Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

6.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

J Andrew – Personol – yr agenda gyfan - aelod o'r LGPS.

 

I Guy – Personol – yr agenda gyfan - aelod o'r LGPS.

 

 

7.

Cofnodion. pdf eicon PDF 61 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion y Bwrdd Pensiwn Lleol a gynhaliwyd ar 19 Ionawr 2016 yn gofnod cywir.

 

Ffurflen Datgelu Buddiannau Personol

 

Dywedodd y Cadeirydd ymadawol ei fod wedi cwrdd â Dirprwy Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ynghylch addasrwydd y ffurflen ar gyfer aelodau'r Bwrdd Pensiwn Lleol a dywedwyd wrtho nad oedd angen newid y ffurflen.

 

8.

Adroddiad Archwiliad Mewnol Cronfa Bensiwn 2015/16. pdf eicon PDF 58 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Archwilydd adroddiadau Archwilio Mewnol ar gyfer gweithgareddau'r Gronfa Bensiwn yn 2015/16 i'r Bwrdd.

 

Roedd y Cynllun Archwilio Mewnol yn cynnwys yr archwiliadau canlynol o

weithgareddau’r Gronfa Bensiwn

 

 

·         Gweinyddu Pensiynau;

·         Buddsoddiadau'r Gronfa Bensiwn.

 

Mae'r archwiliad Gweinyddu Pensiynau'n cynnwys yn bennaf agweddau ar bensiynau a weithredir gan yr Is-adran Bensiynau dan gyfarwyddyd y Pennaeth Adnoddau Dynol ac mae archwiliad Buddsoddiadau'r Gronfa Bensiwn yn cynnwys y buddsoddiad o asedau'r gronfa gan y Drysorfa a'r Adran Dechnegol drwy amrywiaeth o reolwyr y gronfa.

 

Bydd archwiliad cronfa bensiwn arall yn cael ei gynnal am y tro cyntaf yn 2016/17.  Byddai'r archwiliad hwn yn edrych ar unrhyw agweddau nad ydynt wedi'u cynnwys mewn archwiliadau eraill e.e. unrhyw incwm neu wariant sy'n cael eu cynnwys yng nghyfrifon y Gronfa Bensiwn nad ydynt yn cael eu harchwilio yn rhywle arall.  Ystyriwyd bod archwiliadau Gweinyddu Pensiynau a Buddsoddiadau'r Gronfa Bensiwn yn archwiliadau sylfaenol.

 

Cwblhawyd yr archwiliad Gweinyddu Pensiynau'n flynyddol a chwblhawyd

archwiliad Buddsoddiadau'r Gronfa Bensiwn bob 2 flynedd. 

 

Dyma lefel y sicrwydd a ddarparwyd gan archwiliadau'r Gronfa Bensiwn yn

2015/16.

 

·         Gweinyddu Pensiynau                         Sylweddol

·         Buddsoddiadau'r Gronfa Bensiwn       Uchel

 

Atodwyd copi o adroddiad terfynol yr archwiliad Gweinyddu Pensiynau ar gyfer 2015/16 yn Atodiad 1, a darparwyd adroddiad terfynol archwiliad Buddsoddiadau'r Gronfa Bensiwn yn Atodiad 2.

 

PENDERFYNWYD nodi adroddiadau'r Archwiliad Mewnol.

 

 

9.

Côd Ymarfer y Rheolydd Pensiynau - Llywodraethu a Gweinyddu Pensiynau Cyhoeddus - Blaengynllun Gwaith. pdf eicon PDF 65 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth agenda'r cynllun gwaith craidd ar gyfer y Bwrdd Pensiwn Lleol.

 

Nodwyd bod y Rheolydd Pensiynau wedi cyhoeddi nodyn arweiniol côd ymarfer rhif 14 drafft "Llywodraethu a Gweinyddu Cynlluniau Pensiwn Gwasanaeth Cyhoeddus".  Atodwyd hwn fel Atodiad 1 ac roedd yn rhoi manylion cefndir ac arweiniad ymarferol i'r côd.  Mae'r côd arweiniol drafft yn cynnwys y prif feysydd a gallai gyfeirio’r agenda graidd ar gyfer gwaith y bwrdd.  Roedd y prif feysydd yn cynnwys: -

 

·         Llywodraethu eich cynllun;

·         Rheoli risgiau;

·         Gweinyddu;

·         Datrys materion.

 

Byddai'r rhain yn sail i'r blaengynllun gwaith craidd ar gyfer y Bwrdd Pensiwn Lleol.

 

Dywedodd y Bwrdd er mwyn craffu ar benderfyniadau Pwyllgor y Gronfa Bensiwn, dylai'r Bwrdd weld eu papurau cyn eu cyhoeddi.  Awgrymwyd bod y Bwrdd yn archwilio sut oedd Byrddau eraill yn gweithredu cyn codi'r mater unwaith eto.

 

PENDERFYNWYD ar y canlynol: -

 

1)    Bod y blaengynllun gwaith craidd ar gyfer y Bwrdd Pensiwn Lleol yn cael ei gymeradwyo;

2)    Bydd y Bwrdd yn archwilio sut mae Byrddau eraill yn gweithredu cyn codi'r mater o gael gweld papurau Pwyllgor y Gronfa Bensiwn cyn eu cyhoeddi.

 

10.

Cofrestr risgiau. pdf eicon PDF 76 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn hysbysu'r Bwrdd Pensiwn Lleol o'r risgiau a nodwyd yn y gofrestr risgiau a rheolaeth liniaru.

