Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 01792 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2022-2023. Cofnodion: Penderfynwyd ethol Ian Guy yn Is-gadeirydd ar gyfer
Blwyddyn Ddinesig 2022-2023. (Bu Ian Guy yn llywyddu) |
|
Ethol Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2022-2023. Penderfyniad: Penderfynwyd penodi David White yn Is-Gadeirydd Dros Dro yn amodol ar drafodaethau pellach yn y cyfarfod nesaf a drefnwyd. Cofnodion: Penderfynwyd ethol David White yn Is-gadeirydd dros
dro yn amodol ar drafodaethau pellach yn y cyfarfod nesaf a drefnwyd. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â’r Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd
y buddiannau a ganlyn:- Datganodd y Cynghorwyr C R Doyle ac S A Knoyle fuddiant personol yn yr
holl agenda fel aelodau o'r Gronfa Bensiwn. Datganodd Ian Guy a David White fuddiant
personol yn yr holl agenda fel aelodau o’r Gronfa Bensiwn. Datganodd Karen Cobb, Jeff Dong, Jeremy Parkhouse a Stephanie Williams fuddiant personol yn yr holl agenda fel aelodau o’r Gronfa Bensiwn. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: - Datganodd y
Cynghorwyr C R Doyle ac S A Knoyle gysylltiadau personol â'r agenda yn ei
chyfanrwydd, fel aelodau'r Gronfa Bensiwn. Datganodd Ian Guy
a David White gysylltiadau personol â'r agenda yn ei chyfanrwydd, fel aelodau'r
Gronfa Bensiwn. Datganodd Karen Cobb, Jeff Dong, Jeremy Parkhouse a Stephanie Williams gysylltiadau personol â'r agenda yn ei chyfanrwydd, fel aelodau'r Gronfa Bensiwn. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Bwrdd Pensiwn Lleol a gynhaliwyd ar 1 Ebrill 2022 fel cofnod cywir. |
|
Cynllun Archwilio Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2022. PDF 772 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy Swyddog Adran 151 Gynllun Archwilio 2022
Archwilio Cymru - Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe. Roedd yr
adroddiad yn amlinellu'r gwaith yr oedd Archwilio Cymru'n bwriadu ei wneud yn
ystod 2022 i ryddhau eu cyfrifoldebau statudol fel archwiliwr allanol, a
chyflawni eu rhwymedigaethau dan y Côd Ymddygiad i archwilio ac ardystio a yw
datganiadau cyfrifyddu'r Gronfa Bensiwn yn 'wir ac yn deg'. Amlinellwyd mai
diben y cynllun oedd nodi'r gwaith arfaethedig, pryd y byddai'n cael ei wneud,
faint y byddai'n ei gostio a phwy fyddai'n gwneud y gwaith. Ychwanegwyd nad oedd unrhyw gyfyngiadau
wedi'u gosod ar yr archwilwyr wrth gynllunio cwmpas yr archwiliad. Roedd y cynllun
hefyd yn amlinellu effaith barhaus COVID-19, archwiliad cyfrifon y gronfa
bensiwn, risgiau'r archwiliad ariannol, swyddogaethau archwilio statudol, ffi
archwilio, y tîm archwilio a'r amserlen. Nododd y
Cadeirydd yr amserlen ddiwygiedig a nodwyd bod Archwilio Cymru'n bwriadu
darparu eu hadroddiad yn hydref 2022. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Cyngor a Sir Abertawe Cronfa Penswn - Datganiad o Gyfrifon Drafft 2021/22. PDF 97 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Darparodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu'r
adroddiad blynyddol a'r datganiad o gyfrifon drafft ar gyfer Cronfa Bensiwn
Dinas a Sir Abertawe 2021/2022. Amlinellwyd bod Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe bob amser wedi
cynhyrchu datganiad o gyfrifon ac adroddiad blynyddol ar wahân mewn perthynas
â'r flwyddyn ariannol dan sylw, a oedd yn destun archwiliad cyhoeddus. Fodd
bynnag, mewn ymgynghoriad ag Archwilio Cymru, penderfynwyd cydgrynhoi'r ddwy
ddogfen yn un a symleiddio'r broses gynhyrchu/archwilio. Ychwanegwyd bod Swyddogion wedi cyflwyno adroddiad
blynyddol a datganiad o gyfrifon drafft wedi’u cwblhau ar gyfer 2021/22 i
Archwilio Cymru i ddechrau eu harchwiliad.
