Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ethol cadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2017-2018.

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol Mr Ian Guy yn gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2017-2018.

 

(Bu Mr Ian Guy yn llywyddu)

 

 

2.

Ethol is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2017-2018.

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol John Andrew yn Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2017-2018.

 

3.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: -

 

AELODAU’R BWRDD:

 

J Andrew – Yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol.

 

I Guy – Yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol.

 

y Cynghorydd A R Lockyer - Yr agenda yn ei chyfanrwydd - Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

A Thomas – Yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol.

 

Y Cynghorydd T M White - Yr agenda yn ei chyfanrwydd - Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ac yn aelod o'r Pwyllgor Archwilio - personol.

 

Swyddogion:

 

J Dong – Yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol.

 

L Miller – Yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol.

 

J Parkhouse – Yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol.

 

B Smith – Yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol.

 

S Williams – Yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol.

 

4.

Cofnodion. pdf eicon PDF 88 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn Lleol a gynhaliwyd ar 23 Mawrth 2017 fel cofnod cywir.

 

5.

Datganiad Drafft o Gyfrifon 2016/17. pdf eicon PDF 9 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol y datganiad drafft o gyfrifon ar gyfer Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe.

 

Esboniwyd bod y cyfrifon yn ffurfio cydran arbennig ac ar wahân o Ddatganiad o Gyfrifon Dinas a Sir Abertawe ar y cyfan.  Roedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi dechrau ei harchwiliad o Ddatganiad Drafft o Gyfrifon 2016/17 y Gronfa Bensiwn yn unol â'i chynllun archwilio a gyflwynwyd i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn yn gynharach y flwyddyn hon. Byddai'r adroddiad yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn ar 14 Medi 2017.

 

Atodir Datganiad o Gyfrifon 2016/17 y Gronfa Bensiwn yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau/manylodd y Pwyllgor mewn perthynas ag effaith Prydael ar y gronfa, y cyfraniadau a wnaed gan Gyrff Cydnabyddedig, budd incwm buddsoddi, treuliau rheoli buddsoddiadau a chostau trosolwg a llywodraethu.

 

Penderfynwyd nodi Datganiad Drafft o Gyfrifon 2016/17.

 

 

 

6.

Partneriaeth Pensiwn Cymru - y Diweddaraf. pdf eicon PDF 65 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad ‘er gwybodaeth’ a oedd yn hysbysu pwyllgor y Gronfa Bensiwn ar gynnydd Cronfa Buddsoddi Cymru Gyfan.

 

Roedd Atodiad 1 o'r adroddiad yn cynnwys amserlen ddiwygiedig a diweddariad ar gynnydd a gynhyrchwyd gan ymgynghorwyr Partneriaeth Pensiwn Cymru, Hymans Robertson.

 

Ychwanegwyd bod y Pwyllgor Llywodraethu ar y Cyd (JGC) wedi cynnal ei gyfarfod swyddogol cyntaf ar 29 Mehefin 2017. Gosodwyd cylch gwaith y Pwyllgor Llywodraethu ar y Cyd yn y JGC. Byddai'r Pwyllgor Llywodraethu ar y Cyd yn goruchwylio'r broses gaffael ar gyfer y gweithredwr a byddai'r cyd-bwyllgor ffurfiol yn gwneud yr argymhelliad terfynol er mwyn penodi'r cynigydd sydd fwyaf addas ar gyfer y meini prawf manwl. 

 

Roedd Grŵp yr Ymarferwyr Buddsoddi a'r Gweithgor Swyddogion (OWG) wedi bod yn ymgynghori â Hymans Robertson a'r ymgynghorwyr cyfreithiol penodedig, Burges Salmon, er mwyn ffurfio a chadarnhau'r broses gaffael a'r ddogfennaeth. Codwyd y gwahoddiad olaf i dendro (ITT) ym mis Mehefin 2017. Mae'r gwerthusiad wedi bod yn barhaus ers derbyn y tendrau ym mis Gorffennaf 2017. Disgwylir i'r OWG wneud argymhellion i benodi gweithredwr i'r Pwyllgor Llywodraethu ar y Cyd ym mis Medi 2017. Fodd bynnag, gall yr amserlen fod yn amodol ar oedi.  Yna, byddai'r penderfyniad yn cael ei gymeradwyo gan bob Pwyllgor y Gronfa Bensiwn.

 

7.

Cynllun Hyfforddiant. pdf eicon PDF 61 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad a oedd yn ceisio pennu rhaglen hyfforddiant flynyddol ar gyfer y Bwrdd Pensiwn Lleol.

 

Amlinellwyd bod y Bwrdd Pensiwn Lleol wedi derbyn yr hyfforddiant canlynol yn ystod y 12 mis diwethaf:

 

Diwrnodau 1-3 Hanfodion i Ymddiriedolwyr y CLlL, Hyfforddiant Prisiant Teirblwydd a Hyfforddiant Llywodraethu Diweddaraf CIPFA.

 

Awgrymwyd yr hyfforddiant canlynol: -

 

Diwrnodau 1-3 Hanfodion i Ymddiriedolwyr y CLlL (ar gyfer aelodau'r Bwrdd Pensiwn Lleol nad oedd yn bresennol yn y sesiwn flaenorol), hyfforddiant i aelodau Bwrdd Pensiwn Lleol CIPFA, hyfforddiant buddsoddiad wedi'i reoleiddio, credoau buddsoddi a hyfforddiant y GSA a hyfforddiant trawsnewid rheolaeth.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r hyfforddiant a nodir ym mharagraff 3.1 yr adroddiad ar gyfer Bwrdd Pensiwn Lleol Dinas a Sir Abertawe, a chael Swyddog Adran 151 i gymeradwyo unrhyw hyfforddiant y tu allan i gyllideb y Bwrdd.

