Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

19.

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2022-2023.

Penderfyniad:

Penderfynwyd ethol David White yn Is-Gadeirydd am weddill y flwyddyn Gyngor.

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol David White yn Is-gadeirydd ar gyfer gweddill y flwyddyn ddinesig.

20.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Yn unol â’r Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau a ganlyn:-

 

Datganodd y Cynghorwyr C R Doyle fuddiant personol yn yr holl agenda fel aelodau o'r Gronfa Bensiwn.

 

Datganodd Ian Guy a David White fuddiant personol yn yr holl agenda fel aelodau o’r Gronfa Bensiwn.

 

Datganodd Karen Cobb, Jeff Dong, Jeremy Parkhouse a Melissa Perry fuddiant personol yn yr holl agenda fel aelodau o’r Gronfa Bensiwn.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: -

 

Datganodd y Cynghorwyr C R Doyle ac M B Lewis gysylltiadau personol â'r agenda yn ei chyfanrwydd, fel aelodau'r Gronfa Bensiwn.

 

Datganodd Ian Guy a David White gysylltiadau personol â'r agenda yn ei chyfanrwydd, fel aelodau'r Gronfa Bensiwn.

 

Datganodd Karen Cobb, Jeff Dong, Jeremy Parkhouse a Melissa Perry gysylltiadau personol â'r agenda yn ei chyfanrwydd, fel aelodau'r Gronfa Bensiwn.

21.

Cofnodion. pdf eicon PDF 232 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn Lleol a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2022 fel cofnod cywir.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am ddiweddariad ynghylch cynnydd o ran Cynllun Archwilio 2022 - Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe. Cadarnhawyd y byddai Swyddog Archwilio Cymru'n adrodd i gyfarfod y bwrdd ym mis Tachwedd 2022.

 

Gwnaeth y Cadeirydd sylw hefyd ynghylch safon ardderchog yr hyfforddiant ar y cyd diweddar a dderbyniwyd gan y Bwrdd ac aelodau'r pwyllgor.

22.

Adroddiad Disgresiynau Awdurdod. pdf eicon PDF 128 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Darparodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi manylion penderfyniad Pwyllgor y Gronfa Bensiwn i lunio a chymeradwyo Rhyddid yr Awdurdod Gweinyddu i weithredu, yn unol â Rheoliadau CPLlL.

 

Amlinellwyd bod y gwaith o reoli gweinyddiaeth cronfa CPLlL ar adegau yn gofyn am roi rhyddid i'r Awdurdod Gweinyddu i weithredu dan Reoliadau Gweinyddu'r CPLlL wrth iddo ymdrin ag aelodau a gweithwyr  Rhaid i awdurdod gweinyddu ffurfioli ac egluro, naill ai mewn polisi ysgrifenedig neu mewn ffordd arall, os yw'n bwriadu gweithredu'r rhyddid hwn, a sut y gwneir hyn.

 

Darparwyd argymhellion Dinas a Sir Abertawe ynghylch Rhyddid i Weithredu yr Awdurdod Gweinyddu i’w gymeradwyo yn Atodiad A.

 

Nododd y Cadeirydd y pwysigrwydd i aelodau'r cynllun o ran cwblhau enwebiadau yn achos marwolaeth.

23.

Adroddiad am Doriadau. pdf eicon PDF 373 KB

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu manylion unrhyw doriadau a gafwyd yn y cyfnod hwn yn unol â'r polisi Adrodd am Doriadau.

 

Yn Atodiad A darparwyd manylion y toriadau a gafwyd ers cyfarfod diwethaf y Bwrdd Pensiwn Lleol. Nodwyd manylion y toriadau a'r camau gweithredu a gymerwyd gan reolwyr.

24.

Gwahardd y Cyhoedd. pdf eicon PDF 236 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Bwrdd wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/ion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y bwrdd brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

25.

Diweddariad am Bartneriaeth Pensiwn Cymru.

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd Pensiwn Lleol am gynnydd a gwaith Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC).

26.

Crynodeb Buddsoddi.

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn cynnwys y gwerthusiad o asedau a'r perfformiad buddsoddi ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2022.

27.

Adroddiad Chwarterol yr Ymgynghorydd Buddsoddi.

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu'r Adroddiad Monitro Buddsoddi ar gyfer Chwarter 2 2022.

 

Nodwyd cynnwys yr adroddiad gan y Bwrdd a gofynnwyd cwestiynau amrywiol, ac fe'u hatebwyd yn briodol.