Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â’r Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd
y buddiannau a ganlyn:- Datganodd Ian Guy a David White fuddiant
personol yn yr holl agenda fel aelodau o’r Gronfa Bensiwn. Datganodd Karen Cobb, Jeff Dong, Jeremy Parkhouse a Melissa Perry fuddiant personol yn yr holl agenda fel aelodau o’r Gronfa Bensiwn. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: - Datganodd Ian Guy
a David White gysylltiadau personol â'r agenda yn ei chyfanrwydd, fel aelodau'r
Gronfa Bensiwn. Datganodd Karen Cobb,
Jeff Dong, Jeremy Parkhouse a Melissa Perry gysylltiadau personol â'r agenda yn
ei chyfanrwydd, fel aelodau'r Gronfa Bensiwn. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Bwrdd Pensiwn Lleol a gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2023 fel cofnod cywir. |
|
Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe - Datganiad am y Strategaeth Ariannu Ddrafft. PDF 225 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran
151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn amlinellu cymeradwyaeth i sicrhau y
cydymffurfir â Rheoliadau'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol y mae angen
datganiad strategaeth ariannu ar eu cyfer. Roedd Atodiad 1 yn
darparu'r Datganiad Strategaeth Ariannu Drafft. |
|
Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Darparodd Laura Caudwell o AON adroddiad manwl ar ganlyniadau Prisiad Actiwaraidd Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe ar 31
Mawrth 2022 i'r Bwrdd. Roedd y
cyflwyniad yn amlinellu canlyniadau prisiad 2022, y broses brisio a'r rhagdybiaethau.
Byddai’r canlyniadau hyn yn cael eu hanfon at yr Adran Ffyniant Bro, Tai a
Chymunedau yn ôl y gofyn ac yn dod i rym o 1 Ebrill 2023. Diolchodd y
Cadeirydd i gynrychiolydd AON am y cyflwyniad. |
|
Cynllun Busnes Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2023/24.. PDF 323 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151
adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn amlinellu'r cymeradwyaeth i ddarparu
fframwaith gweithredol ar gyfer rhaglen waith y Gronfa Bensiwn ar gyfer
2023/24. Nodwyd bod y Gronfa Bensiwn, yn unol ag arfer
gorau, wedi llunio cynllun busnes, cofrestr risgiau, cyllideb a dyraniad asedau
i lywio'i rhaglen waith ar gyfer y cyfnod o 12 mis sydd i ddod. Atodwyd y
cynllun busnes, y gyllideb, y gofrestr risg a'r dyraniad asedau ar gyfer
2023/24 yn Atodiadau 1, 2, 3 a 4 yr adroddiad. |
|
Adroddiad Toriadau. PDF 470 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn darparu manylion unrhyw doriadau a gafwyd yn y cyfnod hwn yn unol â'r
polisi Adrodd am Doriadau. Yn Atodiad A
darparwyd manylion y toriadau a gafwyd ers cyfarfod diwethaf y Bwrdd Pensiwn
Lleol ym mis Ionawr 2023. Nodwyd
manylion y toriadau a'r camau gweithredu a gymerwyd gan reolwyr. |
|
Hyfforddiant Ymddiriedolwyr. PDF 280 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn amlinellu'r rhaglen hyfforddiant flynyddol ar gyfer aelodau Pwyllgor
y Gronfa Bensiwn a'r Bwrdd Pensiwn Lleol a swyddogion y Gronfa Bensiwn. Darparwyd yr
asesiad a'r cynllun hyfforddiant amlinellol yn 3.7, 3.8 a 3.9 yn yr adroddiad
ac ychwanegwyd y byddai cyfleoedd pellach a nodwyd yn ystod y flwyddyn yn cael
eu dirprwyo i Ddirprwy Swyddog Adran 151 i'w cymeradwyo. |
|
Gwahardd y Cyhoedd. PDF 237 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Bwrdd wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au)
f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/ion yr adroddiad ar
y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym
mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i
diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad)
(Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y Bwrdd
brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a
nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Diweddariad am Bartneriaeth Pensiwn Cymru. Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' i
roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd Pensiwn Lleol am gynnydd a gwaith Partneriaeth
Pensiwn Cymru (PPC). |
|
Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi. Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn darparu'r Adroddiad Monitro Buddsoddi ar gyfer Hymans Robertson ar
gyfer Chwarter 4 2022 'er gwybodaeth'. |
|
Crynodeb Buddsoddi. Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn cynnwys y gwerthusiad o asedau a'r perfformiad buddsoddi ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2022. |