 

 

 

 

8.

MIFID II. pdf eicon PDF 87 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad ‘er gwybodaeth’ a oedd yn hysbysu'r Bwrdd Pensiwn Lleol ar MIFID II a'i effaith bosib ar y CPLlL yn genedlaethol ac yn lleol.

 

Amlinellwyd effaith bosib y CPLlL, yr asesiad arfaethedig sydd ei angen a'r ffordd ymlaen.  Darparwyd ymateb y Gymdeithas Llywodraeth Leol yn Atodiad 1.

 

9.

Côd Tryloywder Costau'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. pdf eicon PDF 56 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn hysbysu'r Bwrdd Pensiwn Lleol am gôd  ymddygiad gwirfoddol newydd ar dryloywder costau yn y diwydiant cronfa fuddsoddi.

 

Atodwyd y Côd Ymddygiad ar gyfer Tryloywder Costau yn Atodiad 1. Cydnabuwyd bod y templed i'w gwblhau wedi'i ddatblygu ar gyfer mandadau ecwiti ar y cam hwn a bod templedi ar gyfer dosbarthiadau ased eraill yn cael eu datblygu. Fodd bynnag, bwriadwyd iddo gynnwys y rheolwyr ecwiti (rheolwyr dosbarth asedau eraill pan fydd y templedi ar gael) ac i gofrestru'r côd gwirfoddol.  Nodwyd y dylai hyn fod yn ofynnol mewn unrhyw benodiadau i'r gronfa yn y dyfodol neu i Bartneriaeth Pensiwn Cymru.

 

Gofynnodd y Bwrdd gwestiynau ynglŷn â Phartneriaeth Pensiwn Cymru yn cofrestru ar gyfer y côd a'r rhagolygon ar gyfer adfer costau.

 

10.

Toriadau. pdf eicon PDF 77 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn hysbysu'r Bwrdd Pensiwn Lleol am unrhyw doriadau i'r Gronfa Bensiwn yn unol â'r Polisi Adrodd am Doriadau.

 

Atodwyd yr Adroddiad Toriadau yn Atodiad A.  Darparwyd gwybodaeth ychwanegol mewn perthynas â thaliadau cyfandaliad ymddeoliad, dyraniad dangosol i Ecwitïau Byd-eang, cyflogwyr nad ydynt yn talu cyfraniadau yn y raddfa amser ofynnol a methiant un cyflogwr (Grŵp Gwalia) i gyflwyno data i'r Gronfa Bensiwn erbyn 30 Ebrill er mwyn cysoni cyfraniadau ar ddiwedd y flwyddyn a bod tâl yn cael ei ychwanegu at gofnodion yr aelodau.

 

Trafododd y Bwrdd yr Adroddiad Toriadau a thrafodwyd yr opsiynau sydd ar gael er mwyn mynd i'r afael a'r toriadau hynny.

 

11.

Penodi Rheolwr Isadeiledd. pdf eicon PDF 126 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn diweddaru'r Bwrdd Pensiwn Lleol ar benodiad rheolwr isadeiledd craidd.

 

Cafodd y Bwrdd wybod, yn dilyn cyflwyniad a gweithgaredd gwerthuso, fod Pwyllgor y Gronfa Bensiwn wedi penodi First State fel rheolwr isadeiledd craidd Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe.

 

12.

Adroddiad Cysoni'r Isafswm Pensiwn Gwarantedig. pdf eicon PDF 64 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Reolwr Pensiynau adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn hysbysu'r Bwrdd am yr ymarfer yr oedd yn cael ei ymgymryd ag ef er mwyn ystyried yr opsiynau sydd ar gael er mwyn cwblhau ymarfer cysoni GMP o fewn y graddfeydd amser gofynnol.

 

Amlygwyd bod yr ymarfer cysoni wedi defnyddio llawer o adnoddau ac amlinellwyd y risg bosib i'r Gronfa Bensiwn os nad oed y gwaith yn cael ei gwblhau erbyn y terfyn amser gofynnol.  O ganlyniad i hynny, cofrestrodd y Gronfa ar gyfer Fframwaith Cenedlaethol CPLlL er mwyn cael gafael ar wybodaeth am yr opsiynau sydd ar gael, a oedd yn cynnwys cefnogaeth ymgynghorol a chaffael gwasanaethau arbenigwr maes er mwyn cwblhau'r ymarfer o fewn y terfyn amser sydd ar ôl.

 

Roedd ystyriaeth o'r opsiynau'n barhaus a byddai adroddiad arall yn cael ei gyflwyno ar y cam cynharaf.

 

13.

Cadeirydd ymadawol.

Cofnodion:

Diolchodd y Cadeirydd y Cynghorydd A Lockyer,  y Cynghorydd ymadawol, am ei waith yn ystod y flwyddyn ddinesig ddiwethaf ac am gryfhau'r cysylltiadau rhwng y Bwrdd a Phwyllgor y Gronfa Bensiwn.

 

 

14.

Lynne Miller - Prif Reolwr Pensiynau.

Cofnodion:

Cyhoeddodd y Cadeirydd mai hwn oedd cyfarfod olaf Lynne Miller, Prif Reolwr Pensiynau, sy'n ymddeol ar ddiwedd mis Medi 2017.  Diolchodd am ei gwaith a'i hymrwymiad ac ar ran y Bwrdd Pensiwn Lleol, dymunodd ymddeoliad hir a hapus iddi.