Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Lilian Hopkin, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

39.

Aelodaeth o'r Bwrdd Pensiwn Lleol.

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd gyda thristwch at David White, cyn-aelod o'r Bwrdd, a fu farw'n ddiweddar. Ychwanegodd fod llythyr cydymdeimlo wedi ei anfon at ei deulu ar ran y Bwrdd.

 

Croesawodd y Cadeirydd Rob Thomas hefyd i'w gyfarfod cyntaf fel aelod newydd o'r Bwrdd Pensiwn Lleol.

40.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

 

Datganodd y Cynghorydd S A Knoyle, Rosemary Broad, Ian Guy a Rob Thomas gysylltiadau personol â'r agenda gyfan.

 

Datganodd Karen Cobb, Jeff Dong, Jeremy Parkhouse a Melissa Perry gysylltiadau personol â'r agenda gyfan.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: -

 

Datganodd y Cynghorydd S A Knoyle, Rosemary Broad, Ian Guy a Rob Thomas fuddiannau personol yn yr agenda yn gyffredinol.

 

Datganodd Karen Cobb, Jeff Dong, Jeremy Parkhouse a Melissa Perry fuddiannau personol mewn perthynas â'r agenda yn gyffredinol.

41.

Cofnodion. pdf eicon PDF 140 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn Lleol a gynhaliwyd ar 5 Ionawr 2024 fel cofnod cywir.

42.

Adroddiadau Archwilio Mewnol - Buddsoddiadau Cronfa Bensiwn a Gweinyddiaeth Cronfa Bensiwn. pdf eicon PDF 136 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd Jeff Dong, Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er wybodaeth' a oedd yn cyflwyno canfyddiadau'r Adroddiadau Archwilio Mewnol ar Fuddsoddiadau'r Gronfa Bensiwn a Gweinyddiaeth y Gronfa Bensiwn.

 

Amlinellwyd bod Is-adran Archwilio Mewnol Cyngor Abertawe, fel rhan o'r rheolaeth fewnol gylchol - sicrwydd ac adrodd, wedi cynnal archwiliad o systemau rheoli mewnol sy'n cynnwys Buddsoddiadau Cronfa Bensiwn a Gweinyddu Pensiynau. Roedd eu gwaith yn golygu cynnal profion rheolaidd o'r systemau rheolaeth ariannol a rheoli yn y meysydd gwaith hyn o'r Gronfa Bensiwn.

 

Roedd y lefelau sicrwydd a ddeilliodd o’r gwaith o’r ddau archwiliad yn ‘uchel’. Roedd yr Adroddiad Archwilio Mewnol – Buddsoddiadau’r Gronfa Bensiwn wedi’i ddarparu yn Atodiad 1 a’r Adroddiad Archwilio Mewnol – Gweinyddu Pensiynau yn Atodiad 2.

 

Trafododd y Bwrdd y lefelau risg o ran rheolwyr cronfeydd a'r ddibyniaeth ar drydydd partïon i ddarparu'r wybodaeth gywir i'r Gronfa.

 

Rhoddodd y Cadeirydd longyfarchiadau ar ran y Bwrdd i'r holl staff a gymerodd ran am eu gwaith.

43.

Cynllun Busnes Partneriaeth Pensiwn Cymru 2024-27. pdf eicon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi'r diweddaraf o ran cynnydd a gwaith Partneriaeth Pensiwn Cymru (WPP). Roedd Atodiad 1 yn darparu Cynllun Busnes WPP ar gyfer 2024-27.

 

Tynnodd y Cadeirydd sylw at y sesiynau hyfforddi rhagorol a ddarparwyd yn flaenorol gan y WPP.

44.

Adroddiad am Doriadau. pdf eicon PDF 265 KB

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu manylion unrhyw doriadau a gafwyd yn y cyfnod hwn yn unol â'r polisi Adrodd am Doriadau.

 

Yn Atodiad A darparwyd manylion y toriadau a gafwyd ers cyfarfod diwethaf y Bwrdd Pensiwn Lleol ym mis Tachwedd 2023. Nodwyd manylion y toriadau a'r camau gweithredu a gymerwyd gan reolwyr.

45.

Cynllun Busnes Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2024/25. pdf eicon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn nodi fframwaith gweithredol ar gyfer rhaglen waith y Gronfa Bensiwn ar gyfer 2024/25.

 

Amlinellwyd bod y Gronfa Bensiwn, yn unol ag arfer gorau, wedi llunio cynllun busnes, cofrestr risgiau, cyllideb a dyraniad asedau i lywio'i rhaglen waith ar gyfer y cyfnod o 12 mis sydd i ddod. Atodwyd y cynllun busnes, y gyllideb, y gofrestr risg a'r dyraniad asedau ar gyfer 2024/25 yn Atodiadau 1, 2, 3 a 4.

 

Nodwyd bod yr adroddiad wedi'i gymeradwyo gan Bwyllgor y Gronfa Bensiwn ar 20 Mawrth 2024.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am fanylion ynghylch cysodi Isafswm Pensiwn Gwarantedig. Dywedodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog S151 y byddai'n adrodd ar y manylion yn ystod y cyfarfod nesaf a drefnwyd.

46.

Gwahardd y Cyhoedd. pdf eicon PDF 115 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Bwrdd wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/ion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y bwrdd brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

47.

Strategaeth Fuddsoddi Strwythuro Gweithredu.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog S151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi gwybodaeth i'r Bwrdd ynghylch awdurdod dirprwyedig y cytunwyd arno gan Bwyllgor y Gronfa Bensiwn ar 20 Mawrth 2024, i roi strwythur buddsoddi y strategaeth buddsoddi a gymeradwywyd ar waith.

48.

Diweddariad ar Bartneriaeth Pensiwn Cymru.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd Pensiwn Lleol am gynnydd a gwaith Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC).

49.

Caffael Gweithredwr Partneriaeth Pensiwn Cymru.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog S151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi gwybod i'r Bwrdd am Adroddiad Argymhelliad Gweithredwyr Caffael Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) a ddarparwyd yn Atodiad 1, a gymeradwywyd gan Bwyllgor y Gronfa Bensiwn ar 20 Mawrth 2024.

50.

Crynodeb Buddsoddi.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn cyflwyno'r gwerthusiad o asedau a'r perfformiad buddsoddi ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2023.

51.

Adroddiad Monitro Buddsoddi Chwarterol.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog S151 adroddiad 'er gwybodaeth' a diweddariad ar y farchnad a'r buddsoddi chwarterol i'r gronfa.

 

 

52.

Polisi Buddsoddi Cyfrifol.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog S151 'er gwybodaeth' y Polisi Buddsoddiad Cyfrifol (BC) a oedd yn amlinellu amcanion sylfaenol Polisi BC, credoau'r Pwyllgor ar ran y Gronfa a'r hyn a ddisgwylir o gael y Polisi ar waith.

 

Roedd hefyd yn rhoi manylion ynghylch y camau a fyddai'n cael eu cymryd i gyflawni'r amcanion hyn a'r modd yr asesir y camau hyn er mwyn barnu a oedd y canlyniadau disgwyliedig yn cael eu cyflawni.