Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

25.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: -

 

Datganodd y Cynghorydd C R Doyle, y Cynghorydd S A Knoyle ac Ian Guy fuddiannau personol yn yr agenda cyfan.

 

Datganodd Karen Cobb, Jeff Dong, Jeremy Parkhouse a Melissa Perry fuddiannau personol yn yr agenda cyfan.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: -

 

Datganodd y Cynghorydd C R Doyle, y Cynghorydd S A Knoyle ac Ian Guy fuddiannau personol mewn perthynas â'r agenda gyfan.

 

Datganodd Karen Cobb, Jeff Dong, Jeremy Parkhouse a Melissa Perry fuddiannau personol mewn perthynas â'r agenda gyfan.

26.

Cofnodion. pdf eicon PDF 218 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion Cyfarfod y Bwrdd Pensiwn Lleol a gynhaliwyd ar 25 Hydref a 29 Tachwedd 2023 fel cofnod cywir.

27.

Cynllun Archwilio Manwl - Cyngor a Sir Abertawe. pdf eicon PDF 1 MB

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Jeff Dong, Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy Swyddog A151, Gynllun Archwilio 2023 – Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe, Archwilio Cymru.

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r gwaith yr oedd Archwilio Cymru'n bwriadu'i wneud yn ystod 2023 i gyflawni ei gyfrifoldebau statudol fel archwiliwr allanol, a chyflawni ei rwymedigaethau dan y Côd Ymddygiad i archwilio ac ardystio a yw datganiadau cyfrifyddu'r Gronfa Bensiwn yn 'wir ac yn deg'. 

 

Amlinellwyd mai diben y cynllun oedd nodi'r gwaith arfaethedig, pryd y byddai'n cael ei wneud, faint byddai'n ei gostio a phwy fyddai'n gwneud y gwaith.  Ychwanegwyd nad oedd unrhyw gyfyngiadau wedi'u gosod ar yr archwilwyr wrth gynllunio cwmpas yr archwiliad.

 

Roedd y cynllun hefyd yn amlinellu defnyddioldeb y datganiadau ariannol, archwiliad o gyfrifon y cronfeydd pensiwn, y risgiau sylweddol o ran datganiadau ariannol, meysydd ffocws eraill, swyddogaethau archwilio statudol, y ffi archwilio, y tîm archwilio, yr amserlen ac ansawdd yr archwilio.

 

Roedd Atodiad 1 yn darparu'r newidiadau allweddol i Safon Ryngwladol ar Archwilio (ISA) 315 a'r effaith bosib ar y cyngor.

28.

Adroddiad SRA 260 - Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe. pdf eicon PDF 751 KB

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy Swyddog Adran 151, ar ran Archwilio Cymru, Adroddiad Archwilio Cyfrifon Safon Ryngwladol ar Archwilio (ISA) 260 – Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe a oedd yn crynhoi prif ganfyddiadau archwiliad o gyfrifon 2022-23.   

 

Ychwanegwyd bod Archwilio Cymru yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar gyfrifon eleni unwaith y bydd y Cyngor wedi darparu'r Llythyr Sylwadau yn seiliedig ar Atodiad 1. Darparwyd yr Adroddiad Archwilio arfaethedig yn Atodiad 2.

 

Ni nodwyd unrhyw gamddatganiadau yn y cyfrifon a oedd yn aros heb eu cywiro.  Esboniwyd bod manylion y camddatganiadau a gywirwyd gan y rheolwyr yn fân ddiwygiadau o natur gyflwyniadol ac nad oeddent yn cael unrhyw effaith ar wariant net nac asedau net y Gronfa Bensiwn.  Nid oedd unrhyw faterion arwyddocaol eraill yn codi.

