Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: 01792 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

15.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: -

 

R Broad – yr Agenda yn ei chyfanrwydd – Mae fy chwaer yn Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol.

 

I Guy – yr Agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol.

 

Y Cynghorydd A Lockyer – yr Agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. Mae fy ngwraig a'm mab hefyd yn aelodau o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol.

 

D White – yr Agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol.

 

 

 

 

Swyddogion:

 

K Cobb – yr Agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol.

 

J Dong – yr Agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol.

 

S Williams – yr Agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol.

 

J Parkhouse – yr Agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol.

16.

Cofnodion. pdf eicon PDF 247 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn Lleol a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd 2020 fel cofnod cywir.

 

17.

Cynllun Archwilio Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2021. pdf eicon PDF 781 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Jeff Dong, Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 Gynllun Archwilio Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2021 Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Amlinellwyd mai diben y cynllun oedd nodi'r gwaith arfaethedig gan SAC, pryd y byddai'n cael ei wneud, faint y byddai'n ei gostio a phwy fyddai'n gwneud y gwaith.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys y canlynol: -

 

·         Effaith barhaus COVID-19, yr ansicrwydd wrth symud ymlaen a sut roedd SAC yn bwriadu ymgymryd â'u gwaith.

·         Archwilio cyfrifon y Gronfa Bensiwn.

·         Risgiau'r archwiliad ariannol, gan gynnwys risgiau sylweddol; effaith COVID-19; Dyfarniad McCloud; buddsoddiadau ecwiti preifat; a Phartneriaeth Pensiwn Cymru.

·         Swyddogaethau Archwilio Statudol.

·         Ffi, tîm archwilio ac amserlen.

 

Mynegodd y Cadeirydd ei ddiolch bod y ffi archwilio wedi aros yr un peth ers dwy flynedd.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.

18.

Datganiad Strategaeth Ariannu - Adolygiadau. pdf eicon PDF 293 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn nodi sut yr oedd y Gronfa Bensiwn yn sicrhau cydymffurfiaeth â Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

 

Amlinellwyd bod Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe, yn unol â Rheoliadau'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, wedi llunio a chymeradwyo datganiad strategaeth ariannu, mewn ymgynghoriad â chyflogwyr ei gynllun, yr actiwari ac ymgynghorwyr penodedig yn wreiddiol ym mis Mawrth 2020. 

 

Ers y dyddiad hwnnw, roedd rheoliadau ychwanegol wedi'u gosod sy'n rhoi hyblygrwydd ychwanegol wrth ymdrin â cyflogwyr yn ymadael. Cyflwynwyd Datganiad Strategaeth Ariannu drafft diwygiedig a oedd yn cynnwys yr hyblygrwydd ychwanegol.

19.

Adroddiad am Doriadau. (Er Gwybodaeth) pdf eicon PDF 240 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu manylion unrhyw doriadau a gafwyd yn y cyfnod hwn yn unol â'r polisi Adrodd am Doriadau.

 

Yn Atodiad A darparwyd manylion y toriadau a gafwyd ers cyfarfod diwethaf y Bwrdd Pensiwn Lleol ym mis Rhagfyr 2020. Amlygwyd manylion y toriadau a'r camau gweithredu a gymerwyd gan reolwyr.

20.

Cynllun Busnes Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe. pdf eicon PDF 392 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu fframwaith gweithredol ar gyfer rhaglen waith y Gronfa Bensiwn ar gyfer 2021/22 hefyd gan gynnwys cyllideb y gronfa bensiwn a'r gofrestr risgiau.

 

Amlinellwyd bod y Gronfa Bensiwn, yn unol ag arfer gorau, wedi llunio cynllun busnes i lywio ei rhaglen waith ar gyfer y cyfnod 12 mis sydd ar ddod. Darparwyd y Cynllun Busnes ar gyfer 2021/22 yn Atodiad 1.

 

Trafododd y Bwrdd yr wybodaeth a gynhwysir yn y cynllun fel a ganlyn: -

 

·         Y diwygiad i gydnabod cynrychiolydd aelodau'r cynllun ar CBLl;

·         Lliniaru effaith Brexit ar y cynllun busnes oherwydd y strategaeth buddsoddi fyd-eang;

·         Targedau hyfforddi ar gyfer aelodau'r bwrdd.

21.

Hyfforddiant Ymddiriedolwyr. pdf eicon PDF 268 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn ceisio penderfynu ar rhaglen hyfforddiant flynyddol ar gyfer Pwyllgor y Gronfa Bensiwn, aelodau'r Bwrdd Pensiwn Lleol a swyddogion y Gronfa Bensiwn.

