Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

15.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Aelodau’r Bwrdd:

 

J Andrew – Yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol.

 

A Chaves – Yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol.

 

I Guy – Yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol.

 

A Thomas – Yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol.

 

Y Cynghorydd T M White - yr agenda yn ei chyfanrwydd - Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol.

 

Swyddogion:

 

K Cobb – Yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol.

 

J Dong – Yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol.

 

J Parkhouse – Yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol.

 

S Williams – Yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol.

 

16.

Cofnodion. pdf eicon PDF 116 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd llofnodi a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Medi 2017 fel cofnod cywir, yn amodol ar y diwygiad canlynol: -

 

Newid y cyfeiriadau at John Andrew yn cynrychioli Cartrefi CNPT i ‘Tai Tarian’.

 

Nodwyd sylwadau'r bwrdd o ran Cofnod Rhif 46 - Côd Tryloywder Costau'r LGPS

 

17.

Adroddiad ISA 260. pdf eicon PDF 302 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd David Williams, Arweinydd y Tîm Ariannol, Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) adroddiad a oedd yn nodi'r materion i'w hystyried o archwiliad cyfriflenni ariannol y Gronfa Bensiwn ar gyfer 2016-2017 yr oedd angen eu nodi o dan SRA 260.

 

Bwriad yr Archwilydd Cyffredinol yw cyflwyno adroddiad pendant ar gyfriflenni ariannol y Gronfa Bensiwn ar gyfer 2016-17 unwaith y bydd yr awdurdod yn darparu llythyr sylwadau i Swyddfa Archwilio Cymru yn seiliedig ar yr hyn a nodwyd yn Atodiad 1.

 

Nodwyd yr adroddiad archwilio arfaethedig yn Atodiad 2.  Roedd y Gronfa Bensiwn wedi'i chynnwys ym mhrif gyfriflenni ariannol y cyngor ac felly'r ymateb a gyflwynwyd oedd yr un a gynigiwyd ar gyfer cynnwys prif gyfriflenni ariannol y cyngor yn y Gronfa Bensiwn.

 

Amlinellwyd bod camddatganiadau a oedd wedi'u cywiro gan reolwyr, yr oedd SAC o'r farn y dylid tynnu sylw'r awdurdod atynt oherwydd eu perthnasedd i'n cyfrifoldebau dros y broses adrodd ariannol.  Nodwyd y rhain gyda'r esboniadau yn Atodiad 3.  Ni chafodd y diwygiadau hyn unrhyw effaith ar Gyfrif y Gronfa ond cynyddodd gwerth y buddsoddiadau yng Nghyfriflen yr Asedau Net o £2.3 miliwn.  Dylid nodi, gyda'r defnydd cynyddol o amcangyfrifon, bydd angen mwy o ddiwygiadau ar ôl cyfnod yr archwiliad yn y blynyddoedd i ddod.

 

Roedd hefyd nifer o ddiwygiadau cyflwyniadol a wnaed i'r cyfriflenni ariannol drafft sy'n codi o'r archwiliad. Nodwyd yr argymhellion sy'n codi o'r gwaith archwilio ariannol yn Atodiad 4.  Roedd rheolwyr wedi ymateb iddynt a byddai SAC yn gwirio'r cynnydd a wnaed yn ystod archwiliad y flwyddyn nesaf.  Lle'r oedd unrhyw gamau gweithredu heb eu cyflawni, byddant yn parhau i fonitro cynnydd a'i gynnwys yn adroddiad y flwyddyn nesaf.

 

Trafododd y bwrdd yr amserlenni cyflymach sy'n cael eu cyflwyno i gau cyfrifon a goblygiadau'r newid hwn, yn enwedig ar brisiadau ac amcangyfrifon.

 

Roedd y cadeirydd wedi llongyfarch y staff a diolch iddynt am eu gwaith a'u hymroddiad. 

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.

 

18.

Adroddiad Blynyddol 2016/17. pdf eicon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol/Dirprwy Swyddog Adran 151 Adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe ar gyfer 2016/17 'er gwybodaeth'.