 

Ychwanegwyd yn ystod archwiliad 2021-22, fod Archwilio Cymru wedi nodi un mater arfer da a arweiniodd at nodi argymhelliad yn adroddiad Archwilio Cyfrifon 2021-22. Roedd Archwilio Cymru wedi mynd ar drywydd gweithredu'r argymhelliad hwn gan ddweud ei fod wedi'i weithredu fel y nodwyd yn Atodiad 3.  Ni nodwyd unrhyw argymhellion pellach ganddynt ar gyfer y Gronfa Bensiwn yn ystod archwiliad 2022-23.

 

Canmolwyd Jeff Dong, Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy Swyddog A151, Karen Cobb, y Rheolwr Cyfrifeg a Buddsoddiad a staff yr Adran Gyllid gan y Cadeirydd am eu holl waith.

29.

Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe - Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon 2022/23. pdf eicon PDF 131 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Darparodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy Swyddog Adran 151  adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn cyflwyno'r adroddiad blynyddol a'r datganiad o gyfrifon ar gyfer Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2022/23.

 

Amlinellwyd bod Cronfa Bensiwn Ddinas a Sir Abertawe bob amser wedi cynhyrchu datganiad cyfrifon ac adroddiad blynyddol ar wahân mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol dan sylw, a oedd yn destun archwiliad cyhoeddus. Fodd bynnag, mewn ymgynghoriad â Swyddfa Archwilio Cymru, penderfynwyd cyfuno'r ddwy ddogfen yn un a gwneud y cynhyrchiad/broses archwilio'n symlach. 

 

Ychwanegwyd bod swyddogion wedi cyflwyno Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon drafft 2022/23 yn ystod cyfarfod y Bwrdd Pensiwn Lleol ym mis Gorffennaf 2023 ac roedd Atodiad 1 yn darparu'r fersiwn derfynol, a oedd yn destun yr adroddiad Safon Ryngwladol ar Archwilio 260 gyda barn archwilio a chanfyddiadau archwilio wedi'u cyflwyno gan Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Diolchwyd i staff yn yr Adran Gyllid a'u llongyfarch am eu gwaith a'u hymroddiad.

30.

Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Pensiwn Cymru 2022/2023. pdf eicon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn am gynnydd a gwaith Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC).

 

Roedd Atodiad 1 yn darparu'r adroddiad diweddaru a chynnydd chwarterol a ddarparwyd gan awdurdod cynnal Partneriaeth Pensiwn Cymru, Cyngor Sir Gâr ac Adolygiad Cynllun Busnes PPC ar gyfer Ch1 2023-24.

31.

Adroddiad am doriadau. pdf eicon PDF 502 KB

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu manylion unrhyw doriadau a gafwyd yn y cyfnod hwn yn unol â'r polisi Adrodd am Doriadau.

 

Yn Atodiad A darparwyd manylion y toriadau a gafwyd ers cyfarfod diwethaf Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ym mis Hydref 2023.  Nodwyd manylion y toriadau a'r camau gweithredu a gymerwyd gan reolwyr.

32.

Gwahardd y Cyhoedd. pdf eicon PDF 125 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Bwrdd wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/ion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y bwrdd brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

33.

Y Diweddaraf am roi'r Strategaeth Buddsoddi ar waith.

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd parhad y rhaglen ailddyrannu asedau (dadrisgio) o ecwitïau i asedau ildio a oedd yn cyfrannu at amcanion sero net.

34.

Adroddiad(au) diweddaru.

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn am gynnydd a gwaith Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC).

35.

Adroddiad Monitro Buddsoddiadau Chwarterol.

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy Swyddog S151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu'r diweddariad ar y farchnad a'r buddsoddi chwarterol i'r gronfa.

36.

Adolygiad o'r Strategaeth Buddsoddi.

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy Swyddog A151 Adolygiad o Strategaeth Buddsoddi Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe ar gyfer 2023 'er gwybodaeth'.

37.

Cynllun y daith at Sero Net.

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy Swyddog A151 Gynllun y Daith i Sero-net Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 'er gwybodaeth'.

38.

Crynodeb Buddsoddi.

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn cynnwys y gwerthusiad o asedau a'r perfformiad buddsoddi ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 30 Medi 2023.