 

Amlinellwyd y cefndir a'r cynnydd a wnaed o ran anghenion hyfforddi a gwybodaeth a enillwyd, gan gynnwys Côd Ymarfer CIPFA a gofynion gwybodaeth a dealltwriaeth y Rheolydd Pensiynau a Datganiad Polisi'r Gronfa Bensiwn. 

 

Darparwyd manylion Asesiad Gwybodaeth Cenedlaethol y CPLlL a lansiwyd gan Hymans yn 2020, yr hyfforddiant ymddiriedolwyr a gynhaliwyd yn 2020/21 a'r rhaglen hyfforddi arfaethedig yn 2021/22.

 

Tynnodd y Cadeirydd sylw at yr hyfforddiant rhithwir gwerth chweil a ddarparwyd, yr hyfforddiant PPC defnyddiol iawn a'r hyfforddiant ad hoc ychwanegol a ddarparwyd gan rai cwmnïau ariannol mawr.  

 

Penderfynwyd: -

 

1)    cymeradwyo'r asesiad a'r cynllun hyfforddiant amlinellol ym mharagraffau 3.7, 3.8 a 3.9;

2)    dirprwyo cyfleoedd eraill a nodir yn ystod y flwyddyn i'r Dirprwy Swyddog A151 i'w cymeradwyo;

3)    ymgynghori â Chadeirydd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ynghylch hyfforddiant ar y cyd yn y dyfodol rhwng aelodau'r pwyllgor a'r bwrdd.

22.

Rheoliadau Taliadau Ymadael - Diweddariad. (Er Gwybodaeth) pdf eicon PDF 221 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi'r diweddaraf i'r Bwrdd Pensiwn Lleol ar y Rheoliadau Taliadau Ymadael gwerth £95,000 a gafodd eu datgymhwyso ar 12 Chwefror 2021.

 

Amlinellwyd bod Trysorlys ei Mawrhydi wedi cyhoeddi Cyfarwyddiadau'r Taliad Ymadael 2021 a oedd yn datgymhwyso rheoliadau 3.9 a 12 o Reoliadau Cyfyngu Taliadau Ymadael y Sector Cyhoeddus 2020. Roedd hyn yn golygu nad oedd y taliadau ymadael yn berthnasol i daliadau ymadael a oedd yn digwydd ar neu ar ôl 12 Chwefror 2021. Roedd y Gymdeithas Llywodraeth Leol wedi cyhoeddi nodiadau arweiniol ar gyfer Awdurdodau Gweinyddu a ddarparwyd yn Atodiad 1. Nodwyd, er bod y Taliadau Ymadael ar ei ffurf wreiddiol wedi'i ddatgymhwyso, roedd y Llywodraeth wedi ymrwymo i gyflwyno dull terfyn amgen i daliadau ymadael y sector cyhoeddus 'yn gyflym'.

 

Ychwanegwyd nad oedd unrhyw daliadau ymadael yn uwch na'r terfyn rhwng 4 Tachwedd a 12 Chwefror ar gyfer Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe. Yn ogystal â hyn, adroddwyd bod y Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG) wedi atal ymgynghoriad a oedd yn ceisio barn am gynigion i ddiwygio telerau taliadau ymadael pellach yn y CPLlL.   

23.

Gwahardd Y Cyhoedd. pdf eicon PDF 236 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r bwrdd wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/argymhellion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y bwrdd brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

24.

Diweddariad am Bartneriaeth Pensiwn Cymru. (Er Gwybodaeth)

Cofnodion:

Darparodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi'r diweddaraf i'r Pwyllgor am gynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

Croesawodd y bwrdd gymeradwyaeth aelod sy'n gynrychiolydd ar Gyd-bwyllgor Llywodraethu (CBL) Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC)

 

Roedd Atodiad 1 yn darparu'r adroddiad cynnydd a diweddaru a ddarparwyd gan weithredwr y Cynllun Contractiol Awdurdodedig (CCA), Link Asset Services.  Darparodd Atodiad 2 linell amser Marchnadoedd Preifat PPC.

25.

Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi.

Cofnodion:

Darparwyd adroddiad yr Ymgynghorwyr Buddsoddi 'er gwybodaeth', a gyflwynodd Adroddiad Monitro Buddsoddi Chwarter 4 2020/21.

 

Nodwyd cynnwys yr adroddiad gan y pwyllgor a gofynnwyd cwestiynau amrywiol, ac fe'u hatebwyd yn briodol. Diolchwyd i'r Ymgynghorwyr Buddsoddi am yr adroddiad.

26.

Crynodeb Buddsoddi. (Er gwybodaeth)

Cofnodion:

Rhoddodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn cynnwys y perfformiad buddsoddi ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2020 ynghyd â diweddariad cyllid ar 31/12/20 a ddangosodd y lefel ariannu ar 99.6%

 

Atodwyd crynodebau buddsoddi chwarterol y Gronfa Bensiwn ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2020 yn Atodiad 1.