Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

27.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Aelodau’r Bwrdd:

 

J Andrew – Yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol.

 

 I Guy – Yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol.

 

A Thomas – Yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol.

 

Y Cynghorydd T M White - yr agenda yn ei chyfanrwydd - Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol.

 

Swyddogion:

K Cobb – Yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol.

 

J Dong – Yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol.

 

J Parkhouse – Yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol.

 

S Williams – Yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol.

 

 

28.

Cofnodion. pdf eicon PDF 120 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn Lleol a gynhaliwyd ar 28 Medi 2017 fel cofnod cywir.

 

29.

Adroddiad am Doriadau. pdf eicon PDF 122 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu manylion toriadau a gafwyd yn unol â'r polisi Adrodd am Doriadau.

 

Roedd Atodiad A yn darparu'r Adroddiad Toriadau a oedd yn cynnwys manylion y toriadau a gafwyd ers cyfarfod diwethaf y Bwrdd Pensiwn Lleol ym mis Medi 2017.  Tynnwyd sylw at fanylion y toriadau, y camau gweithredu a gymerwyd gan y Gronfa Bensiwn a newidiadau i bersonél yn y Tîm Pensiynau.

 

Dilynwyd hyn gan drafodaethau ynghylch sicrhau adnoddau digonol i'r Tîm Pensiynau; gosod taliadau cosb ar y rhai sy'n troseddu dro ar ôl tro; dilyn arfer gorau; cymharu â chronfeydd pensiwn eraill.

 

30.

Partneriaeth Pensiwn Cymru - Y Diweddaraf am Gynnydd. pdf eicon PDF 556 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad ‘er gwybodaeth’ a oedd yn rhoi'r diweddaraf i'r Bwrdd am gynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

Rhoddwyd y diweddaraf i'r pwyllgor ynghylch y cyflwyniad mewn perthynas â'r 8 Cronfa Bensiwn yng Nghymru, a'r cynnydd o ran llywodraethu a chaffael, gan gynnwys gweithdrefn adrodd y Cyd-bwyllgor Llywodraethu.

 

Darparodd Atodiad 1 fanylion cyfuno Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol Partneriaeth Cronfa Bensiwn Cymru: Adroddiad Cynnydd mis Hydref 2017.

 

Trafododd y bwrdd y costau gweinyddol a delir i Gyngor Sir Gâr am wasanaethau ysgrifenyddol; mwy o gostau yn erbyn llai o arbedion cyffredinol ar gyfer y prosiect; mwy o gostau oherwydd y cyngor cyfreithiol ychwanegol a gafwyd; gostyngiad yn ffïoedd rheolwyr cronfeydd; yr estyniad y mae ei angen ar gyfer yr amserlen; gwerth yr asedau a rennir a'r asedau y tu allan i'r gronfa.

 

 

 

31.

Y Diweddaraf am y Strategaeth Weinyddol - Drafft. pdf eicon PDF 91 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn amlinellu'r fersiwn ddiweddaraf o Strategaeth Gweinyddu'r Gronfa Bensiwn.

 

Ychwanegwyd bod Strategaeth Gweinyddu'r Gronfa Bensiwn wedi'i mabwysiadu yn 2013 a'i bod wedi'i haddasu fesul cam yn y cyfamser. Roedd y Strategaeth Gweinyddu ddrafft wedi'i hatodi i Atodiad 1 i'w hystyried gan y Bwrdd Pensiwn Lleol, cyn i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn ei mabwysiadu'n ffurfiol.

 

Dywedodd y bwrdd fod y ddogfennaeth ofynnol ar gael ar wefan y cyngor.

 

Dilynwyd hyn gan drafodaethau ynghylch cynnwys y strategaeth ddrafft a oedd yn cynnwys:

 

·         adfer y gost o ganlyniad uniongyrchol i berfformiad gwael cyflogwr;

·         camau gweithredu pan fydd toriadau difrifol;

·         adnoddau yn y Tîm Pensiynau a'r newidiadau diweddar a gafwyd o ran personél;

·         goblygiadau cyflwyno newidiadau Diogelu Data, rhannu data a sicrhau cydymffurfio;

·         adroddiad am gyfrifoldebau a chosbau.

·         Cydnabuwyd nad oedd y toriadau a nodwyd yn ddigon mawr i fod yn rhai pwysig.

 

Penderfynwyd darparu adroddiad maes o law am adnoddau'r Tîm Pensiwn.

 

32.

Gwahardd y Cyhoedd. pdf eicon PDF 113 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Bwrdd wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/ion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Bwrdd Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

33.

Partneriaeth Pensiwn Cymru - Argymhelliad i Benodi Gweithredwr Cynllun Cytundebol Awdurdodedig.

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad a oedd yn hysbysu'r bwrdd o argymhelliad Cyd-bwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru i benodi Gweithredwr y Cynllun Contractiol Awdurdodedig (CCA).  Esboniwyd y broses benodi'n fanwl a nodwyd y penodiad.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.</AI7>

 

34.

Credoau Buddsoddi.

Cofnodion:

Darparwyd adroddiad Hymans Robertson, Ymgynghorwyr Buddsoddi, 'er gwybodaeth'.  Roedd yr adroddiad yn cyflwyno'r camau nesaf a argymhellwyd mewn perthynas â datblygu a ffurfioli credoau pensiwn y Gronfa Bensiwn.

 

Yn Atodiad 1 darparwyd adroddiad am y credoau buddsoddi a grynhowyd o'r holiadur a'r diwrnod hyfforddiant.

 

Trafododd y bwrdd yr wybodaeth a gynhwyswyd yn yr adroddiad gan wneud sylw ar werthu asedau ac adolygu'r strategaeth yn flynyddol ar y cyd â Phwyllgor y Gronfa Bensiwn.

 

35.

Materion Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu.

Cofnodion:

Darparwyd adroddiad Hymans Robertson, Ymgynghorwyr Buddsoddi, 'er gwybodaeth'.  Roedd yr adroddiad yn cyflwyno'r camau nesaf a argymhellwyd mewn perthynas â pholisïau'r Gronfa Bensiwn ar faterion amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu.

 

Atodwyd adroddiad cryno o'r camau nesaf yn Atodiad 1.

 

Trafododd y bwrdd y ffaith mai enillion ariannol yw blaenoriaeth y gronfa; mesur ffactorau ariannol/anariannol; cynrychiolaeth aelodau'r Gronfa Bensiwn ar y gronfa; ac nid gwerthu asedau oedd yr unig opsiwn. Caiff y polisi ei ailysgrifennu i gydnabod bod y gronfa'n cadw'r hawl i werthu asedau fel gweithred derfynol.

 

36.

Cyfarfod Nesaf.

Cofnodion:

Gofynnwyd a ellid symud y cyfarfod nesaf a drefnwyd o 29 Mawrth 2018 i ddyddiad arall yn ystod yr wythnosau sy'n dechrau ar 23 a 30 Ebrill 2018.

 

Penderfynwyd y dylai'r Swyddog Gwasanaethau Democrataidd ddosbarthu dyddiadau amgen i'r bwrdd er mwyn cael cytundeb.