Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: J Andrew – yr
agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol –
personol. I Guy – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod
o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol –
personol. Y Cynghorydd A
Lockyer – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth
Leol – personol. Mae fy ngwraig a'm mab hefyd yn aelodau o'r
Cynllun Pensiwn Lleol (Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port
Talbot) - personol. Y Cynghorydd T M
White – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth
Leol ac aelod o'r Pwyllgor Archwilio – personol. Swyddogion: J Dong – yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. J Parkhouse – yr
agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. S Williams – yr
agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. |
|
Cymeradwyo a
llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
y Bwrdd Pensiwn Lleol a gynhaliwyd ar 5 Ionawr 2018 fel cofnod cywir. Nodwyd yr wybodaeth ddiweddaraf a roddwyd ar
gais Prif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol ynghylch y GDPR. Gwnaeth y bwrdd sylwadau am y gweithdrefnau
mwy beichus sy’n cael eu cyflwyno gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. |
|
Cynllun Archwilio 2018 - Dinas a Sir Abertawe. PDF 184 KB Cofnodion: Cyflwynodd David
Williams, Swyddfa Archwilio Cymru, Gynllun Archwilio 2018 ar gyfer Cronfa
Bensiwn Dinas a Sir Abertawe. Nodwyd
cyfrifoldebau'r Archwilwyr, ynghyd â rhai'r rheolwyr
a'r rhai sy'n llywodraethu, yn Atodiad 1.
Roedd y dull archwilio'n cynnwys tri cham fel a nodir yn Arddangosyn
1. Dangoswyd peryglon camddywediadau
perthnasol yr oedd angen i'r archwilwyr eu hystyried, ynghyd â'r cynllun
gwaith, yn Arddangosyn 2. Nodwyd y ffi amcangyfrifedig yn Arddangosyn 3 ac roedd llai o ffi
oherwydd arbedion y cyngor. Yn ogystal â
chynnwys datganiadau ariannol y Gronfa Bensiwn yn y prif ddatganiadau ariannol,
roedd gofyn i awdurdodau gweinyddol gyhoeddi adroddiad blynyddol ar y Gronfa
Bensiwn y mae'n rhaid iddo gynnwys cyfrifon y Gronfa Bensiwn. Roedd gofyn i'r
Archwilwyr ddarllen adroddiad blynyddol y Gronfa Bensiwn ac ystyried a oedd yr
wybodaeth ynddo'n gyson â datganiadau ariannol
archwiliedig y Gronfa Bensiwn a gynhwyswyd ym mhrif ddatganiadau ariannol y
cyngor. Roedd gofyn i
Archwilwyr gyflwyno datganiad archwilio i gadarnhau cysondeb y datganiadau
ariannol a gynhwyswyd yn yr adroddiad blynyddol gyda datganiadau ariannol
archwiliedig y Gronfa Bensiwn. Darparwyd
yr amserlen waith yn Arddangosyn 5. Trafododd y bwrdd risgiau camddatganiadau perthnasol, yn arbennig y
Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio diwygiedig, adroddiadau rheoli mewnol a
ddarperir gan reolwyr buddsoddi, prisio ecwiti preifat ac effaith y GDPR. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Adroddiad am Doriadau. PDF 124 KB Cofnodion: Cyflwynodd Prif
Swyddog y Trysorlys a Thechnegol adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu
manylion toriadau a gafwyd yn y Gronfa Bensiwn yn unol â'r polisi Adrodd am
Doriadau. Roedd Atodiad A
yn darparu manylion y toriadau a gafwyd ers cyfarfod diwethaf y Bwrdd Pensiwn
Lleol. Amlygwyd manylion y toriadau
hynny a'r camau gweithredu a gymerwyd gan y rheolwyr. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd Prif
Swyddog y Trysorlys a Thechnegol adroddiad 'er gwybodaeth' i amlinellu'r
Credoau Buddsoddi a fabwysiadwyd gan Bwyllgor y Gronfa Bensiwn. Atodwyd Datganiad
o'r Credoau Buddsoddi yn Atodiad 1. Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau am gynnwys yr adroddiad ac atebwyd hwy'n briodol.
