Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi cofnodion Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygiad Arbennig a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf 2016 a Phwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygiad a gynhaliwyd ar 20 Gorffennaf 2016 yn gofnod cywir. |
|
Strategaeth Mannau Agored. PDF 572 KB Cofnodion: Rhoddodd Ian Beynon, Rheolwr Datblygu ac Allgymorth, y diweddaraf i'r
pwyllgor am statws presennol y ddogfen strategaeth, a oedd bron wedi'i
chwblhau. Roedd yn rhaid aros am ffigyrau mewn perthynas â Gwarchodfeydd Natur,
Safleoedd o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol
Arbennig. Dosbarthodd Stephen Cable, Swyddog Chwarae i Blant, gopi o'r Adroddiad
Asesiad Effaith Cydraddoldeb (AEC) drafft, a oedd gyda'r Penaethiaid Gwasanaeth
priodol ar hyn o bryd, a byddai'n cael ei gyflwyno i'r Swyddogion Mynediad i
Wasanaethau er mwyn ei ystyried a'i gymeradwyo. Gwnaeth ailadrodd y byddai
mynediad i wasanaethau'n parhau i gymryd rhan drwy gydol y broses
ymgynghori. Byddai canlyniadau'r
ymgynghoriad yn cael eu cynnwys yng nghynllun gweithredu Strategaeth Mannau
Agored. Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am y gwaith a wnaed ganddynt o ran
drafftio'r ddogfen strategaeth. PENDERFYNWYD anfon y ddogfen strategaeth derfynol at Aelod y Cabinet dros Les a Dinas Iach ar gyfer ei ystyriaeth. |
|
Adolygiad O Dipio Anghyfreithlon. PDF 126 KB Cofnodion: Roedd Ian Whettleton, Swyddog Adrannol Rheoli Gwastraff, a Fran Williams,
Arweinydd Tîm Gorfodi, Tipio'n Anghyfreithlon a
Sbwriel yn bresennol er mwyn rhoi'r diweddaraf i'r pwyllgor mewn perthynas â'r canlynol: 1. Faint o achosion erlyn oedd
wedi cael eu derbyn gan swyddogion gorfodi awdurdod
lleol dros y flwyddyn ddiwethaf; 2. Sampl o 5 achos a oedd yn amlinellu sut deliwyd â'r achosion. Trafododd y Pwyllgor y camau gweithredu amrywiol a
gymerwyd mewn perthynas â phob un o'r achosion, a'r dystiolaeth ofynnol er mwyn
parhau â'r erlyniadau. Gofynnodd yr aelodau amryw o
gwestiynau yr atebwyd gan y swyddogion. Esboniodd y swyddogion bod Hysbysiadau o Gosb
Benodol yn gallu cael eu rhoi mewn perthynas â throseddau a gyflawnwyd o dan
Adran 46 Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, e.e. gwastraff cartref (sachau du)
ond, o dan ddeddfwriaeth bresennol Llywodraeth Cymru, nid oedd yn bosib rhoi
hysbysiadau o gosb benodol mewn perthynas ag Adran 33 ac Adran 34 (1) Deddf
Diogelu'r Amgylchedd 1990, e.e. tipio'n anghyfreithlon. Yn ychwanegol, amlinellwyd ganddynt yr wybodaeth Gwastraff Cartref a
Masnachol ganlynol: O Ebrill 2015 hyd yma Mae 723 o hysbysiadau statudol ar gyfer gwastraff cartref wedi cael eu
dosbarthu Mae 139 o hysbysiadau o gosb benodol wedi cael eu
rhoi o ganlyniad i fynd yn groes i'r hysbysiad. Caiff ffi o £100 ei gostwng i
£60 os caiff ei thalu o fewn 7 niwrnod gwaith. Mae 44 o hysbysiadau statudol wedi cael eu rhoi i fusnesau Mae 12 o hysbysiadau o gosb benodol wedi eu
cyflwyno o ganlyniad i fynd yn groes i'r hysbysiad. Caiff ffi o £180 ei gostwng
i £90 os caiff ei thalu o fewn 7 niwrnod gwaith. Pwysleisiodd y swyddogion fod cyfran fawr o'r gwaith a wneir gan y Tîm Gorfodi'n cynnwys gweithio gyda'r cyhoedd, addysgu pobl a
cheisio'u helpu gydag unrhyw broblemau sbwriel y gallent eu hwynebu. Cafwyd trafodaeth wedi hyn ynglŷn â chyhoeddi
manylion am erlyniadau llwyddiannus, a chysylltu'r rhain ag ystadegau ailgylchu
cadarnhaol ar wefan y cyngor. Yn
ychwanegol, awgrymodd y pwyllgor y dylai'r wybodaeth sydd ar y gwe-dudalennau
tipio'n anghyfreithlon gael ei gwella i gynnwys yr hyn na ddylid ei wneud pan
geir tipio anghyfreithlon. Dywedodd y swyddogion bod oddeutu 1,000 o geisiadau am wasanaeth yn cael eu
derbyn bob mis gan y Tîm Gorfodi. Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am yr wybodaeth a ddarparwyd ganddynt.
PENDERFYNWYD y dylid
nodi'r wybodaeth, a bydd y swyddogion yn darparu dadansoddiad o ffigyrau
ceisiadau gwasanaeth misol erbyn y cyfarfod nesaf. |
|
Y diweddaraf gan y Cadeirydd (llafar) Cofnodion: Adroddodd y Cadeirydd am y diweddariadau canlynol: 1) Troi Stryd y Gwynt yn barth cerddwyr
- Roedd Rheolwr Canol y Ddinas wedi llunio holiadur a fyddai'n cael ei
ddosbarthu i'r busnesau priodol â llaw a'u casglu yn yr un modd. 2) Marchnad Abertawe (darparu toiledau cyhoeddus) - Rhoddir
y diweddaraf yn y cyfarfod nesaf a drefnir ar gyfer 21 Medi 2016; 3) Canolfan Siopa Ranbarthol Treforys - Bydd
y cadeirydd yn trefnu ail ymweliad safle ar fore dydd Mercher yn ystod yr
wythnosau nesaf. PENDERFYNWYD cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf gan y Cadeirydd. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2016-17. PENDERFYNWYD y dylid cofnodi'r Cynllun Gwaith. |