 

Roedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi archwilio Adroddiad Blynyddol 2016/17 y Gronfa Bensiwn yn unol â'i chynllun archwilio a gyflwynwyd i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn yn gynharach yn y flwyddyn.  Darparwyd Adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2016/17 yn Atodiad 1.

 

Trafododd y Bwrdd y canlynol: -

 

·         Tybiaethau actiwaraidd/cyfraddau disgownt

·         Fframwaith llywodraethu a mabwysiadu arfer gorau;

·         Aelodau'r cynllun yn defnyddio cyfleusterau ar-lein;

·         Y rheoliadau cydymffurfio a osodwyd, tryloywder a dadansoddiad cost a budd;

·         Ymddiriedaeth aelodau yn y cynllun;

·         Cynlluniau meincnodi yng Nghymru a Lloegr a goblygiadau'r darparwr meincnodi'n tynnu ei wasanaeth yn ôl.

 

19.

Adroddiad am Doriadau. pdf eicon PDF 121 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn cyflwyno unrhyw doriadau a gafwyd yn y cyfnod, yn unol â'r Polisi Adrodd am Doriadau.

 

Atodwyd yr Adroddiad Toriadau yn Atodiad A. 

 

Trafododd y bwrdd yr opsiynau sydd ar gael er mwyn cynorthwyo tramgwyddwyr rheolaidd ac osgoi toriadau yn y dyfodol.

 

20.

Mifid II. pdf eicon PDF 168 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' i nodi bod gan Gronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe bellach statws Buddsoddwr Proffesiynol dan MIFID II.

 

Amlinellwyd yr effaith bosib ar y CPLlL, yr asesiad arfaethedig sydd ei angen a'r ffordd ymlaen. 

 

21.

Camau Corfforaethol. pdf eicon PDF 127 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' i nodi penderfyniad Pwyllgor y Gronfa Bensiwn i benodi Ymgynghorydd Cyfreithiol o UDA a amlinellwyd ym mharagraff 4.1 i fonitro cyfleoedd i adennill colledion o ganlyniad i dorri cyfreithiau gwarannau UDA.

 

 

22.

Cysoni'r Isafswm Pensiwn Gwarantedig. pdf eicon PDF 152 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' ar sefyllfa gyfredol y Gronfa o ran cysoni GMP ac i nodi'r weithdrefn sy'n ofynnol i gwblhau'r ymarfer cysoni GMP yn y cyfnod amser sydd ar gael.

 

Darparwyd adroddiad briffio yn y cyfarfod diwethaf i ddiweddaru'r pwyllgor am y sefyllfa bresennol o ran ymarfer Cysoniadau GMP, a gafodd ei gynnwys fel Atodiad A.  Amlinellwyd yr adroddiad gwreiddiol ar gyfer y pwyllgor ar 12 Mawrth 2015 yn Atodiad B.

 

23.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 113 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Bwrdd wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/ion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Bwrdd Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol.

 

                                             (Sesiwn Gaeëdig)

24.

Cysoni'r Isafswm Pensiwn Gwarantedig.

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' i hysbysu'r bwrdd am benodi cyflenwr i gwblhau'r ymarfer Cysoni GMP yn y cyfnod amser sydd ar gael.

 

Nodwyd diwygiad i baragraff 5.1.

 

25.

Partneriaeth Pensiwn Cymru - Y Diweddaraf.

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi'r diweddaraf i'r pwyllgor am gynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

Adroddodd ar gefndir yr eitem, darparodd fanylion mewn perthynas â'r cyflwyniad o ran 8 Cronfa Bensiwn Cymru ac amlinellodd y llywodraethu dros dro a'r broses gaffael a gafwyd hyd yn hyn.

 

Amlinellwyd amserlen wedi'i diweddaru a diweddariad ar gynnydd a grëwyd gan ymgynghorwyr Partneriaeth Pensiwn Cymru, Hymans Robertson, yn Atodiad 1.

 

26.

Next Meeting.

Cofnodion:

Gwnaed cais i newid y cyfarfod nesaf a drefnwyd o 14 Rhagfyr 2017 i ddyddiad arall.

 

Penderfynwyd y dylai'r Swyddog Gwasanaethau Democrataidd ddosbarthu dyddiadau amgen i'r bwrdd er mwyn cael cytundeb.