Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 01792 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

29.

Aelod Newydd y Bwrdd Pensiwn Lleol.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Rosemary Broad, GMB, i'w chyfarfod Bwrdd Pensiwn Lleol cyntaf.

30.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: -

 

R Broad – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Swyddog Amser Llawn y GMB – personol.

 

I Guy – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol.

 

D Mackerras – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol.

 

D White – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol. 

 

Y Cynghorydd T M White - yr agenda yn ei chyfanrwydd - Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ac mae fy merch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Swyddogion:

 

J Dong – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol.

 

S Williams – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol.

 

J Parkhouse - yr agenda yn ei chyfanrwydd - Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a Chofnod Rhif 34 - Adroddiad Blynyddol 2018/19 - Clerc Cyngor Cymuned Llanrhidian Uchaf - personol.

31.

Gwahardd y Cyhoedd: - pdf eicon PDF 236 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Bwrdd wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/ion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Bwrdd brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle roedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

32.

Adroddiad yr Actiwari a Benodwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi trosolwg o Brisiad Actiwaraidd Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe ar gyfer 2019.

 

Cyflwynodd Chris Darby o AON y Prisiad Actiwaraidd ar 31 Mawrth 2019 a ddarparwyd yn Atodiad 1.  Gofynnodd y Bwrdd nifer o gwestiynau i gynrychiolydd AON, a ymatebodd yn briodol iddynt.

 

Gwnaethpwyd sylw hefyd y gellid rhoi adborth i aelodau'r Gronfa Bensiwn i amlygu'r gwaith sy'n cael ei wneud ar eu rhan

 

Diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolydd AON am ddarparu'r adroddiad.

 

Penderfynwyd trafod anfon gohebiaeth ychwanegol at aelodau'r Gronfa Bensiwn ynghylch perfformiad y gronfa ar ddyddiad hwyrach.

 

(Sesiwn Agored)

 

33.

Cofnodion. pdf eicon PDF 238 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn Lleol a gynhaliwyd ar 15 Hydref 2019 fel cofnod cywir.

34.

Adroddiad Blynyddol 2018/19. pdf eicon PDF 273 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 Adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe ar gyfer 2018/19.

Eglurwyd bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi cwblhau ei harchwiliad o Adroddiad Blynyddol 2018/19 yn unol â'i chynllun archwilio a gyflwynwyd i'r Bwrdd yn gynharach yn y flwyddyn.  Darparwyd Adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2018/19 yn Atodiad 1.

Nododd y Bwrdd yr adroddiad cadarnhaol iawn.

35.

Adroddiad yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd. pdf eicon PDF 607 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' am bennu amcanion mesuradwy ar gyfer ymgynghorwyr buddsoddi penodedig fel sy'n ofynnol gan ofynion yr Awdurdod Cystadlaethau a Marchnadoedd (CMA).

 

Darparodd yr adroddiad ofynion CMA, pwysigrwydd yr amcanion, pennu amcanion ar gyfer ymgynghorwyr, mesur llwyddiant mewn arfer ac adrodd am gydymffurfio.

 

Tynnodd y Cadeirydd sylw at y ffaith nad oedd cyfeiriad at y Bwrdd Pensiwn Lleol yn  Amcanion Perfformiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi yn Atodiad 1.

 

Penderfynwyd diwygio Amcanion Perfformiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi yn Atodiad 1 i gynnwys cyfeiriad at y Bwrdd Pensiwn Lleol drwy'r holl ddogfen.

36.

Toriadau. pdf eicon PDF 207 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu manylion toriadau a gafwyd yn y cyfnod hwn yn unol â'r polisi Adrodd am Doriadau.

 

Yn Atodiad A darparwyd manylion y toriadau a gafwyd ers cyfarfod diwethaf y Bwrdd Pensiwn Lleol ym mis Hydref 2019.  Amlygwyd manylion y toriadau a'r camau gweithredu a gymerwyd gan reolwyr.

 

Ychwanegwyd yr adroddir hefyd am unrhyw doriadau GDPR sy'n ymwneud â gwaith yr Is-adran Pensiynau yn y dyfodol.

37.

Adnoddau'r Awdurdod Gweinyddol. pdf eicon PDF 325 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' am y gwelliannau argymelledig o ran darparu adnoddau a amlinellwyd yn yr adroddiad.  Esboniwyd y meysydd gwaith gwahanol yr oedd y Tîm Gweinyddu Pensiynau a Thîm Buddsoddi'r Gronfa Bensiwn yn ymgymryd â hwy.

