Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo
a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygu a
gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2016 fel cofnod cywir. |
|
Adolygiad O Dipio Anghyfreithlon. PDF 126 KB Ian Whettleton / Fran
Williams Cofnodion: Rhoddodd Ian Whettleton, Rheolwr Adrannol Rheoli Gwastraff a Fran Williams,
Arweinydd Tîm Gorfodi, Tipio Anghyfreithlon a Sbwriel
yr wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor ynghylch yr adolygiad o dipio
anghyfreithlon. Trafododd y pwyllgor y camau gweithredu ffurfiol amrywiol y gellid eu dilyn
yn ogystal â materion deddfwriaethol a'r weithdrefn ar gyfer mynd i'r afael â
thipio anghyfreithlon ar dir preifat. PENDERFYNWYD darparu'r
wybodaeth ganlynol ar gyfer y cyfarfod nesaf: 1) Rhestr o nifer yr achosion a
dderbyniwyd a sawl erlyniad a gafwyd; 2) Sampl o 5-6 achos gwahanol yn amlinellu sut yr ymdriniwyd â hwy. |
|
Martin Bignell Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Martin Bignall, Rheolwr Uned
Gwasanaethau Coed y Polisi Gweithredol presennol ar gyfer Rheoli Coed yn y
Gwasanaeth Parciau. Esboniodd nad oedd gan yr awdurdod Bolisi Coed ffurfiol ar hyn o bryd; fodd
bynnag, lluniwyd y Polisi Gweithredol presennol gan swyddogion. Cynhaliwyd Gweithgor Craffu Cadw Coed a chyflwynwyd 9 argymhelliad. Un o'r argymhellion oedd datblygu Polisi Coed
ar gyfer y cyngor cyfan a byddai'r pwyllgor hwn bellach yn ei oruchwylio. Nododd y swyddog y byddai Polisi Coed
ffurfiol yn gofyn am gytundeb amrywiaeth o adrannau gwahanol, megis Cynllunio a
Chefn Gwlad. Eglurodd mai ein prif amcan fel perchnogion coed yw
bod ein coed yn cael eu harchwilio'n rheolaidd a'u bod mor ddiogel ag sy'n
ymarferol bosib. Amlinellodd fanylion y
drefn archwilio a bu'r aelodau'n trafod y meini prawf ar gyfer tocio coed. Nododd y swyddog mai'r bwriad fyddai symud tuag at wasanaeth mwy
rhagweithiol yn hytrach nag adweithiol fel sydd ar hyn o bryd. Byddai polisi coed ffurfiol o fudd gan y
byddai ar gael yn gyhoeddus ac yn amlinellu'r hyn y byddai'r awdurdod yn ei
wneud a'r hyn na fyddai'n ei wneud (fel yr amlinellir yn adran 6, 7 ac 8 y
ddogfen bresennol). Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am ei adroddiad ac am esbonio'r broses. PENDERFYNWYD y byddai
Rheolwr yr Uned Gwasanaethau Coed yn darparu'r wybodaeth ganlynol ar gyfer y
cyfarfod a drefnir ar gyfer 21 Medi 2016: 1) Llunio cyflwyniad ffurfiol
i'r strategaeth; 2) Rhestr o goed gyda
Gorchmynion Cadw Coed (GCC) ar dir y cyngor; 3) Y fethodoleg a ddefnyddir i
osod GCC ar goed a gaiff ei chynnwys yn y Polisi Coed. |
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD y dylid
nodi'r cynllun gwaith yn amodol ar y diwygiadau canlynol: 1) Tynnu'r Cynllun Prawf Bag
Ailgylchu Pinc o'r cynllun gwaith; 2) Ail ymweliad â Threforys i'w gynnal rhywbryd rhwng y 2 gyfarfod nesaf sydd
wedi'u trefnu ar gyfer 17 Awst 2016 ac 21 Medi 2016. |