Roedd Archwilio Cymru wedi awgrymu na fyddent yn dechrau ar eu
harchwiliad o Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon drafft y Gronfa
Bensiwn ar gyfer 2020/21 tan fis Medi 2022. Byddai eu hadroddiad SRA 260
dilynol gyda barn a chanfyddiadau archwilio’n cael ei gyflwyno i Bwyllgor y
Gronfa Bensiwn / y Bwrdd Pensiwn Lleol ar ddiwedd yr archwiliad ym mis Tachwedd
2022. Atodwyd Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon Drafft Cronfa Bensiwn
Dinas a Sir Abertawe 2021/22 yn Atodiad 1. Gwnaeth y Bwrdd
sylwadau am y canlyniadau ardderchog, y cynnydd mewn cyfraniadau pensiwn, sut
mae'r Gronfa wedi'i hamddiffyn gan ddeddfwriaeth rhag ymyrraeth Llywodraeth
Ganolog, yr arian a dalwyd gan y Gronfa i gefnogi'r economi leol a'r angen i
amlygu hyn yn y dyfodol. Diolchwyd i staff yr Adran Gyllid a'u llongyfarch am eu gwaith a'u hymroddiad wrth lunio'r adroddiad a Datganiad o Gyfrifon 2021/22. |
|
Adroddiad am doriadau. PDF 363 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn darparu manylion unrhyw doriadau a gafwyd yn y cyfnod hwn yn unol â'r
polisi Adrodd am Doriadau. Yn Atodiad A darparwyd manylion y toriadau a gafwyd ers cyfarfod diwethaf y Bwrdd Pensiwn Lleol ym mis Ebrill 2022. Amlygwyd manylion y toriadau a'r camau gweithredu a gymerwyd gan reolwyr. |
|
Hyfforddiant Ymddiriedolwyr.. PDF 276 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' a
oedd yn gofyn am benderfyniad ar raglen
hyfforddiant flynyddol ar gyfer aelodau Pwyllgor y Gronfa Bensiwn a'r Bwrdd
Pensiwn Lleol a swyddogion y Gronfa Bensiwn. Pwysleisiodd y Cadeirydd bwysigrwydd yr hyfforddiant a safon ardderchog yr hyfforddiant a ddarparwyd hyd yn hyn. Amlygodd hefyd y buddion o gael sesiynau hyfforddiant ar y cyd ag Aelodau Pwyllgor y Gronfa Bensiwn. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 237 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Gofynnwyd i'r Bwrdd
wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a
nodwyd yn argymhelliad/ion yr adroddiad ar y sail ei
bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym
mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i
diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad)
(Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y bwrdd
brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a
nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Rhoi'r Strategaeth Buddsoddi ar Waith - Diweddariad. Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy Swyddog A151 adroddiad
'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi'r diweddaraf i'r Bwrdd am y cynnydd a wnaed ar
barhad y rhaglen ailddyrannu (dadrisgio) asedau o
ecwitïau i asedau sy'n cynhyrchu, a rhoi procsi rhaglen diogelu ecwiti ar
waith. Gwnaeth y Bwrdd sylwadau ar yr ymarfer prisio 3 blynedd sydd ar waith ar
hyn o bryd, a'r lefel ariannu gadarnhaol iawn ar 31 Mawrth 2022. |
|
Cynllun y daith i fod yn Sero-net. Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er
gwybodaeth' a oedd yn darparu'r cynllun, yr amcanion a'r amserlen ar gyfer dod
yn Sero-net. Roedd y Bwrdd yn
cydnabod pwysigrwydd ymgysylltu parhaus a'r newyddion cadarnhaol bod y Gronfa'n
gwneud cynnydd da tuag at ei tharged o fod yn Sero-net erbyn 3036. Hefyd nododd y
Cadeirydd yr ohebiaeth a gafwyd gan Gyfeillion y Ddaear. Ychwanegwyd y byddai gohebiaeth i Aelodau
lleol y Senedd mewn perthynas â thargedau sero-net yn cael ei dosbarthu i'r
Bwrdd gan y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy Swyddog A151. |
|
Partneriaeth Pensiwn Cymru - Datganiad o Gyfrifon a Ffurflen Archwiliad drafft.
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' a
oedd yn rhoi'r diweddaraf i'r Pwyllgor am Adroddiad Blynyddol a Datganiad o
Gyfrifon Drafft Partneriaeth Pensiwn Cymru 2021/22. |
|
Cynllun Busnes Partneriaeth Pensiwn Cymru.
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' a
oedd yn rhoi'r diweddaraf i'r Pwyllgor am Adroddiad Blynyddol a Datganiad o
Gyfrifon Drafft Partneriaeth Pensiwn Cymru 2021/22. |
|
Diweddariad am Bartneriaeth Pensiwn Cymru. Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy Swyddog A151 adroddiad a
oedd yn darparu fframwaith ar gyfer rhaglen waith Partneriaeth Pensiwn Cymru
(PPC) ar gyfer 2022-2025. |
|
Crynodeb Buddsoddi. Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd
yn cynnwys y gwerthusiad o asedau a'r perfformiad buddsoddi ar gyfer y chwarter,
y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022. |
|
Adroddiad(au) yr Ymgynghorwyr Ariannol Annibynnol.
Penderfyniad: For information. Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn darparu'r Adroddiad Monitro Buddsoddi ar gyfer Chwarter 1 2022. Nodwyd cynnwys yr
adroddiad gan y pwyllgor a gofynnwyd cwestiynau amrywiol, ac fe'u hatebwyd yn briodol. |
|
Llythyrau o Ddiolch. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cynigiodd y
Cadeirydd y dylid anfon llythyrau o ddiolch at y Cynghorydd Alan Lockyer a'r
cyn-gynghorydd Peter Jones i ddiolch am eu cyfraniadau fel aelodau blaenorol y
Bwrdd Pensiwn Lleol. Penderfynwyd y bydd Swyddog y Gwasanaethau
Democrataidd yn cysylltu â'r Cadeirydd ac yn anfon y llythyrau ymlaen at
aelodau blaenorol y Bwrdd Pensiwn Lleol. |
|
Dyddiadau Cyfarfodydd y Dyfodol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Amlygwyd bod
cyfarfodydd y Bwrdd Pensiwn Lleol a drefnwyd ar gyfer mis Medi 2022 a mis
Mawrth 2023 yn gwrthdaro â chyfarfodydd Partneriaeth Pensiwn Cymru. Penderfynwyd y byddai Swyddog y Gwasanaethau
Democrataidd yn dosbarthu dyddiadau amgen ar gyfer y cyfarfod. |