Cydnabuwyd y byddai'r credoau'n cael eu hadolygu'n rheolaidd. |
|
Gwahardd y Cyhoedd. PDF 113 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r bwrdd
wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a
nodwyd yn argymhelliad/ion yr adroddiad ar y sail ei
bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym
mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd
gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007
mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes y nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y bwrdd
brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitemau busnes lle roedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel y
nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Adolygiad o'r Strategaeth Buddsoddi. Cofnodion: Cyflwynodd Prif Swyddog
y Trysorlys a Thechnegol adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn amlinellu'r
newidiadau argymelledig i'r strategaeth buddsoddi a
diwygio Datganiad y Strategaeth Buddsoddi o ganlyniad i hynny. Ychwanegwyd bod yr ymgynghorwyr buddsoddi a benodwyd, Hymans Robertson,
wedi cynnal adolygiad o'r strategaeth gyda mewnbwn gan swyddogion ac
ymgynghorydd buddsoddi annibynnol, gan ystyried canlyniadau hyfforddiant
Pwyllgor y Gronfa Bensiwn/ y Bwrdd Pensiwn Lleol a dilysu eu credoau buddsoddi. Amlinellwyd adolygiad y strategaeth buddsoddi a'r newidiadau arfaethedig yn
Atodiad 1. Darparwyd Datganiad y Strategaeth Buddsoddi diwygiedig yn Atodiad 2. |
|
Adroddiad Adolygu Adnoddau'r Is-adran Gweinyddu Pensiynau. Cofnodion: Cyflwynodd Prif
Swyddog y Trysorlys a Thechnegol adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn amlinellu
adnoddau yn yr is-adran Gweinyddu Pensiynau. Gofynnodd y bwrdd
gwestiynau am gynnwys yr adroddiad ac atebwyd hwy'n briodol. Amlygodd y bwrdd natur gymhleth barhaus
gweinyddu'r CPLlL a'r heriau a wynebir gan staff o
ganlyniad. Penderfynwyd rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd
a sylwadau ynghylch cymhlethdod gweinyddu'r CPLlL. |
|
Polisi Llywodraethu Cymdeithasol Amgylcheddol (LlCA). Cofnodion: Cyflwynodd Prif
Swyddog y Trysorlys a Thechnegol adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn ystyried
Polisi Llywodraethu, Cymdeithasol, Amgylcheddol drafft Cronfa Bensiwn Dinas a
Sir Abertawe. Gofynnodd y pwyllgor
gwestiynau am gynnwys yr adroddiad ac atebwyd hwy'n briodol. |
|
Cyflwyniad gan Weithredwr Cynllun Contractiol Awdurdodedig (CCA) Cyswllt Partneriaeth Pensiwn Cymru - Russell Investments. Cofnodion: Rhoddwyd
cyflwyniad gan Eamonn Gough o Link
Fund Solutions a Sasha Mandich o Russell Investments. Gofynnodd y bwrdd
gwestiynau am gynnwys y cyflwyniad ac atebwyd hwy’n briodol. Nodwyd cynnwys y
cyflwyniad a diolchodd y Cadeirydd i Link Fund Solutions a Russell Investments
am ddod i'r cyfarfod. |
|
Local Pension Board Members - John Andrew and Andrea Thomas. Cofnodion: Cyhoeddodd y
Cadeirydd fod John Andrew yn dod i'w gyfarfod olaf o'r bwrdd gan ei fod yn
gadael Tai Tarian. Ychwanegodd fod
Andrea Thomas wedi gadael Cyngor Abertawe ym mis Mawrth 2018 ac felly roedd ei
haelodaeth o'r bwrdd wedi dod i ben. Diolchodd i'r
ddau am eu cyfraniadau i'r bwrdd a dymuno'n dda iddynt ar gyfer y dyfodol. |