Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

15.

Ethol Cadeirydd (Dros Dro)

Cofnodion:

Roedd y Cadeirydd yn bresennol yn rhithwir ar gyfer y cyfarfod ond nid oedd ganddo swyddogaeth sain ar gael. Cynigwyd bod Cadeirydd (Dros Dro) yn cael ei ethol o'r aelodau eraill a oedd yn bresennol.

 

Penderfynwyd bod y Cynghorydd C R Doyle yn cael ei ethol yn Gadeirydd (Dros Dro).

 

(Y Cynghorydd C R Doyle fu'n llywyddu)

16.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Yn unol â'r Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: -

 

Datganodd y Cynghorydd C R Doyle, y Cynghorydd S A Knoyle, Rosemary Broad ac Ian Guy fuddiannau personol yn yr agenda gyfan.

 

Datganodd Karen Cobb, Jeff Dong, Jeremy Parkhouse a Melissa Perry fuddiannau personol yn yr agenda gyfan.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: -

 

Datganodd y Cynghorydd C R Doyle, y Cynghorydd S A Knoyle, Rosemary Broad ac Ian Guy fuddiannau personol yn yr agenda cyfan.

 

Datganodd Karen Cobb, Jeff Dong, Jeremy Parkhouse a Melissa Perry fuddiannau personol yn yr agenda cyfan.

17.

Cofnodion. pdf eicon PDF 225 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn Lleol a gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf 2023 fel cofnod cywir.

 

18.

Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe - Drafft Adroddiad a Datganiad Cyfrifon Blynyddol 2022/23. pdf eicon PDF 123 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Darparodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 yr Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon drafft ar gyfer Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2022/23 'er gwybodaeth'.

 

Cyflwynodd Swyddogion Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon Drafft 2022/23 i Archwilio Cymru i ddechrau ar eu harchwiliad. Mae Archwilio Cymru wedi dechrau ar eu harchwiliad o Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon Drafft y Gronfa Bensiwn 2022/23. Byddai eu hadroddiad SRhA dilynol yn cynnwys barn archwilio a chanfyddiadau archwilio yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn ar ddiwedd yr archwiliad ym mis Tachwedd 2023, ochr yn ochr â'u cynllun archwilio gohiriedig.

 

Atodwyd Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon Drafft Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2022/23 yn Atodiad 1.

 

Gwnaeth y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 sylw ynghylch bod Abertawe yn safle 1 yn nhabl y gynghrair o enillion ar fuddsoddiad am y 3 blynedd hyd at 31/3/23 a'i bod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Cronfa CPLlL y Flwyddyn. Diolchwyd i staff yr Adran Gyllid a'u llongyfarch am eu gwaith a'u hymroddiad.

19.

Adroddiad am doriadau. pdf eicon PDF 241 KB

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu manylion unrhyw doriadau a gafwyd yn y cyfnod hwn yn unol â'r polisi Adrodd am Doriadau.

 

Yn Atodiad A darparwyd manylion y toriadau a gafwyd ers cyfarfod diwethaf Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ym mis Gorffennaf 2023. Nodwyd manylion y toriadau a'r camau gweithredu a gymerwyd gan reolwyr.

 

20.

Gwahardd y Cyhoedd. pdf eicon PDF 127 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Bwrdd wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/ion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Bwrdd brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

21.

Adolygiad o'r Adroddiad Sicrwydd Rheoli.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth.

Cofnodion:

Rhoddodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' o eitemau adroddadwy a oedd wedi'u cynnwys yn adroddiadau sicrwydd ynghylch rheolaethau mewnol rheolwyr/ceidwaid penodedig cronfeydd.

22.

Partneriaeth Pensiwn Cymru - Y Diweddaraf am Gynnydd.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn am gynnydd a gwaith Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC).

23.

Adroddiad(au) yr Ymgynghorwyr Annibynnol.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn cynnwys buddsoddi chwarterol a'r wybodaeth ddiweddaraf am y farchnad i’r gronfa, cynnydd ymarfer ôl troed carbon a darn addysg ar yr adolygiad modelu rhwymedigaeth asedau ac adolygiad o’r strategaeth fuddsoddi sydd ar ddod.

24.

Crynodeb Buddsoddi.

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn cynnwys y gwerthusiad o asedau a'r perfformiad buddsoddi ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2023.

 

Mynegodd y Bwrdd werthfawrogiad o waith y Swyddogion Cyllid wrth gynhyrchu'r adroddiadau.