Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: 01792 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J C Bayliss a C
Thomas. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni chyhoeddwyd unrhyw
fuddion. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi cofnodion Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygu a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2016 a Phwyllgor Arbennig Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygu a gynhaliwyd ar 23 Mawrth 2016 fel cofnod cywir. |
|
Cyflwyniad ar Reoli Gwastraff Keith Coxon, Rheoli Gwastraff Cofnodion: Rhoddodd Keith Coxon, Rheolwr Glanhau Strydoedd a Gorfodi, gyflwyniad PowerPoint a dangos fideo byr yn
amlinellu rôl y “Siop Gornel” – y siop ailddefnyddio yn y Safle Byrnu,
Llansamlet. Amlinellodd y cynnydd a wnaed mewn
perthynas â gwerthu eitemau a thrafodwyd y cynlluniau/ystyriaethau canlynol ar
gyfer y dyfodol: ·
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (LlCC); ·
Ehangu maint y siop; ·
Ystyried gweithio'n agosach gydag elusennau; ·
Ehangu amrywiaeth y nwyddau a werthir; ·
Defnyddio'r rhyngrwyd i roi hwb i werthiannau
ac incwn; ·
Archwilio sut gellir
cynnal y siop orau. PENDERFYNWYD ar y canlynol: 1) Dylai'r Rheolwr Glanhau
Strydoedd a Gorfodi gyflwyno adroddiad sy'n
amlinellu'r opsiynau sydd ar gael; 2) Dylid trefnu ymweliad â'r “Siop Gornel”. |
|
Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus. Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol. |
|
Pedestreiddio Stryd y Gwynt. Stuart Davies / Mark
Thomas Cofnodion: Rhoddodd Stuart Davies, Pennaeth Priffyrdd a Chludiant, a Mark Thomas, Arweinydd Grŵp Rheoli Traffig a’r Rhwydwaith Priffyrdd, adroddiad llafar mewn perthynas â'r opsiynau amrywiol sydd ar gael i bedestreiddio Stryd y Gwynt. Yn ogystal, gwnaethant amlinellu ystyriaethau ychwanegol megis: · Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol Cymru a Lloegr; · Mynediad i breswylwyr a dosbarthu nwyddau i fusnesau; · Mynediad i’r anabl; · Mynediad i gerbydau argyfwng. PENDERFYNWYD rhoi copi o adroddiad sy'n amlinellu'r holl opsiynau sydd ar gael ynghyd â thystiolaeth lle mae pedestreiddio wedi bod yn llwyddiannus/aflwyddiannus mewn lleoliadau eraill o faint tebyg yng nghyfarfod cyntaf Blwyddyn Ddinesig 2016-2017. |
|
Y diweddaraf gan y Cadeirydd. Cofnodion: Dywedodd y
Cadeirydd fod aelodau perthnasol o'r Cabinet wedi gofyn i Bwyllgor Cynghori'r
Cabinet ar Ddatblygu ystyried yr eitemau canlynol: ·
Canolfannau
Siopa Rhanbarthol - ail ymweliad safle â'r Mwmbwls. ·
Polisi
Tipio'n Anghyfreithlon (Rheoli Gwastraff) ·
Safleoedd
Amwynderau Dinesig ·
Polisi
Coed (tir y cyngor yn unig) |
|
Cynllun Gwaith. Cofnodion: PENDERFYNWYD ar y
canlynol: 1) Dylai cyfarfod y Pwyllgor Arbennig a gynhelir
ar 11 Mai 2016 ganolbwyntio ar y Strategaeth Mannau Agored; 2) Dylai cyfarfod cyntaf y Pwyllgor i'w gynnal ym Mlwyddyn Ddinesig 2015-2016
dderbyn adroddiad ar: ·
Bedestreiddio Stryd y Gwynt. 3) Dylai'r eitemau canlynol gael
eu hystyried mewn cyfarfodydd yn y dyfodol: ·
Y
diweddaraf ar Orchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus; ·
Gwelliannau
i'r “Siop Gornel”, y Safle Byrnu, Llansamlet; ·
Adborth
ar Ymweliadau â Chanolfannau Siopa Rhanbarthol (ail ymweliad safle â'r Mwmbwls); ·
Ystadau
Tai sy'n Cynnwys Strydoedd nad ydynt wedi'u Mabwysiadu (Preifat); ·
Polisi
Tipio'n Anghyfreithlon (Rheoli Gwastraff); ·
Safleoedd
Amwynderau Dinesig (Rheoli Gwastraff); ·
Polisi
Coed (tir y cyngor yn unig). |