Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P B Smith a C Thomas. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd buddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD bod cofnodion Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygiad a gynhaliwyd ar 20 Ebrill 2016, Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygiad Arbennig a gynhaliwyd ar 11 Mai 2016 a Phwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygiad a gynhaliwyd ar 19 Mai 2016 yn cael eu cymeradwyo a'u llofnodi fel cofnod cywir. |
|
Neilltuo Stryd y Gwynt i gerddwyr. PDF 96 KB Stuart Davies / Mark
Thomas Cofnodion: Rhoddodd Mark Thomas, Arweinydd Grŵp Rheoli'r Rhwydwaith Priffyrdd a
Thraffig y diweddaraf ar ddulliau i wneud Stryd y Gwynt yn ardal i gerddwyr. Gofynnodd Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygiad yn ei gyfarfod ar 20
Ebrill 2016 fod swyddogion yn bresennol i gytuno ar gwmpas yr adroddiad, a
fyddai'n canolbwyntio ar sut i wneud Stryd y Gwynt yn ardal i gerddwyr, yr
effaith o ganlyniad i hynny ar rwydwaith y priffyrdd, trefniadau mynediad a
rhoi enghreifftiau o strydoedd llwyddiannus i gerddwyr mewn dinasoedd eraill. Trafododd y pwyllgor yr ystyriaethau amrywiol a chytuno mai'r ffordd fwyaf
priodol i symud ymlaen â'r cynllun oedd defnyddio
ymagwedd fesul cam gan ddefnyddio Gorchymyn Traffig Arbrofol am gyfnod prawf hyd
at 18 mis, gan ymgynghori â phartïon â diddordeb, ac yn yr amser hwnnw cesglir
sylwadau ac awgrymiadau, eu cofnodi ac yna eu hystyried, cyn cwblhau'r cynllun
yn ffurfiol (selio) gyda'r trefniad yn dod yn un parhaol. PENDERFYNWYD y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Polisi Tipio'n Anghyfreithlon. PDF 102 KB Ian Whettleton / Frances Williams Cofnodion: Adroddodd Ian Whettleton, Swyddog Adrannol Rheoli Gwastraff a Fran
Williams, Arweinydd y Tîm Gorfodi, Tipio
Anghyfreithlon a Sbwriel ar y polisi a’r gweithdrefnau presennol o ran tipio
anghyfreithlon yn Ninas a Sir Abertawe. Nodwyd ganddynt y blaenoriaethau ar gyfer gwastraff ac ailgylchu yng
Nghynllun Gwella'r cyngor, a’r diffiniad ac esboniwyd y gweithdrefnau presennol
ar gyfer ymdrin â thipio anghyfreithlon.
Cafwyd trafodaeth ynghylch y mentrau amrywiol yr ymgymerwyd â nhw. Diolchodd y pwyllgor i'r swyddogion am esboniad llawn gwybodaeth am y
polisi presennol. PENDERFYNWYD y dylai
Polisi Tipio Anghyfreithlon drafft gael ei gyflwyno i Bwyllgor Cynghori'r
Cabinet ar Ddatblygu ar 20 Gorffennaf 2016. |
|
Rheoli Gwastraff - Siop Ailgylchu. PDF 65 KB Keith Coxon Cofnodion: Daeth Keith Coxon, Swyddog Prosiectau a Pherfformiad Rheoli Gwastraff i’r
cyfarfod i roi'r diweddaraf i'r pwyllgor ar y trefniadau ariannol o ran incwm a
gwariant y Siop Ailddefnyddio yn y Safle Byrnu. Roedd y cyfleuster yn y broses o gael ei ymestyn, a fyddai'n galluogi'r
awdurdod i ystyried nifer o fentrau newydd i hybu incwm, derbyn mwy o nwyddau a
hyd a lled manteision cymunedol y cyfleuster. Yn ogystal, byddai'r Cabinet yn ystyried yr adolygiad comisiynu: Rheoli
Gwastraff yn ei gyfarfod ar 16 Mehefin 2016. PENDERFYNWYD y dylid rhoi cyflwyniad ar y Siop Ailddefnyddio i Bwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygiad ar 19 Hydref 2016. |
|
Cynllun Gwaith 2016-2017. Cofnodion: PENDERFYNWYD ar y canlynol: 1) Dylai'r
Pwyllgor Arbennig ar 6 Gorffennaf 2016 am 10am ganolbwyntio ar y Strategaeth
Mannau Agored; 2) Dylai’r
pwyllgor ar 20 Gorffennaf 2016 dderbyn yr eitemau canlynol: a. Polisi Tipio Anghyfreithlon Drafft; b. Polisi Coed. 3) Dylai’r
eitemau canlynol gael eu hystyried yng nghyfarfodydd y dyfodol: a. Adborth ar ymweliadau â Chanolfannau
Siopa Ardal (ail-ymweliad â'r Mwmbwls); b. Ystadau Tai sy'n cynnwys strydoedd
(preifat) heb eu mabwysiadu; c. Safleoedd Amwynderau Dinesig (Rheoli
Gwastraff) ch. Y diweddaraf am y Siop Ailddefnyddio (Hydref 2016). |