Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

36.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

37.

Cofnodion. pdf eicon PDF 66 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod

cywir.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygu a gynhaliwyd ar 21 Medi 2016 fel cofnod cywir.

38.

Polisi Coed. pdf eicon PDF 56 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr Gwasanaethau Coed yr wybodaeth ddiweddaraf, a chanolbwyntiodd ar y canlynol:

 

·                 "Nodau" Polisi Coed (Stoc Coed y Cyngor).  Byddai hyn yn dilyn y "cyflwyniad" a gafodd ei drafod yn y cyfarfod diwethaf;

·                 Ffigurau o arolygon a gynhaliwyd a gwybodaeth amdanynt mewn cysylltiad â nifer yr:

·         Adrannau gyda choed ar eu tir;

·         Adrannau eraill sy'n ymdrin â choed a phroblemau coetir;

·                 Is-adran 5(2) - 5(5) y "Ddogfen Ddrafft".  Dylid nodi y byddai'r testun a amlygwyd yn y ddogfen yn cael ei gadarnhau maes o law.

 

Gofynnodd y Cynghorwyr gwestiynau amrywiol i'r swyddog, a ymatebodd yn briodol.

 

Bydd Alan Webster, Cynorthwy-ydd Tirlunio (Tyfwr Coed) o'r Is-adran Cynllunio Strategol ac Amgylchedd Naturiol yn y cyfarfod nesaf hefyd.                                                                                

 

PENDERFYNWYD:

 

1)       Cymeradwyo'r is-adran "Nodau";

2)       Cadarnhau'r testun a amlygwyd ym mhwyntiau 5(2) – 5(5);

3)       Y dylai'r pwyllgor ganolbwyntio ar y Ddogfen Ddrafft o bwynt 5(6) Malu Bonion yn y cyfarfod nesaf;

4)       Y dylai'r swyddog ddarparu enghreifftiau o'r cwynion amrywiol a dderbyniwyd mewn perthynas â choed a sut yr ymdrinnir â nhw yn y cyfarfod nesaf.

39.

Arweiniad ar gyfer Gwaith ar y Briffordd a Mabwysiadu Isadeiledd Newydd. pdf eicon PDF 114 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth Arweinydd Grŵp, Tîm Rheoli'r Rhwydwaith Traffig a Phriffyrdd adrodd am y ddogfen, Arweiniad ar gyfer Gwaith ar y Briffordd a Mabwysiadu Isadeiledd Newydd, a fyddai'n rhoi gwybodaeth i ddatblygwyr am agweddau ar y briffordd yn yr arweiniad ar gyfer gwneud cais cyn-gynllunio a byddai'n cyflwyno graddfa symudol o ffïoedd ar gyfer cytundebau mabwysiadu priffyrdd.

 

Amlinellodd wybodaeth gefndir am pam y lluniwyd y ddogfen arweiniol er mwyn cynorthwyo datblygwyr i gydymffurfio â'r Ddeddf Priffyrdd, fel rhan o gynllunio a chyflawni'r datblygiadau.

 

Trafododd y pwyllgor nifer presennol y safleoedd sydd heb eu mabwysiadu yn Abertawe a arweiniodd at rai preswylwyr lleol yn gorfod talu ffi cynnal a chadw flynyddol neu, mewn rhai achosion, gael eu strydoedd a goleuadau cyhoeddus wedi'u cynnal a'u cadw i safon annerbyniol gydag ymyriadau afreolaidd gan y datblygwr.

 

Aeth ymlaen i esbonio'r problemau hanesyddol a gafwyd gyda'r datblygwyr. O ganlyniad i hyn, ni chafodd sawl safle eu cynnig i'w mabwysiadu.  Gobeithiwyd y byddai'r ddogfen arweiniol, a esboniodd sut byddai symiau cynnal a chadw gostyngol a chyflwyno graddfa symudol o ffïoedd sy'n ofynnol yn ôl Adran 38, yn cynyddu nifer y safleoedd sy'n cael eu cynnig i'w mabwysiadu ac yn arwain at incwm ffïoedd cynyddol ar gyfer yr awdurdod. Roedd trafodaethau cychwynnol gyda datblygwyr wedi croesawu argymell yr ymagwedd.

 

PENDERFYNWYD y dylid:

 

1)       Nodi'r adroddiad a'r ddogfen arweiniol a'u cyfeirio i Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Chludiant;

2)       Cyhoeddi enwau safleoedd heb eu mabwysiadu mewn fforwm priodol.

 

40.

Y diweddaraf gan y Cadeirydd (llafar).

Cofnodion:

Adroddodd y Cadeirydd y byddai Lisa Wells, o ganlyniad i salwch, yn mynd i'r cyfarfod nesaf a drefnir ar gyfer 16 Tachwedd 2016 mewn perthynas â Marchnad Abertawe a throi Stryd y Gwynt yn barth cerddwyr.  Gwnaeth hefyd awgrymu y dylid cynnal ymweliad safle i weld y cynllun a manteision y stryd sydd wedi'i phedestreiddio  yng Nghaerdydd.

41.

Cynllun Gwaith. pdf eicon PDF 50 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2016-17.

 

PENDERFYNWYD y dylid nodi'r Cynllun Gwaith.