewyddu llawn/arolwg dymchwel ac
asbestos cyn cam olaf y prif gontract dymchwel. Amlinellwyd manylion yr asbestos ychwanegol y daethpwyd o hyd iddo a
chostau ychwanegol yn ogystal â'r wybodaeth am yr awdurdod yn ceisio adennill y
costau ychwanegol a gafwyd. Gofynnodd yr aelodau amryw o gwestiynau ac ymatebodd y swyddog yn briodol. PENDERFYNWYD y dylid: 1. Nodi'r diweddariad; 2. Ffurfio Grŵp Tasg a
Gorffen; 3. Gwahodd swyddogion technegol
i gyfarfodydd yn y dyfodol; 4. Darparu'r dogfennau canlynol: Ø
Adroddiadau
asbestos (Allanol a DASA); Ø
Adroddiad
archwilio am y prosiect; Ø
FPR7;
Ø
Arolwg
Iechyd a Diogelwch; Ø
Adroddiadau
Cabinet Perthnasol; 5. Ceisio cyngor cyfreithiol mewn perthynas â sesiynau cyhoeddus/caeedig ar gyfer cyfarfodydd y Grŵp Tasg a Gorffen. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd Alan Webster, Cynorthwy-ydd Tirlunio (Tyfwr Coed) yn bresennol i gyflwyno trosolwg o'i rôl mewn perthynas â'r Gorchmynion Cadw Coed (GCC). Amlinellodd y 3 phrif reswm dros gael GCC ar goed sydd ar ein tir: 1. Roeddem wedi prynu tir lle roedd GCC eisoes ar goed ar y tir hwnnw; 2. Roeddem wedi mabwysiadu'r tir e.e. mewn datblygiad newydd ac efallai byddai gofyniad i ddiogelu coed ar y tir hwnnw yn ystod gwaith adeiladu, cyn ei fabwysiadu; 3. Lle rydym yn gwneud hyn yn fwriadol er mwyn diogelu coed penodol. Dywedodd fod arweiniad o ran cyflwyno cais i wneud gwaith ar goeden a warchodir gan GCC ar gael ar ein gwefan drwy'r ddolen ganlynol: http://www.abertawe.gov.uk/gcc. Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau amrywiol i'r swyddog, a ymatebodd yn briodol. Byddai Martin Bignell yn dod i'r cyfarfod nesaf er mwyn symud gwaith ar y Polisi Coed yn ei flaen. PENDERFYNWYD cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf. |
|
Y diweddaraf gan y Cadeirydd (llafar). Cofnodion: Adroddodd y Cadeirydd am y canlynol: 1. Byddai'r Strategaeth Mannau Agored yn cael ei hadrodd i
gyfarfod Briffio Corfforaethol ym mis Ionawr 2017. 2. Bydd angen trefnu cyfarfod ar y cyd rhwng aelodau Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Gymunedau a Phwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygu er mwyn trafod strategaeth ynni. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2016-17. PENDERFYNWYD y dylid nodi'r cynllun gwaith ar gyfer 2016-2017. |