 

Amlinellwyd y byddai rôl yr Uwch-swyddog Cyfathrebiadau Pensiwn yn cynorthwyo'r Is-adran Cyfathrebiadau Pensiwn wrth fynd i'r afael â galwadau'r gwasanaeth sy'n datblygu. Eglurwyd y byddai'r rôl yn cael ei llenwi drwy adnoddau mewnol, byddai proffil y rôl yn destun gwerthusiad swyddi ac y dywedir wrth yr adran AD briodol y byddai prosesau recriwtio a dethol yn cael eu defnyddio i benodi rhywun ar gyfer y rôl.

 

Yn ogystal, eglurwyd y byddai creu rôl Rheolwr Buddsoddi a Chyfrifo'r Gronfa Bensiwn a'i llenwi drwy ddefnyddio adnoddau presennol yn cynorthwyo Is-adran Buddsoddiadau'r Gronfa Bensiwn ac yn helpu i fynd i'r afael â llwyth gwaith cynyddol gymhleth. Yn dilyn hyn, byddai'r swydd yn cael ei gwerthuso, yr adran AD briodol yn cael ei hysbysu, a byddai prosesau recriwtio a dethol yn cael eu mabwysiadu er mwyn penodi rhywun i gyflawni'r rôl hon.

 

Gwnaed sylw gan y Bwrdd ynghylch llenwi'r swyddi mewn da bryd er mwyn cynorthwyo'r Is-adran Pensiynau.

38.

Gwahardd y cyhoedd.

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Bwrdd wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/ion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Bwrdd brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle roedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

39.

Y Diweddaraf am Bartneriaeth Pensiwn Cymru.

Cofnodion:

Darparodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/ Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi'r diweddaraf i'r Bwrdd am gynnydd rhannu asedau Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

Roedd Atodiad 1 yn darparu'r cynnydd a'r adroddiad diweddaru a ddarparwyd gan weithredwr y Cynllun Cytundebol Awdurdodedig, Link Asset Services.

 

Yn y diweddariad cyfeirir at yr amserlen ar gyfer lansio cronfa incwm sefydlog cyfran 3. Mae hon wedi'i haildrefnu ac fe'i cynhelir bellach yn ystod Chwarter 1af 2020.

 

Ychwanegwyd bod hyfforddiant ar y cyd wedi'i drefnu ar gyfer pob aelod o Bwyllgor Cronfa Bensiwn Cymru Gyfan a'r Bwrdd Pensiwn Lleol ar ddiwedd Chwefror 2020 yn Llandrindod.

 

Penderfynwyd anfon manylion yr hyfforddiant ymlaen at Rosemary Broad, aelod newydd y Bwrdd Pensiwn Lleol.

40.

Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi.

Cofnodion:

Roedd adroddiad 'er gwybodaeth' yr Ymgynghorydd Buddsoddi yn cyflwyno Adroddiad Monitro Buddsoddiadau 2019 - Chwarter 3.

 

Nododd y Bwrdd gynnwys yr adroddiad.

41.

Adroddiad gan yr Ymgynghorydd Annibynnol.

Cofnodion:

Roedd yr adroddiad 'er gwybodaeth' yn cyflwyno diweddariad economaidd a sylwadau am y y farchnad o safbwynt Mr Noel Mills, yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol a benodwyd.

 

Atodwyd yr adroddiad chwarterol a ddaeth i ben ar 30 Medi 2019 yn Atodiad 1.

 

Ychwanegwyd bod Noel Mills, Ymgynghorydd Annibynnol wedi ymddeol o'i rôl a bod y cyngor yn ystyried ei opsiynau ar hyn o bryd o ran penodi rhywun yn ei le.

42.

Crynodeb Buddsoddi.

Cofnodion:

Rhoddodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn cynnwys y perfformiad buddsoddi ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 30 Medi 2019.

 

Atodwyd crynodebau buddsoddi chwarterol y Gronfa Bensiwn ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 30 Medi 2019 yn Atodiad 1.

43.

Bwrdd Pensiwn Lleol - Y Cyfarfod Nesaf.

Cofnodion:

Gofynnwyd a ellid symud cyfarfod nesaf y Bwrdd Pensiwn Lleol i fis Mai 2020 gan nad yw'r aelodau ar gael.

 

Penderfynwyd y bydd Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd yn cylchredeg dyddiad arfaethedig ar gyfer y cyfarfod nesaf ym mis Mai 2020.