 

Amlinellwyd bod y gofrestr risgiau, yn Atodiad 1, yn offeryn a ddefnyddiwyd i nodi, blaenoriaethu, rheoli a monitro'n effeithiol risgiau sy'n gysylltiedig â Chronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe.  Roedd yn cynorthwyo'r Gronfa drwy:

·         nodi risgiau a reolir a'r rhai na ellir eu rheoli;

·         darparu ymagwedd systematig at reoli risgiau;

·         rhoi rheolaeth effeithiol ac effeithlon ar waith;

·         nodi cyfrifoldebau;

·         nodi risgiau ar y cam cynllunio a monitro'r risgiau;

·         helpu'r Gronfa i gyflawni ei hamcanion.

Trafododd y Bwrdd y pethau canlynol: -

·         Meddu ar staff hyfforddedig a phrofiadol a'r hyn y mae'r Awdurdod yn ymgymryd ag ef o ran hyfforddiant, datblygiad a chynllunio dilyniant;

·         Rheolwyr Pensiwn i reoli’r Gofrestr Risgiau i amlygu risgiau, gweithdrefnau rheoli risgiau corfforaethol, fframwaith rheoli risgiau ac adolygu proses y Gofrestr Risgiau;

·         Pwysigrwydd Cytundebau Lefel Gwasanaeth, yn enwedig o ran cyflogwyr llai;

·         Rhoi sylw i risgiau ambr;

·         Methiant parhaus rheolwyr buddsoddi i gyflawni eu derbyniadau amcanol;

·         Monitro rheoli risg yn y dyfodol.

 

 

11.

Crynodeb o'r Adroddiad ar Ddulliau Rheoli Mewnol. pdf eicon PDF 174 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad 'er

gwybodaeth' a oedd yn hysbysu'r Bwrdd Pensiwn Lleol am eitemau

adroddadwy o fewn adroddiadau dulliau rheoli mewnol rheolwyr y gronfa.

 

Amlinellwyd bod y fframwaith rheoli a llywodraethu mewnol y mae busnes yn gweithredu drwyddo yn cynnwys y systemau, y prosesau gwaith, diwylliant a gwerthoedd y mae busnes yn cyfeirio ac yn rheoli ei fusnes drwyddynt yn rhoi cysur i'w gwsmeriaid, ei gleientiaid a'i randdeiliaid. Roedd rheolwyr a cheidwaid asedau yn destun rheolaeth gaeth yng nghyd-destun byd-eang, yr UE a’r DU. Roedd yn rhaid iddynt adrodd am eu systemau rheoli mewnol a oedd yn destun archwilio a sylwadau allanol gan gwmnïau archwilio annibynnol a chymwys.  Roedd crynodeb o'r eithriadau ar gyfer y flwyddyn galendr ddiwethaf wedi'i atodi yn Atodiad 1 ar gyfer rheolwyr a cheidwaid a benodwyd ar gyfer cronfa Dinas a Sir Abertawe.

Nodwyd bod yr eithriadau wedi'u trafod yn briodol gan y rheolwyr a chawsant eu cydnabod felly gan gymryd camau gweithredu adfer priodol. Cymerwyd yr eithriadau a amlygwyd o ddifri, ond nid oeddent yn peri pryder uniongyrchol i fusnesau dan sylw na'r asedau dan reolaeth.

Cyfeiriodd y Bwrdd at wiriadau gan reolwyr portffolio'n cael eu gwneud yn amserol.

 

12.

Hyfforddiant i Aelodau'r Bwrdd Pensiwn Lleol. pdf eicon PDF 61 KB

·         Gan gynnwys adborth llafar am hyfforddiant Llywodraethu'r  Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifeg yr aeth y Cynghorydd Lockyer iddo ar 12 Gorffennaf 2016.

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad i bennu rhaglen hyfforddiant flynyddol i aelodau'r Bwrdd Pensiwn Lleol.  Byddai'r hyfforddiant yn sicrhau cydymffurfiad â Chôd Ymarfer Gwybodaeth a Sgiliau Pensiynau Sector Cyhoeddus CIPFA.

 

Rhoddodd y Cadeirydd adborth ar hyfforddiant llywodraethu CIPFA yr aeth iddo ar 12 Gorffennaf 2016.  Amlygwyd pwysigrwydd rôl Byrddau Pensiwn Lleol a'r angen i graffu'n effeithiol.

 

Dywedodd y Bwrdd fod angen cael perthynas actif rhwng y Bwrdd a Phwyllgor y Gronfa Bensiwn. 

 

PENDERFYNWYD bod yr hyfforddiant a nodwyd ar gyfer aelodau'r Bwrdd Pensiwn Lleol yn cael ei gymeradwyo.

 

13.

Adolygiad o Gofnodion Pwyllgor y Gronfa Bensiwn Mawrth/Gorffennaf 2016. pdf eicon PDF 83 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad 'er gwybodaeth' yn Atodiad 1 cofnodion cyfarfodydd blaenorol Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ar 10 Mawrth ac 14 Gorffennaf 2016.

 

14.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Bwrdd wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(SESIWN GAEËDIG)

 

15.

Cyflwyniad gan Gronfa Cymru i'r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol mewn ymateb i gyhoeddiad yr LGPS ym mis Tachwedd 2015: Meini Prawf ac Arweiniad Diwygio Buddsoddiad.

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn amlinellu'r cyflwyniad ar y cyd ar 8 Cronfa Bensiwn Cymru sy'n ymateb i Feini Prawf ac Arweiniad Diwygio Buddsoddiad y Llywodraeth a gymeradwywyd gan Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ar 14 Gorffennaf 2016.  Darparwyd y cyflwyniad terfynol yn Atodiad 1 yr adroddiad.