Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

13.

Ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr C Anderson, C Thomas, A McTaggart, Swyddog Data Mapiau a Gofodol a J Rees-Thomas, Gweithiwr Datblygu Chwarae.

14.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

15.

Strategaeth Mannau Agored. pdf eicon PDF 571 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Ian Beynon, y Rheolwr Datblygu ac Allgymorth, ddogfen Strategaeth Mannau Agored ddrafft.

 

Mae'r wybodaeth ganlynol wedi'i hychwanegu:

 

·       Gwybodaeth am hyrwyddo bioamrywiaeth a chadwraeth natur; serch hynny nodwyd bod angen gwirio nifer y safleoedd bywyd gwyllt o hyd;

·       Sut byddai'r strategaeth yn cysylltu â strategaethau a chynlluniau eraill y cyngor sy'n ategu blaenoriaethau a gwerthoedd corfforaethol y cyngor.

·       Cyfeiriad at y cynllun gweithredu (a fyddai’n ddogfen waith).

 

Yna trafododd y pwyllgor y broses ymgynghori, y byddai angen ymgymryd â hi cyn cyflwyno'n ffurfiol i’r Pwyllgor Briffio Corfforaethol a'r Cabinet.

 

Awgrymodd y Rheolwr Datblygu ac Allgymorth y dylid dechrau ymgynghori ag aelodau o Fforwm Cyfeillion y Parciau.  Byddai rhaid ymgynghori â chynghorwyr ar feysydd lle nad oedd aelodau o Gyfeillion y Parciau ar gael.

 

Esboniodd Stephen Cable, y Swyddog Chwarae Plant, fod angen Asesiad Effaith Cydraddoldeb ar gyfer pob strategaeth newydd.  Roedd wedi dechrau ar yr ymarfer hwn ac wedi cysylltu â'r Tîm Mynediad i Wasanaethau, a deimlai y byddai'r strategaeth yn effeithio ar sawl grŵp gwahanol. Y gobaith oedd defnyddio gwybodaeth o amrywiaeth o ymarferion ymgynghori a gynhaliwyd yn ddiweddar megis sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad ar y Strategaeth Chwarae Plant.

 

Yn dilyn ymgynghoriad, byddai'n rhaid i'r pwyllgor weithio gyda'r swyddogion i werthuso unrhyw sylwadau ac addasu'r Strategaeth Mannau Agored fel y bo angen.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am yr holl waith a wnaed i lunio'r strategaeth.

 

PENDERFYNWYD ar y canlynol:

 

1)       Y dylid nodi'r adroddiad:

2)       Y dylai'r adroddiad, yr Asesiad Effaith Cydraddoldeb a'r meysydd arfaethedig i ymgynghori arnynt gael eu cyflwyno i Bwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygiad ar 17 Awst 2016.